Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Chwefror 2018, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.
Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.
Mae bod yn fusnes cysylltiedig yn hollbwysig yn yr oes ddigidol. Dyma 10 awgrym i’ch arwain chi!
Pwy yw eich cwsmeriaid?
Pwy ydynt? Beth yw eu diddordebau? Cymrwch olwg ar rai o’r defnyddwyr sy’n dilyn eich cyfrifon Twitter a Facebook.
Cysylltwch â’ch cwsmeriaid
Defnyddiwch y llwyfannau ac apiau a ddefnyddir ganddynt. A yw’ch cwsmeriaid ar Vine? Crëwch gyfrif a meddwl am syniadau fideo creadigol gyda’ch staff i ymgysylltu â’r defnyddwyr hynny.
Cadwch bethau’n gyson
Gwnewch eich neges brand yn gyson ar draws pob llwyfan. Sicrhewch fod unrhyw staff sy’n diweddaru’ch safleoedd yn ymwybodol o’r naws yr hoffech ei chyfleu.
Gwefan dda
Gwefan yw eich sylfaeni. Sicrhewch ei bod yn ymatebol ar bob dyfais i wella profiad y cwsmer.
Ewch ar-lein i reoli prosiectau
Mae systemau sy’n gallu caniatáu gwell cydweithredu a rheoli yn arbennig. Mae Byrddau Cysyniadau yn caniatáu i chi gydweithio gydag eraill mewn amser real ar un ‘bwrdd gwyn’.
Ewch yn symudol
Defnyddiwch gymylau i helpu’ch staff i gysylltu yma ac acw. Gall Dropbox ddal ffeiliau mawr i’w hagor unrhyw le.
Monitrwch a rheolwch sut mae pethau’n mynd
Cadwch lygad ar ddadansoddeg a defnyddio’r wybodaeth hon yn ddoeth. Rhowch gynnig ar Google Analytics i astudio ystadegau’ch gwefan.
Gwybod sut mae’ch cyflogeion yn dod ymlaen
Sefydlwch grŵp Facebook i’ch staff rannu syniadau prosiect, newyddion digwyddiadau a jociau.
Cadwch lygad ar y farchnad
Beth sy’n newydd? Allwch chi ei ddefnyddio? Sefydlwch gyfrif Feedly i gael diweddariadau o flogiau technoleg.
Byddwch yn effro
Peidiwch â bod yn hunanfodlon. Arloeswch. Arbrofi gyda syniadau newydd yw sut i ddysgu beth sy’n gweithio orau i chi.