A ninnau’n agosáu at derfyn amser arall ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae cwmnïau Cymru’n gofyn oes ganddyn nhw ddigon o arian wrth gefn ar gyfer beth bynnag allai ddigwydd, a hyd yn oed i droi Brexit yn gyfle. Mae pob busnes yn gwybod nad yw elw ar y fantolen o reidrwydd yn golygu arian yn y banc, ac os bydd yr archebion yn arafu neu’r arian yn hir yn dod i mewn, mae arnyn nhw angen cynllun i’w galluogi i gael credyd neu i hylifo asedau. Felly, yn y farchnad sydd ohoni, ai gwasanaethau digidol fydd yn achub cwmnïau sydd â llai o opsiynau i ryddhau llif arian?

Yn ôl Arolwg Aeddfedrwydd Digidol diweddaraf Prifysgol Caerdydd, mae cwmnïau ym mhob sector yn gweld tystiolaeth bod mynd ar-lein o fudd i’w busnes. Nid yw’r adroddiad yn cyfeirio’n benodol at lif arian, ond mae llawer o’r manteision sy’n cael eu hamlinellu yn yr ymchwil, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn helpu i sicrhau mwy o arian wrth gefn. A gwelir llawer o enghreifftiau o hyn wrth edrych ar gwmnïau sydd wedi manteisio ar hyfforddiant digidol di-dâl Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Mae mwy a mwy o’n syniadau’n seiliedig ar dechnoleg

Mae llawer o gwmnïau wedi troi at dechnoleg fforddiadwy fel systemau ffôn VoIP er mwyn lleihau costau. Mae rhai cwmnïau’n defnyddio meddalwedd ar-lein i wneud gwerthiant yn fwy proffidiol, drwy drefniadau llymach ar gyfer danfon neu reoli stoc. Mae eraill yn dibynnu ar becynnau cyfrifyddiaeth ar-lein i sicrhau llif arian. Ond mae anghenion pob busnes yn wahanol. Er enghraifft, mae Wonder Stuff, siop bentref yn Nhreorci yn dibynnu llai ar wasanaethau digidol na chwmni glanhau Apollo Wales er mwyn lleihau costau rhedeg a lleihau pwysau ariannol cysylltiedig. Ac eto, mae’r ddau wedi elwa.

The team of Apollo Wales with cleaning products.

“Dyn ni ddim mwyach yn treulio dau ddiwrnod yr wythnos yn ceisio casglu taliadau sy’n ddyledus”
Chris Birch, Apollo Wales

Mae Apollo yn cyflogi llawer iawn o staff i lanhau cartrefi a safleoedd masnachol cwmnïau adnabyddus fel Tesco a Banc Barclays, yng Nghymru, Lloegr a Sbaen. O ganlyniad, roedd addasu opsiynau digidol amrywiol yn gwneud synnwyr. Dros gyfnod o 12 mis, llwyddodd y cwmni i gynyddu ei refeniw 200%, lleihau trosiant staff, ac yn sgil hynny lleihau costau ailrecriwtio, a gwella llif arian. Drwy ddefnyddio Kashflow mae hefyd yn treulio dau ddiwrnod yn llai bob wythnos yn ceisio casglu taliadau sy’n ddyledus.

Y strategaeth oedd creu amgylchedd sy’n ystyried lles staff ac yn darparu gofal heb ei ail i gwsmeriaid. Er mwyn cyflawni hyn, cyflwynwyd ap ffôn, Rotaz, y gallai’r staff ei ddefnyddio i weld y rotas a threfnu amseroedd gwyliau a shifftiau. Mae system GPS o’r enw Smart in-Out yn rhoi gwybod i’r cleientiaid pan fydd tasg wedi cael ei chwblhau. Mae hefyd yn ychwanegu haen o ddiogelwch i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain neu’n gweithio shifftiau nos. Tyfodd pethau ar ôl hynny. Erbyn hyn mae ymgyrchoedd marchnata digidol yn ennill cleientiaid, a sgwrs ar y we’n helpu i’w hargyhoeddi, ac mae system reoli cysylltiadau cwsmeriaid, HubSpot, yn eu hannog i ddod yn ôl ar gyfer rhagor o fusnes. Darllenwch y stori lawn.

“Gwelwyd cynnydd o draean mewn derbyniadau a gostyngiad o 20% mewn amser rheoli stoc”
Alison Chapman, Wonder Stuff

Ar raddfa lai, gwelodd siop bentref Wonder Stuff yn Nhreorci gynnydd o draean yn ei derbyniadau ar ôl gosod system EPOS sydd hefyd yn cynnwys ap Amazon Seller ar gyfer ffonau symudol. “Ar y dechrau roedden ni’n defnyddio peiriant talu yn gweithio â llaw, yn cofnodi ein gwerthiant mewn llyfr log ac yn dyfalu pa nwyddau roedden ni eu hangen, gan ddyfalu’n anghywir weithiau. Erbyn hyn rydyn ni’n dadansoddi patrymau gwerthiant ac yn derbyn hysbysiadau yn nodi bod angen rhagor o stoc, felly rydyn ni’n prynu’n rheolaidd, ond yn prynu llai ar y tro. Mae hyn wedi golygu gostyngiad o 20% yn yr amser rydyn ni’n ei dreulio yn rheoli stoc a gostyngiad o tua 25% yn nifer yr eitemau rydyn ni’n eu cadw ar y safle. Gan fod llai o stoc o gwmpas y lle, a mwy o werthiant yn dod i mewn, mae ein llif arian yn llawer gwell”. Darllenwch y stori lawn.

Gall busnesau feddwl y tu allan i’r bocs Brexit mewn ffyrdd eraill

Ai llif arian yw popeth, ynteu a yw amser hefyd yn golygu arian? Roedd staff yng nghwmni adeiladu EvaBuild yn treulio dwy ran o dair o’u hamser ar y ffordd, a’u cydweithwyr yn y swyddfa’n aros iddynt gyrraedd yn ôl â’r wybodaeth angenrheidiol cyn gallu cwblhau archwiliadau ac adroddiadau. Yr ateb oedd mwy o le i storio data a mynediad o bell at system dendro newydd Vector, sy’n golygu bod modd rhannu gwybodaeth gan ddefnyddio apiau fel FormConnect, ac Office 365 i olygu dogfennau allweddol ar y cyd. “Rydyn ni 50% yn fwy cynhyrchiol ac rydyn ni wedi rhagfynegi twf o 20% y naill flwyddyn ar ôl y llall o ganlyniad i’r ffaith ein bod yn rheoli amser yn well”. Darllenwch y stori lawn.

Y ffordd hawdd o fynd ar ôl anfonebau, talu biliau a sortio trethi

Nid yw anghenion pob busnes mor gymhleth. Y cyfan y mae ar rai busnesau ei angen yw ffordd hawdd o fynd ar ôl anfonebau, talu biliau a sortio trethi heb y cur pen misol, fel y gŵyr Mark Williams, Cyfarwyddwr Choice Bookkeeping. Mae apiau ffôn ar gael sy’n caniatáu i berchnogion busnesau dynnu llun o’u derbynebau cyn eu taflu, yn ogystal â chofnodi anfonebau a milltiroedd mewn amser real. Ac mae Mark wedi cynllunio ap di-dâl sy’n gwneud hyn oll ac yn storio delweddau fel tystiolaeth ar gyfer hawliadau treth am saith mlynedd er mwyn osgoi cosb. “Y cyfan y mae angen i chi ei wneud ydy rheoli eich cyfrifon fel rydych chi’n mynd yn eich blaen; mae’r ap yn cofnodi’r wybodaeth yn awtomatig ac yn ei hanfon i QuickBooks neu’r feddalwedd gyfrifyddiaeth o’ch dewis chi lle galla i gael mynediad rhwydd ati. Mae mor hawdd â hynny.” Darllenwch y stori lawn.

Magu hyder ac addasu â chymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau

Gall unrhyw fusnes sydd eisiau help i ddefnyddio’r dechnoleg fodern gysylltu â Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael gwybodaeth am weithdai di-dâl, cyngor un-i-un a chanllawiau amrywiol. Gall busnesau hefyd gael ysbrydoliaeth drwy ddarllen yr astudiaethau achos a phori drwy’r cyfeiriadur Meddalwedd Hanfodol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen