Dysgwch sut mae Llety Cynin, yng Nghaerfyrddin, yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ar-lein i dyfu’r busnes â chwsmeriaid lleol a ledled y byd.

 

Clywch sut mae systemau cwmwl yn helpu staff i weithio'n fwy effeithiol, a marchnata digidol yn caniatáu i'r busnes ehangu a thargedu twf o 20% o ran trosiant.

 

 

Elizabeth Davies:

 

Mae Llety Cynin wedi cael ei sefydlu ar Fferm Pen-y-coed just y tu fas i Sanclêr.

 

Roedd cyfle i ddatblygu’r hen adeilad yma mewn i dŷ, ond roeddwn i’n meddwl ei fod yn rhy fawr i wneud hynny, ac rydyn ni wedi sefydlu fe mewn i fusnes sy’n cynnwys pwll nofio a llety i sefyll dros nos.

 

Wrth ddefnyddio’r we, rydyn ni’n gallu hybu’r busnes. Ni fyddai ar gael yn yr un modd heb fod y we ar gael i ni. Mae tudalen we gyda ni, felly mae pobl yn gallu gwneud ymholiadau y tu fas i oriau agor ac wedyn gallwn eu hateb nhw pan rydyn ni mewn yn y swyddfa’r diwrnod ar ôl hynny. 

 

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi dechrau defnyddio rhaglen ar y we er mwyn gweithio rotas y staff. Mae’n helpu ni achos gallwn ddodi popeth lan ar y we ac mae’n helpu’r staff achos maen nhw’n gallu checko pryd maen nhw fod mewn yn y gwaith neu beidio. 

 

Hefyd, rydyn ni wedi dechrau defnyddio’r we er mwyn rhannu gwybodaeth, felly gall sawl person edrych ar yr un ddogfen ar yr un pryd a gweithio gyda’i gilydd heb iddynt fod yn yr un ystafell.

 

Gwawr Davies:

 

Mae bod ar-lein gyda Llety Cynin yn bwysig iawn i ni. Mae gyda ni wefan sydd fel ffenest siop i ni. Rydyn ni’n rhoi gwybodaeth, popeth rydyn ni’n eu gwneud a ni’n rhedeg gwefan ein hunain. Rydyn ni hefyd ar lwyfannau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter ac rydyn ni yn defnyddio LinkedIn hefyd. Rydyn ni yn meddwl defnyddio LinkedIn mwy i ni gael targedi gwsmeriaid a busnes yn fwy. 

 

Fe wnes i fynd i gwrs brandio a marchnata gyda Busnes Cymru yn ddiweddar. Roedd y cwrs yn grêt, roedd e wir yn cael i chi feddwl am y ffordd am y ffordd rydych chi’n gwerthu’ch busnes.

 

Rydyn ni o hyd yn edrych am rywbeth newydd i ysgrifennu amdano. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n estynu’r busnes felly rydyn ni’n cadw blog ar y wefan sy’n siarad am beth rydyn ni’n ei wneud a gwerthu beth rydyn ni’n ei wneud i’r cwsmeriaid. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hwn yn dangos i’n cwsmeriaid ni bod tro nesaf iddynt ddod 'nôl, mae mwy o bethau’n mynd i fod yma. Bydd ystafelloedd newydd gyda ni, bydd sba newydd gyda ni a rhesymau i ddod 'nôl, ac rydyn ni’n gobeithio gofyn beth maen nhw’n meddwl wrth i ni fynd ymlaen. 

 

Elizabeth Davies:

 

Rydyn ni’n edrych ymlaen i’r estyniad gael ei gwblhau erbyn y Nadolig.

 

Bydd hwn yn rhoi ystafelloedd gwely ychwanegol i ni a chyfleusterau ychwanegol i’r clwb a hefyd byddwn yn edrych am staff ychwanegol. Bydd hwn yn cynyddu’r busnes tua 20% a, gobeithio, yn rhoi rhywbeth i’r ardal y bydden nhw’n hapus, yn bles ac yn browd ohoni.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen