Mae un o gyfrinachau gorau Cymru, Gwaith Llechi Inigo Jones, wedi gweddnewid ei hun i fod yn frand byd-eang o fri gan ddefnyddio ‘pŵer tri’ i sefydlu ei le yn y farchnad gystadleuol sydd ohoni. Drwy gyfuno gwerthoedd traddodiadol a chrefftwaith, a llygaid da am ddylunio cynhyrchion, ac uchelgais i gyrraedd marchnadoedd ehangach; mae’r cwmni wedi creu enw da iddo’i hun yn fyd-eang. A nawr mae wedi troi at dechnoleg i greu cynnydd o 5% mewn gwerthiant ar-lein, ac mae yna gynlluniau ar droed i fanteisio ar botensial cwsmeriaid iau drwy gyfrwng yr ap Inigo Jones newydd.

 

“Mae cyfuno traddodiad a datblygiad yn allweddol i ni,” meddai John Lloyd. “Mae gennym gynhyrchion bendigedig ond mae angen i ni eu rhoi ar y farchnad ac addasu beth ydym yn ei werthu a sut ydym yn eu gwerthu er mwyn bodloni anghenion y cwsmeriaid. Gallwch weld bod gennym enw da hanesyddol am weddnewid ein hunain er mwyn parhau i fod yn gyfoes heb golli ein huniondeb.” 

 

Man working in a workshop

 

Sefydlwyd Inigo Jones yn 1861 er mwyn gwerthu llechi ysgrifennu i ysgolion lleol, ac erbyn heddiw mae’n frand o fri byd-eang. Yn ogystal â’i ddefnydd arloesol o lechi i greu cofroddion, yn ddiweddar mae’r cwmni wedi cyflenwi llechi at ddefnydd mwy domestig, ac mae’n cael cydnabyddiaeth fyd-eang am ei gynhyrchion o safon uchel i’r cartref yn cynnwys clociau, matiau bwrdd, raciau gwin, standiau seinyddion, lloriau a byrddau gwaith ceginau.

 

Yn hanesyddol, mae cartref y cwmni ger Caernarfon wedi bod yn lleoliad da iddo ym marchnad twristiaeth bwysig Eryri. Ond mae’r fantais ddaearyddol honno hefyd wedi bod yn rhwystr o ran cyrraedd marchnadoedd ehangach. Mae manteisio’n llawn ar dechnoleg ar-lein wedi newid hynny i gyd. Dywedodd John Lloyd, Rheolwr Gyfarwyddwr Inigo Jones: “Mae cyrraedd marchnadoedd ehangach wedi bod yn her i ni erioed.

 

“O ganlyniad i’r cymorth un i un gan Gyflymu Cymru i Fusnesau, rydym yn gallu deall yn well sut mae cynyddu gwerthiant drwy wneud y mwyaf o’n potensial gwerthu ar-lein yn fyd-eang. Nawr, ble bynnag maent yn y byd, gall ein cwsmeriaid nid yn unig weld y cynnyrch maent yn ei archebu ar aml-blatfformau, ond gallant hefyd dalu amdanynt yn ddiogel cyn eistedd yn ôl a disgwyl iddynt gael eu cludo at eu stepen drws.”

 

Mae cynyddu ymwybyddiaeth o’r brand drwy fwy o weithgaredd marchnata digidol, yn ogystal â gwneud y mwyaf o botensial gwerthiant ar-lein drwy wasanaethau Cwmwl, hefyd wedi galluogi’r cwmni i ymateb i anghenion marchnadoedd gwerth uchel pwrpasol. Dywedodd John: “Mae’r ffordd rwydd y gall cwsmeriaid rannu eu gofynion dylunio penodol erbyn hyn wedi newid sut ydym yn ymgysylltu â chleientiaid. Mae’n fy nghyffroi wrth feddwl bod llechi Cymreig 500 miliwn oed - o fatiau bwrdd i blaciau a byrddau gwaith ceginau - i’w cael mewn cartrefi ac adeiladu o fri o gwmpas y byd diolch i dechnoleg y 21ain ganrif.”

 

Cam arloesol diweddaraf y cwmni fu lansio Ap Inigo Jones. I’w ddefnyddio ar blatfformau iPhone ac iPad, mae ar gael i’w lawrlwytho o App Store Apple. Pwrpas Ap Inigo Jones yw rhoi mynediad i’r cwmni i botensial cwsmeriaid iau, ac mae’n cynnig taith sain ryngweithiol o’u gweithdy llechi sy’n cynnwys  crefftwyr medrus iawn wrth eu gwaith. 

 

Mae mabwysiadu system gyfrifyddu Cwmwl wedi bod yn ddatblygiad diweddar hefyd, ac mae John Lloyd yn cydnabod bod hynny wedi  golygu bod rhedeg y cwmni o ddydd i ddydd yn llawer mwy effeithiol yn sgil yr amser a arbedir gyda’r broses filio a thasgau gweinyddol arferol eraill. “Gyda system gadw wrth gefn awtomatig a diweddariadau meddalwedd rheolaidd rydym hefyd yn hapus o wybod bod ein storfa ddata yn ddiogel” ychwanegodd Mr Lloyd. 

 

Mae cyngor gan Gyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn rhan bwysig o alluogi Inigo Jones i fod yn ymwybodol o’r dyblygiadau ar-lein diweddaraf.” Dywedodd John Lloyd: “Rydym wedi derbyn y cyngor hwnnw er mwyn manteisio’n llawn ar y posibiliadau lleol a byd eang, sydd hyd yma wedi arwain at gynnydd o 5% yn ein gwerthiant ar-lein. Rydym yn hyderus y bydd buddsoddi’n barhaus yn ein rhyngwyneb gwerthu ar y rhyngrwyd a’n strategaeth marchnata digidol yn agor marchnadoedd newydd i ni eto yn y DU ac yn fyd-eang.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen