Dilynwch y 10 awgrym hyn i wneud y mwyaf o’ch gweithgareddau marchnata ar-lein. 

Adnabod eich marchnad

Pwy ydynt? Sut wnaethant ddod o hyd i chi? Cymrwch olwg ar rai o’r defnyddwyr sy’n dilyn eich cyfrifon Twitter a Facebook.

Ble ydych chi’n cychwyn?

Archwiliwch eich gwefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol i roi sylfaen dda i chi adeiladu arni.

Optimeiddiwch

Gwnewch yn siŵr fod gwefannau a blogiau wedi eu hoptimeiddio ar gyfer peiriannau chwilio neu ni fydd neb yn dod o hyd i chi.

Cofiwch y symudol

Beth allwch chi wneud i gyrraedd y lefel newydd hon o ryngweithio? A allech chi greu ap i helpu gyda’ch gwasanaeth?

Cymdeithaswch

Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol fel offeryn hysbysebu a hefyd fel ffordd o gysylltu â’ch cwsmeriaid. Crëwch #hashnod Twitter newydd ar gyfer eich busnes.

Ystyriwch brofiad y cwsmer

Sut allwch chi sicrhau fod eich cwsmeriaid yn dychwelyd ac yn fodlon? Paid â gadael iddynt eich anghofio. Crëwch e-gylchlythyr gyda chynigion arbennig neu dalebau.

Byddwch yn gyson

Cadwch eich llais yn gyson ar bob llwyfan. Sicrhewch fod unrhyw staff sy’n diweddaru’r safleoedd yn ymwybodol o’r naws yr hoffech ei chyfleu.

Cadwch lygad ar bethau

Sut mae pethau’n mynd? Beth allwch chi ei wneud gyda’r data hwn? Defnyddiwch Google Analytics ar gyfer ystadegau eich gwefan.

Cadwch lygad ar dueddiadau

Beth sy’n newydd? Beth sy’n boblogaidd? Sut allwch chi ryngweithio â hynny? Defnyddiwch Feedly i’ch diweddaru ar erthyglau newydd gan flogiau technegol a marchnata ar-lein.

Byddwch yn effro

Peidiwch â bod yn hunanfodlon. Arloeswch. Arbrofi gyda syniadau newydd yw sut i ddysgu beth sy’n gweithio orau i chi.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen