Mae tymor y Nadolig wedi cyrraedd ynghyd â’r gwariant mawr blynyddol. Y llynedd, gwariodd defnyddwyr ym Mhrydain y swm anferthol o £77.6 biliwn yn ystod cyfnod y Nadolig. Roedd gwerthiant ar-lein a ysgogwyd gan Ddydd Gwener Gwallgo a Dydd Llun Seibr yn gyfrifol am 27%, ac roedd 12.9% o gynnydd o gymharu â 2015, gydag £8.87 biliwn wedi ei wario ar-lein gan ddefnyddio teclynnau symudol.

 

Credir y bydd y twf hwn mewn e-fasnach ar-lein a symudol yn parhau. Mae’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Fasnachol yn rhagweld y bydd siopwyr yn y DU wedi gwario £67 biliwn ar-lein erbyn diwedd 2017, a bydd £27 biliwn o hwnnw trwy gyfrwng teclynnau symudol.

 

Felly, sut ydych chi’n dod yn rhan o’r farchnad brynu hon sydd â phosibilrwydd o fod yn anferth?

 

Mae gennym 3 ffordd hawdd o’ch helpu i farchnata eich busnes ar-lein ac ennill mwy o gwsmeriaid yn ystod gwyliau’r Nadolig

 

Rhowch wedd newydd i’ch gwefan dros gyfnod y Nadolig

 

Eich gwefan yw eich ffenestr siop ar-lein. Nawr yw’r amser i chi gymryd stoc, adolygu eich gwefan a bod yn wrthrychol. Pa mor ddeniadol yw hi i ddarpar gwsmeriaid? Oes angen diweddaru’r cynnwys? Oes cyfarwyddiadau amlwg ar gyfer gweithredu? Rhowch eich hunain yn esgidiau eich cwsmeriaid - ydy hi’n hawdd iddyn nhw ddod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano? Os yw’ch gwefan yn rhy anodd i symud nôl a mlaen arni, byddwch yn dieithrio cwsmeriaid posibl, ac ni fyddant yn ffwdanu dychwelyd.

 

Mae diweddaru eich gwefan yn gyson yn cymryd amser ac ymdrech ond fe fydd yn talu ar ei ganfed i chi. Mae cynnwys yn hynod bwysig ac mae peiriannau chwilio fel Google yn talu llawer mwy o sylw i wefannau sy’n cael eu hadnewyddu’n gyson gyda chynnwys newydd. Bydd diweddaru eich safle yn hybu eich safle yn y peiriannau chwilio, yn cynyddu pa mor hawdd yw hi i bobl eich cyrraedd ac yn eich helpu i fod yn gyfredol. Os nad ydych chi’n cadw eich gwefan yn ffres, gallwch fentro na fydd y rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn yn gwneud yr un camgymeriad! Rhagor o wybodaeth ar sut i ddatblygu eich gwefan mewn gweithdy chwilio’n well.

 

Yn bennaf oll, gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn gallu cael ei defnyddio’n llawn ar declyn symudol. Yn 2016 yn y DU gwnaed hyd at 80% o ymweliadau siopwyr â gwefannau trwy declynnau symudol neu lechen, gyda 42.3% o bopeth a brynwyd yn cael eu gwneud gan ddefnyddio teclynnau symudol - mae hynny’n uwch nag unrhyw le arall yn Ewrop!

 

Mae The Old Mill Cottages, busnes yn Sir y Fflint a chleient i Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi cynyddu ei incwm archebu 50% drwy ddefnyddio marchnata ar-lein effeithiol wedi ei gyfuno â phrofiad cwsmer gwell – gwyliwch y fideo nawr i ddarganfod sut ddigwyddodd hyn.

 

Byddwch yn gymdeithasol gyda Hysbysebion Facebook

 

Er gwaethaf yr amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol cystadleuol sy’n dynn wrth ei sodlau, mae Facebook yn parhau i fod ar y blaen gyda 2.01 biliwn o ddefnyddwyr gweithredol bob mis o 30 Mehefin 2017. Mae hyn yn golygu mai hwn yw’r safle cyfryngau cymdeithasol mwyaf yn y byd i farchnata eich busnes i ddarpar gwsmeriaid.

 

Gall Hysbysebion Facebook eich helpu i dargedu defnyddwyr trwy leoliad, demograffeg, oed, rhyw, diddordebau, ymddygiad a chysylltiadau. Mae Facebook yn caniatáu i chi reoli faint rydych yn ei wario a phryd y caiff eich hysbysebion eu dangos. Bydd hefyd yn rhoi mynediad i chi i fetrigau fel y gallwch fesur pa mor dda mae eich hysbysebion yn perfformio mewn amser go iawn. Mae hyn yn golygu y gallwch glustnodi eich gwariant ar gyfer yr hysbysebion sy’n esgor ar y canlyniadau gorau, gan ddiffodd unrhyw rai nad ydynt yn perfformio’n ddigon da.

 

Mae Fit My Floor yn gleientiaid i Cyflymu Cymru i Fusnesau ac yn enghraifft berffaith o sut i ddefnyddio hysbysebu ar Facebook er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o frand a gwerthiant. Rhagor o wybdoaeth ynglyn â sut mae’n gyrru 34% o’i werthiant trwy Facebook.

 

Byddwch yn glyfar trwy farchnata drwy e-byst

 

Gyda 90% o frandiau yn dal i’w ddefnyddio, nid yw marchnata trwy e-bost yn dangos unrhyw arwyddion ei fod yn arafu. Mae marchnata trwy e-bost yn dal yn un o’r ffyrdd rhataf a mwyaf effeithiol ar-lein. Fodd bynnag, gyda chymaint o e-byst yn llenwi mewnflychau, sut ydych chi’n gwneud i’ch un chi ddenu sylw?

 

Gwnewch yn siŵr bod y darllenwr yn credu eich bod yn siarad yn uniongyrchol â nhw, felly personoleiddiwch eich e-bost lle bynnag y bydd yn bosibl - mae e-byst sydd wedi eu personoleiddio yn cynhyrchu 58% o refeniw i farchnatwyr. Ysgrifennwch linell pwnc gref sy’n denu’r darllenydd i agor eich e-bost er mwyn cael gwybod rhagor. Peidiwch â gwthio’r gwerthiant yn ormodol a sicrhewch fod eich neges yn ddiddorol ac yn apelio gyda chymhelliad clir i’r prynwr weithredu. Byddwch yn gryno, rydych am demtio’r darllenydd i glicio trwy’r safle er mwyn cael rhagor o wybodaeth - does neb eisiau sgrolio trwy e-bost sy’n debyg i draethawd hir!

 

Defnyddiwch offerynnau dadansoddi i fesur eich cyfraddau agor a chlicio, ac addaswch eich ymgyrchoedd e-bost yn ôl yr angen. Arbrofwch - os nad yw rhywbeth yn gweithio, ceisiwch newid y llinell pwnc neu’r cynnwys tan eich bod yn cael y canlyniadau yr ydych eu heisiau. Darganfyddwch pryd mae’ch cwsmeriaid yn fwyaf tebygol o ymateb a  threfnwch eich ymgyrchoedd trwy e-bost ar gyfer yr amseroedd hyn. Mae digon o lwyfannau marchnata trwy e-byst wedi eu hawtomeiddio ar gael, fel MailChimp a HubSpot, sy’n eich galluogi i wneud hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth mewn gweithdy marchnata digidol

 

Mae’r manwerthwr ar-lein o Wynedd sy’n gleient i Cyflymu Cymru i Fusnesau, My Leather Manbag, bellach yn derbyn archebion rhyngwladol sy’n cyfrif am 20% o’i werthiannau yn dilyn cyfres o ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus trwy e-byst llwyddiannus.

 

Dyma 3 ffordd hawdd y gallwch ddal sylw’r farchnad Nadolig a dechrau tyfu eich cronfa cwsmeriaid a’ch gwerthiant yn barod ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

 

Dewch i wybod sut y gallwch dyfu eich busnes trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a marchnata ar-lein trwy gofrestru am ein gwasanaeth cymorth rhad ac am ddim neu gadw lle ar weithdy rhad ac am ddim nawr.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen