Mae’r tywydd da (weithiau!), y diwrnodau mwy disglair a’r nosweithiau hirach yn golygu bod yr haf yn cynnig cyfle gwych i’ch busnes fanteisio ar yr hwyl gadarnhaol a’r ysbryd mentrus a ddaw gyda’r cyfnod hwn o’r flwyddyn. 

 

Dyma 6 ffordd i hybu ymgysylltiad cwsmeriaid a chynyddu gwerthiannau yn ystod tymor yr haf:

 

Ystyriwch beth rydych chi eisiau ei hyrwyddo

 

Dylech ganolbwyntio ar eitemau neu wasanaethau allweddol y bydd pobl eu heisiau yr amser hwn o’r flwyddyn. Ystyriwch beth fydd eich cwsmeriaid yn ei wneud, ble fyddan nhw’n mynd a beth fyddan nhw eisiau ei brynu. Ydych chi wedi gweld uchafbwyntiau penodol o ran rhai cynhyrchion yn ystod y blynyddoedd blaenorol? Gallai hyn helpu i lunio eich strategaeth eleni.

 

Cynlluniwch ymlaen llaw a pharatowch eich cynnwys

 

Arsylwch rai o’r brandiau mawr sy’n cyfalafu ar yr haf – beth allwch chi ei ddysgu ganddynt?

 

Cyn gynted ag y bydd ton wres ar fin cyrraedd, mae B&Q yn hyrwyddo eu heitemau gardd, mae Homebase yn sôn am eu dewis o farbeciws, ac mae Tesco yn anfon negeseuon e-bost atoch ynghylch eu cynigion ar fwyd picnic.

 

Defnyddiwch synnwyr cyffredin a pharatowch ychydig o ddeunydd marchnata (fel neges e-bost a neges ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol) y byddwch chi’n barod i’w hanfon cyn gynted ag y bydd cyfnod o dywydd gwych neu ddigwyddiad penodol. Peidiwch ag aros iddo gyrraedd – fel y tywydd yn y DU, mae’n debygol y bydd wedi pasio heibio erbyn i chi roi trefn ar bethau!

 

Ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol

 

Mae’r haf yn cynnig cyfnod gwych ar gyfer deunydd gweledol ac ymgysylltu cymdeithasol!

 

Gallech chi ddefnyddio delweddau gwych o’ch cynhyrchion neu wasanaethau ar waith, yn enwedig oddi wrth eich cwsmeriaid. Ystyriwch draethau heulog, gerddi cwrw, gwyliau gyda theulu a ffrindiau, a’r holl luniau gwych a ddaw yn sgil y rhain!

 

Gallwch annog cwsmeriaid i ddefnyddio hashnod penodol wrth bostio ar-lein, er mwyn i chi allu rhannu eu lluniau, fideos neu adolygiadau - mae’n gyfnod gwych i ledaenu’r gair ar-lein, a thystebau cwsmeriaid.

 

Gallech gynnal cystadleuaeth â thema’r haf

 

Ffordd hawdd i gael eich cwsmeriaid i gymryd rhan mewn rhannu deunyddiau gweladwy gwych am eich brand ar-lein yw cynnal cystadleuaeth. Y cyfan sydd angen arnoch yw gwobr a hashnod ar gyfer y gystadleuaeth!

 

Gallech ofyn i gwsmeriaid i dynnu llun o’u hunain yn defnyddio eitem, er enghraifft, a’r cyfan fydd angen iddyn nhw ei wneud i roi cynnig ar y gystadleuaeth yw tagio eich busnes a defnyddio’r hashnod. Cewch lawer o gynnwys gwych i hybu mwy o fusnes trwy’r haf a bydd mwy o bobl yn siarad am eich busnes hefyd!

 

Aliniwch eich marchnata â digwyddiadau allweddol yn eich ardal

 

Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau lleol. Yn ystod yr haf, cynhelir digon o wyliau bwyd a diod, digwyddiadau ar gyfer y teulu, a digwyddiadau cerdd. Sut allwch chi gymryd rhan?

 

Hyd yn oed os nad ydych chi’n masnachu mewn digwyddiad, gallwch wneud y mwyaf o’r cynnydd mewn pobl yn yr ardal ac annog cwsmeriaid posibl i alw heibio eich siop neu gaffi cyn y digwyddiad, neu hyrwyddo buddion aros yn eich gwely a brecwast neu westy.

 

A yw’r haf eisoes yn gyfnod prysur i chi?

 

Os yw’r haf yn uchafbwynt ar gyfer eich busnes, allech chi elwa ar brosesau awtomeiddio neu reoli rhai agweddau ar-lein i arbed amser, arian a straen?

 

Os hoffech chi dyfu ond eich bod chi’n ei chael hi’n anodd jyglo popeth, yna efallai y gallech chi ddefnyddio system CRM i dargedu eich cwsmeriaid yn well neu offer amserlennu’r cyfryngau cymdeithasol i ryddhau ychydig o amserer enghraifft.

 

Rydym ni eisoes wedi helpu dros 3,000 o fusnesau ledled Cymru i reoli eu prosesau’n well a chymryd camau i dyfu - sut allwn ni eich helpu chi? Cofrestrwch eich busnes nawr

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen