Gall sefydlu proffil cyfryngau cymdeithasol newydd ar gyfer eich busnes ymddangos fel tasg frawychus pan na fydd dilynwyr na chynnwys gennych. Fodd bynnag, mae llechen lân yn fan cychwyn gwych er mwyn dechrau datblygu proffil a fydd yn dal sylw eich cynulleidfa ac yn eu denu nhw yn ôl!

 

P’un a ydych yn dechrau o’r dechrau neu’n awyddus i roi hwb i gyfanswm eich dilynwyr, dyma 17 awgrym a all eich helpu i dyfu eich cynulleidfa heddiw!  

 

Deall eich cynulleidfa

 

Dylai popeth rydych yn gobeithio ei wneud gyda’ch proffiliau cyfryngau cymdeithasol gael ei greu o gwmpas eich cynulleidfa, ynghyd â’r hyn maen nhw eisiau a’r hyn sy’n fwyaf tebygol o ddal eu sylw. Bydd hyn yn llywio’r math o lwyfannau rydych yn eu defnyddio a’r math o gynnwys rydych yn ei rannu.

 

Cysylltu â dylanwadwyr

 

Mae cysylltu a chyfathrebu â dylanwadwyr allweddol o fewn eich diwydiant yn gallu eich helpu i adeiladu eich awdurdod a chyrraedd cynulleidfa ehangach o lawer.

 

Cyfathrebu gyda hashnodau perthnasol

 

Cadwch lygad ar yr hashnodau perthnasol allweddol yn eich maes a sicrhewch eich bod yn eu defnyddio yn eich postiau. Hefyd, gallwch dracio’r tagiau hyn i weld beth sy’n cael ei ddweud a’r math o gynulleidfa sy’n ymgysylltu â nhw.  

 

Defnyddio’r gweledol

 

Peidiwch â dibynnu ar destun yn unig. Mae’n bwysig rhannu lluniau, fideos, ffeithluniau ac unrhyw ddeunydd gweledol o ansawdd da a fydd yn tynnu sylw eich cynulleidfa.

 

Gwneud yn siŵr eich bod yn ymateb

 

Dylech gymryd amser i ymateb i unrhyw un sy’n ymgysylltu â’ch busnes. P’un a yw’n ddatganiad, cwestiwn, canmoliaeth neu gŵyn, does dim ots. Dylech gyfathrebu â’ch cynulleidfa os ydynt yn cymryd amser i siarad â chi. 

 

Defnyddio offeryn amserlen cyfryngau cymdeithasol

 

Mae offer amserlen fel Tweetdeck a Hootsuite yn wych ar gyfer eich helpu i gadw trefn ar eich gweithgarwch, ac i sicrhau eich bod yn rhannu pethau yn gyson. Ni fydd pobl yn colli diddordeb yn eich proffil os oes gennych amserlen weithgarwch rheolaidd.   

 

Mae postio’n aml yn beth da, ond mae ansawdd uchel yn well

 

Er bod rhannu cynnwys yn rheolaidd yn hollbwysig, mae’n bwysicach fyth bod yr hyn rydych yn ei rannu o ansawdd uchel. Peidiwch â phostio unrhyw hen lun, neu frysio post nad yw’n cyrraedd y safon, er mwyn llenwi eich tudalen yn ddiangen. Bydd treulio amser ar eich cynnwys yn dod â rhagor o fanteision i chi.

 

Blog a blogwyr gwadd

 

Ffordd dda o sicrhau bod gennych gynnwys i’w rannu yn gyson yw dechrau eich blog eich hun yn llawn cynnwys diddorol a defnyddiol. Os nad oes blog gennych, gallwch roi cynnig ar ysgrifennu blog gwadd ar wefan yn y diwydiant.

 

Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd

 

Bydd rhannu gwybodaeth a mewnwelediad defnyddiol yn eich helpu i dyfu eich cynulleidfa trwy ddatblygu eich llais fel awdurdod yn y maes. Bydd eich cynulleidfa yn dechrau ymddiried ynddoch chi fel ffynhonnell o wybodaeth, a byddant yn dychwelyd at eich busnes er mwyn cael cymorth yn y dyfodol. 

 

Ymgysylltu â chynnwys pobl eraill a’i rannu

 

Peidiwch â chanolbwyntio ar eich cynnwys eich hun yn unig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymdeithasu ac yn edrych ar y cynnwys sy’n cael ei rannu gan y bobl rydych yn eu dilyn, dylanwadwyr allweddol yn y diwydiant a defnyddwyr pwysig eraill ar y sianel gymdeithasol.

 

Defnyddio geiriau allweddol a thermau’r diwydiant

 

Pan fyddwch ar-lein, dylech ddefnyddio geiriau, brawddegau a thermau allweddol sy’n berthnasol i’ch busnes a’ch diwydiant. Mae’n bwysig bod eich busnes yn bresennol ac yn weladwy pan fydd cwsmeriaid yn defnyddio termau perthnasol, felly dylech sicrhau eu bod yn bresennol yn eich cynnwys ar-lein.  

 

Gosod nodau tymor byr

 

Bydd gosod nodau tymor byr yn eich helpu i gadw golwg ar ba mor llwyddiannus yw eich ymdrechion i dyfu eich rhestr o ddilynwyr, a bydd yn eich galluogi i osod nodau realistig ar gyfer y dyfodol. 

 

Cadw at dueddiadau’r diwydiant, gwyliau a newyddion sy’n torri

 

Dilynwch y newyddion poblogaidd a’r pynciau llosg ar eich llwyfannau cymdeithasol er mwyn sicrhau eich bod yn ymgysylltu â sgyrsiau ac yn dweud eich dweud pan fyddwch yn gallu.

 

Sicrhau bod pobl yn gallu uniaethu â chi

 

Rhaid i’ch tôn a’ch arddull fod yn agos-atoch ac yn annog pobl i uniaethu â chi. Y bwriad yw annog eich cynulleidfa i ymgysylltu â’ch brand a dechrau datblygu perthynas, a byddant yn gwneud hyn os ydynt wir yn ymddiried yn eich busnes, ac yn cysylltu ag ef.  

Cysondeb

 

O’ch enwau defnyddwyr a’ch dolenni i’ch llais a’ch tôn – rhaid cael cysondeb! Gall canllaw arddull helpu unrhyw un sy’n defnyddio eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol i gynnal proffesiynoldeb a hunaniaeth y brand.  

 

Annog gweithredu heb fod yn amlwg

 

Byddwch yn ceisio cael pobl i weithredu ar eich gweithgarwch cymdeithasol – p’un a yw hynny’n golygu cofrestru i dderbyn e-gylchlythyr, lawrlwytho e-lyfr neu brynu wrthych. Dylai eich cynnwys yrru eich cynulleidfa tuag at weithred benodol, ond ni ddylech bwysleisio hyn gormod ar eu llinell amser. Dylech wasgaru eich anogaeth i weithredu o fewn cynnwys a phostiau o ansawdd uchel. 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen