Yn y cyfnod cyn y GDPR, mae’n debygol y gwnaethoch chi gynnal rhyw fath o ymgyrch optio i mewn i gasglu caniatâd, a glanhau eich data marchnata e-bost. Os gwnaethoch chi sylwi ar ostyngiad mewn tanysgrifwyr, mae rhai pethau allweddol y gallwch ddechrau ei wneud nawr i ailadeiladu a thyfu eich rhestrau marchnata.

 

Mae’n bwysig nodi y bydd angen i’ch gweithgareddau fod yn glir, yn eglur a bod gennych chi bolisi wedi’i ddogfennu ar gyfer ei ddiben a’i gadw yn unol â’r GDPR.

 

Bwrwch olwg ar wefan ICO i gael mwy o gyngor am hyn.

 

Gan ystyried hyn, dyma 8 ffordd i ddechrau tyfu eich rhestr e-bost:

 

Ffurflen tanysgrifio ar gyfer e-bost gyflym ar eich gwefan

 

P’un ai a yw’n dudalen ‘gofrestru’ benodol neu’n ffurflen fer wedi’i gosod ar dudalennau amrywiol ar eich gwefan, dylai ffurflen danysgrifio fer fod ar gael mewn mannau allweddol ar eich safle, naill ai ble gall cwsmeriaid gwneud penderfyniad ynghylch, neu gael gwerth o’ch busnes. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n barod i drosi nawr, efallai y byddan nhw’n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Gwnewch y ffurflen yn syml!

 

Peidiwch ag atal pobl rhag tanysgrifio oherwydd bod eich ffurflen yn hir ac yn anodd ei llenwi. Dylech osgoi gofyn nifer o gwestiynau gyda llawer o opsiynau. Casglwch y wybodaeth sydd ei hangen arnoch a gwnewch yn siŵr ei bod hi’n hawdd ac yn gyflym i’w llenwi.  

 

Galwad glir i weithredu

 

Dylech ei gwneud hi’n glir eich bod chi eisiau i ymwelwyr gofrestru ar gyfer eich negeseuon e-bost. Os ydych chi’n defnyddio botymau i gyfeirio defnyddwyr trwy dudalen ‘gofrestru’ benodol i gasglu manylion, gwnewch yn siŵr bod gennych chi fotymau mewn man amlwg gydag iaith weithredol. Darllenwch yma sut i ddatblygu galwadau i weithredu effeithiol.    

 

Holwch gwsmeriaid ar eich ffurflen gysylltu

 

Os oes gennych chi ffurflen gysylltu ar eich safle, gallech chi gynnwys botwm wrth ochr y wybodaeth allweddol arall rydych chi’n ei chasglu, yn gofyn i ymwelwyr a hoffent danysgrifio ar gyfer eich negeseuon e-bost. 

 

Ymgyrchoedd optio i mewn ar y cyfryngau cymdeithasol

 

Defnyddiwch eich sianeli cymdeithasol i hyrwyddo’r ffaith fod gennych chi gylchlythyr e-bost. Rhannwch ddelweddau creadigol neu ddeniadol i ddenu sylw a chynnwys dolen uniongyrchol i’r ffurflen danysgrifio.

 

Amlygwch y gwerh neu gynigiwch rhywbeth yn gyfnewid

 

Pam ddylai pobl gofrestru ar gyfer eich negeseuon e-bost? Dylech gynnig cymhelliant i annog pobl, fel gostyngiad o 15% neu ganllaw ‘sut i’ rhad ac am ddim, neu disgrifiwch y buddion i’r bobl a fydd yn cofrestru.

 

Defnyddiwch dysteb ar y dudalen gofrestru

 

Os byddwch chi’n denu pobl i’ch tudalen gofrestru ond yn eu colli nhw bryd hyn, ystyriwch gynnwys tystebau cwsmeriaid i amlygu’r gwerth y mae eraill wedi elwa arno o’ch busnes.

 

Achubwch ar y cyfle i adfywio eich e-bost

 

Ystyriwch y rhesymau posibl pam mae pobl wedi datdanysgrifio o’ch e-bost i ddechrau. Mae hwn yn gyfle da i ail-werthuso eich negeseuon e-bost a gweithio allan beth sydd ddim yn gweithio. Beth y gellid ei wella i wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw eich tanysgrifwyr newydd?

 

A oes angen cymorth arnoch i dyfu eich rhestr marchnata ar ôl y GDPR?

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen