Wrth i dechnoleg ddigidol barhau i ddatblygu ar raddfa anhygoel, mae busnesau wedi gorfod addasu i broblemau yn y farchnad sydd wedi newid popeth, o’r ffordd cânt eu rheoli, a’u marchnata a hyd yn oed yn sylfaenol, y ffordd maent yn gweithredu.

 

Mae cyfrifiaduron penbwrdd, gliniaduron, ffonau symudol a thabledi i gyd, os nad eisoes, wedi ennill eu lle yn y diwylliant busnes. Fodd bynnag, mae'n stori wahanol pan ddaw hi i dechnoleg gwisgadwy.

 

Technoleg gwisgadwy neu wearables, yw dillad ac ategolion sy'n ymgorffori technoleg gyfrifiadurol ac uwch electronig. Yn eu plith mae dyfeisiau megis oriorau clyfar, olrheinwyr ffitrwydd, sbectol glyfar, dillad clyfar a dyfeisiau meddygol. Mae'r cynhyrchion hyn fel arfer yn canolbwyntio ar gyfuno ymarferoldeb a bod yn hawdd i’w gwisgo gyda swyddogaeth a nodweddion technolegol.

 

Mae adroddiad IDTechEx “Wearable Technology 2016  2026” yn awgrymu y bydd y farchnad technoleg gwisgadwy yn werth dros $30 biliwn yn 2016, ac yn cyrraedd $40 biliwn erbyn 2018. Rhagwelir y bydd y swm yn cyrraedd $100 biliwn erbyn 2023 ac na fydd y farchnad yn dechrau arafu tan 2026, ar ôl cyrraedd y swm enfawr o $150 biliwn.

 

Maent yn ffigurau hynod drawiadol. Ond beth maent yn ei olygu ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint?

 

Mae'n hawdd diystyru technoleg gwisgadwy fel ffasiwn neu newyddbeth yn y dirwedd ddigidol. Fodd bynnag, dylai busnesau bach a chanolig ystyried sut y gallant fanteisio ar y dechnoleg newydd hon i gael y blaen ar eu cystadleuwyr a bod ar flaen y gad pan ddaw hi’n fater o ddatblygiadau digidol.

 

Gallai teclynnau gwisgadwy helpu i annog twf - ac mae’n siŵr y bydd y duedd honno yn plesio pob busnes!

 

Dyma 5 ffordd y gallai busnesau bach a chanolig elwa o dechnoleg gwisgadwy:

Taliadau ar y ffordd

 

Wrth i daliadau symudol symud i'r brif ffrwd, gall busnesau bach a chanolig fanteisio ar rwyddineb ac effeithlonrwydd dyfeisiau gwisgadwy wrth reoli trafodion diogel yn y fan a'r lle. Mae gwasanaeth neu lwyfan talu, megis Apple Pay neu ap PayPal, yn galluogi taliadau uniongyrchol yn hytrach na gorfod aros am staff neu gleientiaid i ddychwelyd i'r swyddfa neu ddibynnu ar arian parod neu gardiau. Mae technoleg gwisgadwy nid yn unig yn darparu dull arall o dalu i fusnesau bach a chanolig, ond hefyd yn eu galluogi i weithredu mewn amser real.

 

Mesur a rhoi hwb i gynhyrchiant

 

Mae dyfeisiau gwisgadwy yn darparu cyfleoedd diddiwedd i fusnesau i wella eu cynhyrchiant. Gallech fonitro prosesau busnes ac addasu yn unol â hynny er mwyn gwella effeithlonrwydd. Er enghraifft, mae manwerthwyr a warysau wedi dechrau defnyddio terfynellau-ar-y-fraich (AMT) i fesur perfformiad a gosod meincnodau cysylltiedig. Gall dyfeisiau gwisgadwy hefyd gynorthwyo busnesau crefft proffesiynol (megis plymwyr a thrydanwyr) wrth iddynt weithio, gan alluogi staff i barhau i weithio a chael mynediad heb ddwylo i wybodaeth, yn hytrach na gorfod stopio a chwilio ar ffôn neu dabbled.

 

Arbrofi a thyfu

 

Wrth i fusnesau o bob maint ddechrau profi a deall sut gallent elwa o dechnoleg gwisgadwy, nawr yw'r amser perffaith i fusnesau bach a chanolig i arbrofi gyda thechnolegau newydd. Mae gan fusnesau llai fantais wrth brofi llwyfannau a thechnolegau arloesol sy’n cyrraedd y farchnad, o gymharu â chwmnïau mawr a allai fod angen misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i fabwysiadu a manteisio ar ddyfeisiau a thechnolegau i'w llawn botensial. Manteisiwch ar y cyfle i arbrofi a gweld sut gall technoleg gwisgadwy helpu eich busnes i fod yn fwy cystadleuol yn ddigidol a hybu twf.

 

Gwasanaethu eich cwsmeriaid yn well

 

Gallai dyfeisiau gwisgadwy fod yn ased gwerthfawr i'r tîm gwerthiant neu wasanaethau cwsmeriaid sy’n gweithio ar y llawr neu’n teithio i gwrdd â chleientiaid neu gwsmeriaid posib. Yn hytrach na gorfod  gadael sgwrs i gael hyd i wybodaeth bwysig, gall yr aelod tîm ddefnyddio ei ddyfais gwisgadwy i helpu’r cwsmer neu gleient yn syth bin. Trwy gadw diddordeb y cwsmer posib neu gleient gallech weld mwy o drosiant a bodlonrwydd cyffredinol cwsmeriaid.

 

Mwy o foddhad ymhlith gweithwyr

 

Gall dyfeisiau gwisgadwy fod o fudd i weithwyr yn ogystal â chwsmeriaid posib neu bresennol. Yn ôl Salesforce, gall dyfeisiau gwisgadwy yn y gweithle gynyddu cynhyrchiant cymaint â 8.5% a rhoi hwb i foddhad gweithwyr o 3.5%. Canfu'r ymchwil hefyd fod tua thraean o oedolion a holwyd yn yr U.D.A. a’r Deyrnas Unedig yn credu fod technoleg gwisgadwy wedi helpu i ddatblygu eu gyrfa.

 

P'un a ydych yn darparu technoleg gwisgadwy yn y gweithle, neu annog staff i ddod â'u dyfeisiau eu hunain (BYOD), gallai busnesau, gweithwyr a chwsmeriaid i gyd elwa o fusnesau bach a chanolig yn profi’r maes gwisgadwy.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen