Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Mawrth 2016, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Eich gwefan yw un o'ch arfau marchnata mwyaf pwysig. Mae'n gweithredu fel eich ffenestr siop a dyma'r man galw cyntaf ar gyfer llawer o gwsmeriaid posibl. Defnyddiwch ein canllaw sydyn i helpu chi ddeall ein gwefan.

Traffig i’ch gwefan

Eich gwefan yw un o'ch arfau marchnata mwyaf pwysig. Mae'n gweithredu fel eich ffenestr siop a dyma'r man galw cyntaf ar gyfer llawer o gwsmeriaid posibl.

Monitrwch eich traffig cyffredinol, cymerwch olwg ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau a gweld a ydynt yn cyd-fynd gydag ymgyrchoedd, tymhorau neu digwyddiadau

Ffynonellau Traffig

Mae ymweliadau â'r wefan yn dod o nifer o ffynonellau gan gynnwys: peiriannau chwilio, gwefannau atgyfeirio a theipio’r cyfeiriad yn uniongyrchol. Gall mesur llwyddiant pob ffynonell fod yn ffordd dda o weld beth sydd neu sydd ddim yn gweithio o ran eich marchnata.

Ymwelwyr Newydd a’r rhai sy’n dychwelyd

Gallwch ymwelwyr gwefan cael eu rhannu i rai newydd a’r rhai sy’n dychwelyd. Fel arfer byddech yn disgwyl gweld mwy o ymwelwyr newydd. Ond, gallai gormod o ymwelwyr newydd a dim digon sy’n dychwelyd fod yn arwydd nad yw eich gwefan yn ddigon "gludiog", h.y., nid yw'n denu ymwelwyr i ddychwelyd.

Trosi Ymwelwyr

Trwy ddefnyddio Google ac offer dadansoddi eraill y gallwch wirio'r nifer o droliau siopa sydd wedi’u gadael, h.y., rhywun sydd heb orffen prynu, neu pobl sydd wedi lawrlwytho gwybodaeth ond ers hynnu nid ydynt wedi dychwelyd at eich gwefan. Mae’r mesur yma’n rhoi cipolwg i pa mor hawdd i’w ddefnyddio yw’ch gwefan.

Tudalennau Uchaf a Trosi Traffig

Fel arfer, eich tudalen hafan sy’n cael y mwyaf o draffig, ond beth am y tudalennau poblogaidd eraill ar eich gwefan? A ydych yn cyfeirio ymwelwyr at y tudalennau cywir? Gallai Tudalennau poblogaidd gynnwys cystadlaethau, blog neu astudiaethau achos.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen