Tra’n disgwyl i fand eang cyflym iawn gyrraedd eich ardal chi, mae yna ychydig o bethau gallwch eu gwneud i gael y mwyaf o’ch cysylltiad rhyngrwyd presennol.

Gwiriwch beth yw’r cyflymder band eang cyflymaf y gallwch ei ddisgwyl

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y cyflymder cysylltiad rydych yn talu amdano gan eich darparwr.  Defnyddiwch www.broadbandspeedchecker.co.uk/ ar wahanol adegau o’r dydd i asesu’r cyflymder rydych yn ei gael.  Ond, os ydych wedi cofrestru am becyn sy’n rhoi 8Mbps i chi efallai nad yw’n rhesymol i chi ddisgwyl cysylltiad cyflymach.

Ceisiwch osgoi llwytho ffeiliau mawr i lawr yn ystod amseroedd brig

Rhwng 7pm ac 11pm,  bydd nifer o Ddarparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISPs) yn gweithredu polisïau rheoli traffig i atal defnyddwyr rhag llwytho llawer o gynnwys i lawr pan fo pawb arall yn yr ardal leol hefyd yn defnyddio’r cysylltiad.

Ailosodwch eich llwybrydd

Cam syml a all helpu i gael gwared ag unrhyw namau ar y cysylltiad.  Diffoddwch eich llwybrydd, blwch pen set a derbynnydd Wi-Fi eich gliniadur, arhoswch am tua 30 eiliad cyn eu troi ymlaen eto.

Gwacau’r System Enwi Parthau (DNS) 

Bydd hyn yn ailosod eich cysylltiad rhyngrwyd, ac mae’n gallu helpu os ydych yn cael problemau llwytho gwefan arbennig.  Mae hyn ychydig yn anoddach; ewch i’r bar cychwyn ac yn y ‘blwch rhedeg’ teipiwch CMD a phwyso return i agor y ffenestr CMD.  Nesaf teipiwch 'ipconfig flushdns' a phwyswch return.  Dylai hyn ddatrys unrhyw broblemau llwytho.

Instructions

Cliriwch cache eich porwr gwe 

Instructions

Mae’n ymarfer da i glirio cache eich cyfrifiadur yn rheolaidd i sicrhau fod gennych gysylltiad da - efallai y gallech wneud nodyn yn eich dyddiadur i’ch atgoffa i wneud hyn unwaith y mis.  I glirio’r cache ewch i’r gosodiadau/opsiynau, yna cysylltiadau rhwydwaith yn eich porwr ac yna pwyso’r botwm ‘clirio’.

Symudwch eich llwybrydd

Gall symud eich llwybrydd yn agosach at eich soced ffôn a chael gwared ag unrhyw geblau estyn neu socedi ffôn eilaidd y gallai fod wedi ei gysylltu iddynt helpu i wella eich cysylltiad.  Bydd cysylltu cymaint o ddyfeisiadau ag y gallwch trwy ether-rwyd yn hytrach na’n ddiwifr hefyd yn helpu.

Gosodwch gyfrinair ar eich llwybrydd 

Mae caniatáu i bawb ddefnyddio eich llwybrydd ac felly eich lled band yn achosi i’ch cyflymder rhyngrwyd arafu yn sylweddol.  Yn waeth fyth, mae rhwydwaith diwifr anniogel yn agored i ymosodiadau gan hacwyr a allai ei ddefnyddio i gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol neu i gyflawni gweithgareddau anghyfreithlon.  Gwnewch yn siŵr fod gennych gyfrinair cryf bob amser.

Newidiwch y sianel 

Mae eich llwybrydd yn defnyddio sianel, os oes yna lawer o rwydweithiau eraill yn agos iawn e.e. eich cymdogion yn defnyddio’r un sianel, gallai achosi ymyriant a phroblemau cyflymder gyda’ch band eang.  Ceisiwch newid y sianel ar eich llwybrydd i un sy’n cael ei ddefnyddio llai.  Efallai bydd angen i chi edrych ar gyfarwyddiadau’r llwybrydd i’ch helpu i newid y sianel.

Gwiriwch eich rhaglenni cychwynnol

Mae nifer o’r rhaglenni ar eich cyfrifiadur yn dechrau rhedeg yn awtomatig pan ydych yn troi eich cyfrifiadur neu liniadur ymlaen.  Golyga hyn eu bod yn gallu diweddaru eu hunain yn gyson ac anfon/derbyn data o’r we.  Mae Java ac iTunes yn ddwy enghraifft o’r rhaglenni hyn.  Gallwch ddefnyddio rhaglen glanhau cofrestrfa am ddim megis Wise Registry Cleaner neu Ccleaner (edrychwch ar y we am raglenni eraill am ddim) i ddadansoddi’r rhaglenni sy’n rhedeg pan ydych yn troi eich cyfrifiadur ymlaen, bydd hefyd yn eich caniatáu i ddewis pa raglenni dylai barhau i gychwyn yn awtomatig.

Defnyddiwch microhidlydd 

Mae’r ddyfais fach hon yn caniatáu i’ch cysylltiad band eang i redeg yn esmwyth ochr yn ochr â’ch gwasanaeth ffôn cartref.  Heb microhidlydd gallech brofi cyflymder rhyngrwyd araf neu ymyriant.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen