Gall marchnata trwy SMS (Gwasanaeth Negeseuon Byr) eich galluogi i gyfathrebu’n uniongyrchol â’ch cwsmeriaid, a hynny ar flaen eu bysedd. Gallwch eu cyrraedd yn unrhyw le, ar unrhyw adeg a heb lawer o gystadleuaeth o’i gymharu â hysbysebu a negeseuon cyfryngau cymdeithasol.

 

Fodd bynnag, nid yw poblogrwydd dyfeisiadau symudol a’r awch am gynnwys digidol yn gwarantu llwyddiant gyda dull marchnata o’r fath.

 

Os ydych am fynd â’ch marchnata SMS o’r negeseuon symol i rai sy’n mynnu sylw, darllenwch ein hawgrymiadau defnyddiol i wneud gwelliannau hawdd ond effeithiol ar unwaith

 

Byddwch yn gryno ac i’r pwynt

Dylai eich neges destun ddangos gwybodaeth allweddol ac annog y darllenydd i weithredu ar unwaith. Nid oes lle ar gyfer manylion diangen felly gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth fydd o ddiddordeb i’ch cynulleidfa, siaradwch yn uniongyrchol â hwy a rhannwch y prif fuddiannau.

 

Dylech gynnwys galwad i weithredu

Mae hyn yn rhywbeth syml ond holl bwysig. Dylai eich neges arwain y darllenydd i weithredu ar unwaith felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos yn glir pa gamau y dylent eu cymryd. Nid oes lle i amwysedd!
 

Mae angen creu ymdeimlad o frys

Peidiwch â rhoi amser i’r darllenydd i glicio a gadael y neges neu i anghofio ei fod yn y blwch post. Dylech greu ymdeimlad o frys i annog y darllenydd i gwblhau eich galwad i weithredu’n awr yn hytrach na’n hwyrach. Rhowch ddyddiad cau, a dolen glir i glicio arni neu rif i’w ffonio, er enghraifft.
 

Cynigiwch werth yn syth

Os oes angen esbonio llawer o fanylion ychwanegol am y cynnig neu os oes nifer o gamau y bydd yn rhaid i’r darllenydd eu dilyn, dylech ystyried cysylltu â hwy trwy e-bost yn hytrach na neges destun. Fodd bynnag, os oes gennych chi ddiweddariad amserol neu un sydd o ddiddordeb mawr, yna dyma’r cynnwys perffaith ar gyfer neges destun.

 

Dylech osgoi iaith sbam

Os yw eich neges yn edrych yn debyg i sbam yna mae’r darllenydd yn debygol o’i ddileu heb ei ddarllen hyd yn oed. Gwnewch yn siŵr bod yr iaith a’r ieithwedd yn addas ar gyfer eich brand a’i bod yn ymddangos yn ddilys ar yr olwg gyntaf.

 

Dangoswch pwy sy’n ei hanfon

Gwnewch yn siŵr bod eich cwsmeriaid yn gwybod mai chi sydd wedi anfon y neges. Mae negeseuon dienw’n debygol o wylltio darpar gwsmeriaid neu wneud iddynt ddileu’r neges. Dangoswch eich brand yn glir ac yn enw’r anfonwr fel y bydd cwsmeriaid yn fwy tebygol o ymddiried ynddo.

 

Peidiwch â llenwi’r blwch post

Peidiwch â chymryd mantais o’r dull ac anfon neges at eich cwsmeriaid bob dydd. Dylai negeseuon testun gael eu defnyddio ar gyfer gwybodaeth bwysig a chynigion arbennig sy’n gwneud y dull hwn yn fanteisiol o’i gymharu ag eraill fel cyfryngau cymdeithasol, gwefannau neu e-bost. Byddwch yn ddethol a dewiswch yn ddoeth pan ddaw’n fater o negeseuon testun.

 

Adolygwch eich llwyddiant

Dylech fonitro sut mae cwsmeriaid yn ymateb i’ch negeseuon. Os yw lefel y rhyngweithio’n uchel – yna da iawn chi! Os yw’n isel, rhowch gynnig ar ddulliau eraill, fel amseroedd, dyddiau, cynigion a negeseuon gwahanol. Bydd rhoi prawf ar elfennau’n eich helpu i greu’r negeseuon SMS gorau i gynhyrchu canlyniadau mesuradwy.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen