Gall creu eich rhestr e-bost tanysgrifio o’r dechrau’n deg, fod yn dasg anodd. O ddechrau gyda llechen lan, mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn cynyddu eich rhestr e-bost yn organig:

 

Defnyddio taflen gofrestru papur mewn digwyddiadau ac o fewn eich busnes

 

Os ydych yn cwrdd â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, ewch â thaflen gofrestru gyda chi. Tynnwch sylw at yr hyn maen nhw’n cofrestru ar ei gyfer ochr yn ochr ag adran ar gyfer eu henw a’u cyfeiriad e-bost.

 

Gofynnwch i gwsmeriaid os hoffen nhw gofrestru

 

Pan fyddwch yn siarad â’ch cwsmeriaid yn y busnes neu dros y ffôn, gofynnwch iddynt a fydden nhw’n hoffi derbyn eich cylchlythyr ar e-bost er mwyn iddynt gael diweddariadau a chynigion cyson a chymerwch eu manylion yn y fan a’r lle.

 

Cynhwyswch fotymau tanysgrifio ar eich gwefan a’ch deunyddiau digidol

 

Sicrhewch fod eich botwm tanysgrifio mewn safleoedd amlwg ar draws eich gwefan a mannau cyffwrdd allweddol. Sicrhewch fod eich ffurflen danysgrifio yn hawdd i’w llenwi fel nad yw tanysgrifwyr yn diflasu ac yn gadael y dudalen.

 

Rhowch reswm i’ch cwsmeriaid danysgrifio

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos bod gwerth a phwrpas tanysgrifio i’ch e-byst. Gallech gynnig diweddariadau cyson, cynigion cyson, syniadau dyddiol, crynodebau wythnosol… mae’r rhestr yn faith, ond dylai fod yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol i’ch cynulleidfa.

 

Gofynnwch i’ch tanysgrifwyr gyfeirio eu ffrindiau

 

Wrth i’ch rhestr e-bost ddechrau cynyddu, gofynnwch i danysgrifwyr presennol annog eu ffrindiau, eu teulu neu eich cydweithwyr i gofrestru yn gyfnewid am ostyngiad arbennig.

 

Rhowch y dewis i gwsmeriaid ar-lein danysgrifio

 

Wrth i’ch cwsmeriaid fynd drwy’r siwrne o brynu, rhowch y dewis iddyn nhw gofrestru ar gyfer eich marchnata ar e-bost er mwyn cael gwybodaeth am ddatganiadau newydd, gwerthiannau neu gynigion sydd ar y gweill. Mae bocs ticio syml yn ei gwneud hi’n hawdd i gwsmeriaid ymuno â’ch rhestr.

 

Cynigiwch rywbeth yn gyfnewid

 

Yn lle gofyn am gyfeiriadau e-bost, cynigiwch rywbeth i’ch cwsmeriaid. Er enghraifft, gallech gynnig canllawiau i’w lawr lwytho neu gynnwys sy’n hawdd cael mynediad iddo wrth gofrestru. Dyma sefyllfa ble mae pawb yn ennill.

 

Rhannwch fanylion am eich marchnata e-bost ar y cyfryngau cymdeithasol

 

Gwnewch y gorau o’ch holl lwyfannau digidol er mwyn creu ymwybyddiaeth o’ch rhestr e-bost newydd.

 

Casglwch gardiau busnes

 

Os ydych allan yn cwrdd â darpar gleientiaid neu bartneriaid, cymerwch eu cerdyn busnes a gofynnwch a fydden nhw’n hoffi tanysgrifio i’r cylchlythyr ar y we. Rhowch wybod iddyn nhw pa gynnwys gwerthfawr y gallan nhw ei dderbyn am eich diwydiant, gwasanaeth, cynnyrch neu gyfleoedd sydd ar y gweill.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen