Yn y gorffennol, roedd hi’n anodd ar weithgynhyrchwyr a chwmnïau peirianyddol bach a oedd eisiau manteisio ar y systemau TG modern. Roedd caledwedd, meddalwedd, cynnal a chadw ac uwchraddio rheolaidd i gyd yn ddrud, a olygai mai dim ond y cwmnïau mwy allai fforddio’r systemau.

Mae’r rhyngrwyd – a bellach y cwmwl – wedi newid hynna i gyd. Erbyn hyn mae pawb yn fwy cyfartal – ar y we ni all neb ddweud beth yw maint eich cwmni, oni’ch bod yn dweud hynny wrth gwrs, a gall unrhyw un werthu fwy neu lai i unrhyw le.


Document

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen