Mae'r cyfnod diweddar wedi bod yn anodd i’r diwydiannau creadigol, gyda’r cyfnodau clo wedi dod a sawl sector i stop yn llwyr. Ond tra bod manwerthwyr ar-lein a llwyfannau cynnwys wedi gallu elwa o boblogaeth a oedd yn gaeth i’r tŷ, mae sinemâu, theatrau, amgueddfeydd ac orielau wedi’i chael hi’n anodd. Mewn rhai ffyrdd, mae atebion digidol wedi helpu i leddfu ychydig ar yr effeithiau gwaethaf, gan alluogi pethau fel gweithio o bell, perfformiadau rhithwir, ac arbrofion gyda digwyddiadau hybrid sy’n defnyddio realiti rhithwir a realiti estynedig.

Dros gyfres o gyfnodau clo, mae unigolion creadigol – e.e. artistiaid, crefftwyr, cynhyrchwyr cynnwys – wedi gweld y gall troi at dechnolegau digidol fod yn gymorth iddynt ymestyn eu cyrhaeddiad ac ehangu eu busnesau. Yn sicr, gall presenoldeb effeithiol ar y we ac ar gyfryngau cymdeithasol fod yn allweddol wrth sefydlu cysylltiad uniongyrchol â chynulleidfaoedd a darpar gleientiaid sy’n gaeth i’r tŷ. Mae’n ffordd wahanol o wneud busnes.

A paintbrush being used on a canvas.

 

Yn hyn o beth, Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi cynnig achubiaeth i gwmnïau bychain sydd angen croesawu'r technolegau digidol diweddaraf. Ac nid yn ystod y pandemig yn unig ychwaith. Rydym yn cynnig rhaglen o help a chyngor yn rhad ac am ddim ar ffurf gweminarau a gweithdai, yn ogystal â sesiwn un-i-un gyda Chynghorydd Busnes Digidol. Darllenwch am brofiadau cleientiaid isod i weld sut mae Cyflymu Cymru i Fusnesau eisoes wedi helpu busnesau creadigol Cymru i droi’n ddigidol yn llwyddiannus.

Nid yn unig y mae gan Harbour Lights Gallery berthynas gryfach â chleientiaid ac artistiaid, ond mae hefyd wedi creu partneriaethau newydd gyda busnesau lleol eraill.

Mae Harbour Lights Gallery yn Sir Benfro yn gartref i waith oddeutu 40 o artistiaid a cherflunwyr Cymreig. Roedd y rheolwr Katy Davies bob amser wedi ystyried gwefan yr oriel fel ffordd o werthu ychydig o ddarnau pan fo’r tymor twristiaid wedi darfod, ond penderfynodd y dylent wneud mwy i hyrwyddo'r oriel a'r artistiaid y mae'n eu cynrychioli.

Ei man galw cyntaf oedd Cyflymu Cymru i Fusnesau a'u gweithdy cyfryngau cymdeithasol poblogaidd. Dilynwyd hyn gan gyfarfod gyda Chynghorydd Busnes Digidol arbenigol a helpodd i ddyfeisio cynllun gweithredu i sicrhau bod presenoldeb ar-lein yr oriel yn cael yr effaith fwyaf posibl. Gwelodd i hyn fod yn hollbwysig pan aeth Cymru i mewn i gyfnod clo oherwydd Covid-19.

"Pan darodd y pandemig fis Mawrth diwethaf," eglura Katy Davies, "roeddem yn lwcus bod gennym eisoes bresenoldeb cadarn ar-lein fel y gallai pobl ddefnyddio’r wefan i fwynhau'r gwaith celf sydd gennym, os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, roeddem yn amharod i geisio annog gwerthiant, o ystyried dioddefaint llawer o bobl ar y pryd roedd hynny’n ein gwneud yn anghyfforddus braidd. Ond roedden ni eisiau defnyddio ein platfform ar-lein, ein gwefan, ein rhestr bostio, a’n llwyfannau cymdeithasol i hyrwyddo ein hartistiaid mewn ffordd wahanol.

"Felly, fe gynhaliom ni gyfweliadau gydag artistiaid ein horiel ynglŷn â sut roedd y cyfyngiadau yn effeithio arnyn nhw a'u gwaith. Gofynnwyd cwestiynau iddynt am eu bywyd, eu hysbrydoliaeth, a’u gweithfannau er mwyn roi cipolwg i gwsmeriaid ar fywydau a dulliau gwaith eu hoff artistiaid. Rhannwyd y cyfweliadau hyn yn wythnosol gyda'n holl ddilynwyr a chafwyd ymateb gwych, rhywbeth a oedd yn ei dro yn cyfeirio traffig i'n gwefan, gan arwain at rywfaint o werthiannau."

Gwelodd Katy fod Facebook ac Instagram wedi dangos eu gwerth yn gyflym, nid yn unig wrth gyflwyno gweithiau newydd, ond i gychwyn sgwrs â chwsmeriaid hefyd. Mae gan Harbour Lights Gallery bellach berthynas gryfach â chleientiaid ac artistiaid, ac y maent hefyd wedi ffurfio partneriaethau newydd gyda busnesau lleol eraill.

A painter painting.

 

"Roedd cael presenoldeb ar-lein drwy gydol y cyfnod clo yn amhrisiadwy," ychwanega Katy. "Roedd yn caniatáu i ni gadw mewn cysylltiad â'n cwsmeriaid a chynnal ein gwelededd, gan sicrhau bod pobl yn ein cofio ac eisiau ymweld pan oeddent yn gallu gwneud hynny. A dweud y gwir, gwelwyd cynnydd mewn gwerthiannau ar-lein yn ystod y misoedd yr oeddem ar gau. Rwy'n credu bod llawer o bobl wedi dod yn fwy cyfforddus gyda phrynu gan gwmnïau llai ar y we yn ystod y pandemig, ac wedi gwneud ymdrech i gefnogi busnesau bach a lleol lle gallent."

Yng Nghaerdydd, mae’r cyn-ddarlithydd ffasiwn Beth Morris yn cynnal cyfres o weithdai celf gymunedol er mwyn ysbrydoli pobl a chynnig lle iddynt ddod i ryngweithio ag eraill. Ar ôl ymddangosiad ar The One Show, mae ei gweithdai yn ffynnu. Ond sylweddolodd Beth y byddai angen presenoldeb ar-lein er mwyn cynnal y momentwm hwnnw.

Manteisiodd ar gefnogaeth rad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau trwy fynychu gweithdy cyfryngau cymdeithasol, a chafodd gyngor ac arweiniad wedi'u teilwra iddi hi mewn cyfarfod un-i-un gyda Chynghorydd Busnes Digidol. Roedd hyn yn ei galluogi i lunio strategaeth marchnata digidol a fyddai’n ei chefnogi ac yn rhoi sbardun i’w busnes.

"Roedd yr adolygiad o'r wefan yn hynod fuddiol o ran fy annog i ddeall y gwelliannau yr oedd angen i mi eu gwneud a pham fod angen eu gwneud." - Beth Morris

"Pan ddechreuais yn fy musnes, bu’r gefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn gymorth wrth sefydlu llwyfan digidol ar gyfer fy ysgol gelf gymunedol," meddai Beth. "Roedd yr adolygiad o'r wefan yn hynod fuddiol o ran fy annog i ddeall y gwelliannau yr oedd angen i mi eu gwneud a pham fod angen eu gwneud. Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o recriwtio myfyrwyr ar gyfer fy ngweithdai, felly bu'r cyrsiau a fynychais gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau yn allweddol ar gyfer twf."

Datgelodd Beth bod ei buddsoddiad mewn technolegau digidol wedi ei helpu i oroesi cyfnodau gwaethaf y pandemig. "Bellach, mae gen i bresenoldeb digidol llawer mwy," meddai. "Rwy'n cynnal gweithdai ar-lein rheolaidd â chynulleidfa ledled y DU ac Ewrop. Hefyd, addasais fy nulliau yn ystod pob cyfnod clo er mwyn addysgu ac arddangos celf dros Zoom. Roedd elfennau digidol fy musnes yn sicrhau na roddwyd stop ar greadigrwydd!"

Mae’r artist cain Emma Cawston yn un arall a gafodd dröedigaeth ddigidol. Mae hi’n arbenigo mewn creu portreadau o anifeiliaid ac mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cylchgronau fel The Artist a Tatler. Ond gyda’i busnes wedi’i leoli yng nghefn gwlad Cymru, roedd hi'n pryderu nad oedd hi’n hawdd i gwsmeriaid gael gafael arni.

Gan sylweddoli y gallai presenoldeb ar-lein helpu, gwnaeth gais am gymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau a chymerodd gwrs mewn marchnata digidol. Gyda help Cynghorydd Busnes Digidol, ailgynlluniodd Emma ei gwefan er mwyn cynrychioli ei gwaith yn well ac i edrych yn fwy proffesiynol, ac yna defnyddiodd Instagram i ddenu ymwelwyr.

"Er bod y pandemig wedi arwain at ostyngiad o ran sioeau ac arddangosfeydd – ac er mwyn i bobl weld fy ngwaith - mae'r ochr ddigidol wedi cynyddu’n sylweddol. Rwyf wedi ennill cleientiaid efallai na fyddwn wedi'u hennill fel arall, ac rwy'n meddwl fy mod wedi gwneud pobl yn fwy ymwybodol o'r hyn sydd o gwmpas. Wn i ddim ai amseru ynteu Covid sydd i gyfrif, ond ers mynd ar-lein, y 12 mis diwethaf yw’r gorau hyd yma o ran busnes."


Mae busnesau’n newid yng Nghymru, ydych chi’n barod i ymuno? Dysgwch sut y gall technoleg ddigidol wella eich busnes chi a'i helpu i dyfu. Cofrestrwch am gymorth nawr.


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen