Mae gan wefan Busnes Cymru hefyd ddewis eang o adnoddau ar gyfer busnesau o bob maint. Gallwch ddod o hyd i’r rhain yn yr Hyb Gwybodaeth. Ychwanegir cynnwys newydd yn rheolaidd, felly nodwch y dudalen fel y gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl dechnolegau diweddaraf sydd o fudd i fusnesau yng Nghymru.
Dyma rai adnoddau allweddol i’ch rhoi ar ben ffordd.
- Beth yw Y Rhyngrwyd Pethau (IoT)?
Ydych chi erioed wedi defnyddio ffôn symudol i droi’ch gwres i fyny? Beth am deledu cylch cyfyng (CCTV) yn rhoi rhybudd i chi pan fydd rhywbeth anghyffredin yn digwydd y tua allan i'ch cartref? Mae’n fwy na thebyg mai gyda’r Rhyngrwyd Pethau y caiff y gwasanaethau hyn eu cynnal. - Y Rhyngrwyd Pethau gyda LoRaWAN
Mae yna lawer o wahanol fathau o ddyfeisiau y gellir eu defnyddio gyda IoT, a gellir meddwl eu bod yn perthyn i wahanol elfennau sy’n cydweithio. Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar dechnoleg Rhwydwaith Ardal Eang Pellter Hir. - Defnyddio technoleg ‘Y Rhyngrwyd Pethau’ (IoT) i wella slyri
Nod y prosiect hwn yw deall yn well y rôl sydd gan dechnoleg IoT i geisio bod yn fwy effeithiol wrth daenu slyri.