Os ydych yn dymuno cael gwell dealltwriaeth o'ch cwsmeriaid a chywain gwybodaeth a allai fod o gymorth i chi fireinio’ch gwefan o amgylch eu hanghenion, diddordebau ac ymddygiad defnyddwyr, yna gallai gwasanaeth dadansoddi'r we megis Google Analytics, Heap Analytics neu New Relic fod yr offeryn perffaith ar gyfer eich busnes.

 

Yn llawer mwy na llwyfan syml i fesur traffig ymwelwyr, gall y math hwn o gynnyrch meddalwedd ddarparu offeryn ar gyfer ymchwil busnes a marchnad, ynghyd â rhoi cyfle i chi asesu a gwella effeithiolrwydd eich gwefan.

 

Dyma 5 ffordd hollbwysig y gallwch ddechrau defnyddio offeryn dadansoddi’r we i olrhain a gwella eich gweithgarwch digidol

 

Traciwch o le daw eich ymwelwyr ar-lein

 

Gall gwasanaeth dadansoddi’r we eich helpu i ddeall sut daeth eich ymwelwyr at eich gwefan a faint ohonynt sy’n ymwelwyr newydd neu rai sy’n dychwelyd. Gallwch gasglu gwybodaeth ar y math o borwyr maen nhw’n eu defnyddio, sut y cawsant eu cyfeirio at eich safle (megis o safle arall, cyfryngau cymdeithasol, chwilio organig neu drwy hysbysebion a dalwyd amdanynt) a sut mae'r ymwelwyr yn ymddwyn ar ôl iddynt gyrraedd y dudalen lanio. Gallai'r wybodaeth yma eich helpu i ganfod sut mae eich gweithgarwch marchnata yn gweithio i yrru traffig at eich gwefan ac a yw eich cwsmeriaid yn ddefnyddwyr sy’n dychwelyd!

 

Dysgwch beth sydd a beth sydd ddim yn cadw diddordeb eich ymwelwyr

 

Bydd gwybodaeth fanwl am y tudalennau ar eich gwefan yn eich helpu i ganfod pa gynnwys sy’n cael y sylw mwyaf a pha mor hir mae pobl yn treulio ar eich safle, ynghyd â pha mor gyflym mae pobl yn gadael eich safle a gwybodaeth pam fod hyn yn digwydd. Drwy ddeall y cynnwys sy’n ymgysylltu eich ymwelwyr, gallwch sicrhau eich bod yn cynhyrchu’r math o gynnwys a chopi fydd yn fwyaf effeithiol ar gyfer eich amcanion busnes.

 

Dysgwch am y dyfeisiau mae defnyddwyr yn eu defnyddio i bori eich safle

 

Gyda thechnoleg symudol wedi goddiweddyd gliniaduron a chyfrifiaduron personol fel y ddyfais a ffefrir i gael mynediad i'r rhyngrwyd, bydd yn bwysig i fusnesau ddeall yn benodol sut mae eu cwsmeriaid yn penderfynu cael mynediad at eu gwefan. Drwy gyrchu dadansoddiad ar y mathau o ddyfeisiau a ddefnyddir i ymweld â'ch gwefan, byddwch yn gallu teilwra eich cynnwys, dyluniad a chynllun i gyd fynd â hynny yn hytrach na gobeithio am y gorau!

 

Ble yn y byd mae eich cwsmeriaid?

 

P'un a yw eich busnes yn ymdrin â defnyddwyr lleol neu'n fyd-eang, mae'n fuddiol i ddeall gwybodaeth bwysig megis o le daw eich ymwelwyr i’r safle, eu dewis iaith a demograffeg allweddol arall megis oedran a rhyw. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu mwy o ddealltwriaeth fanwl o bwy yw eich darpar gwsmeriaid a'r ardaloedd penodol o'r byd lle rydych yn boblogaidd!

 

Sut ydych chi'n cymharu â chystadleuwyr?

 

Er nad ydynt yn gyfan gwbl gynhwysfawr, gall offer fel sgrin meincnodi Google Analytics eich galluogi i gymharu eich ystadegau traffig  eich hunain gyda’ch cystadleuwyr. Mae'n bwysig cadw mewn cof nad yw’r data hwn yn 100% yn gywir, ond mae'n fan cychwyn gwych i ddeall sut mae eich busnes yn cyfateb o ran traffig a’r amser a dreulir ar y safle ar gyfartaledd. Gall y wybodaeth yma eich helpu i ganfod sut a ble gallwch ddechrau gwneud gwelliannau i'ch safle eich hun yn dibynnu ar sut y gallech fod yn tanberfformio.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen