• Ydych chi erioed wedi defnyddio eich ffôn i godi tymheredd eich system wresogi?
  • Beth am eich teledu cylch cyfyng yn rhoi rhybudd i chi pan fydd rhywbeth anghyffredin yn digwydd y tu allan i’ch cartref? Mae hyn i gyd yn bosibl diolch i Ryngrwyd Pethau.

Mae Rhyngrwyd Pethau yn ymwneud â gwneud eitemau bob dydd yn ‘glyfar’ a’u cysylltu. Mae dyfeisiau clyfar, o ffonau ac oergelloedd i gerbydau heb yrwyr a dinasoedd, i gyd wedi’u cysylltu drwy’r Rhyngrwyd. Mae Rhyngrwyd Pethau yn cyfeirio at y ‘lle’ y mae’r dyfeisiau hyn yn siarad â’i gilydd.

A smartphone with a WiFi logo.

 

Wrth i rwydweithiau di-wifr dyfu, gall mwy o ddyfeisiau ddod yn rhan o Ryngrwyd Pethau, gan helpu i wneud tasgau’n haws – pa un ai a fydd eich oergell yn archebu llaeth yn awtomatig pan fydd eich potel bron yn wag, neu seilwaith ynni mawr yn addasu i wybodaeth sy’n cael ei derbyn gan synwyryddion ar lawr.

Rydym eisoes yn gweld amryw o ddiwydiannau mawr yn arbrofi, yn defnyddio ac yn mabwysiadu Rhyngrwyd Pethau, o ddarparwyr yswiriant a chyflenwyr ynni i gludwyr a chwmnïau adwerthu mawr.

Ond beth am fusnesau llai? Sut fath o fanteision all Rhyngrwyd Pethau eu cynnig i fusnesau bach a chanolig Cymru?

Manteision Rhyngrwyd Pethau

Arbed arian

Gallwch leihau faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio gyda Rhyngrwyd Pethau. Gall synwyryddion fonitro pethau fel golau a thymheredd a diffodd goleuadau neu ostwng y tymheredd yn awtomatig.

Un cam ar y blaen

Mae cynnal fflyd yn rhan hanfodol o fusnes cwmnïau cludo nwyddau. Gall Rhyngrwyd Pethau helpu i ganfod problemau cyn iddyn nhw ddatblygu – er enghraifft, os ydy padiau breciau ar gerbyd ar fin methu, byddai’r cwmni’n cael ei annog i roi’r gorau i ddefnyddio’r cerbyd a threfnu gwaith cynnal a chadw.

Mwy effeithlon

Os ydych chi’n gwmni rheoli cyfleusterau, gallech ddefnyddio Rhyngrwyd Pethau i gasglu data o filoedd o synwyryddion mewn pethau fel peiriannau coffi a pheiriannau sebon, yn hytrach na’u gwirio eich hun. Byddai eich tîm wedyn yn cael negeseuon am stoc isel ac yn cymryd camau ar unwaith. Mae hefyd yn golygu y gallwch archebu’r hyn sydd ei wir angen arnoch, yn hytrach na’r hyn rydych chi’n meddwl sydd ei angen arnoch, gan arbed arian i chi.

Mynd i’r afael â Rhyngrwyd Pethau

Ond nid dim ond mater o roi’r switsh ymlaen ydy hyn. Mae gosod pethau’n gallu bod yn anodd os nad ydych chi’n siŵr beth rydych chi’n ei wneud, ac mae angen yr adnoddau iawn arnoch i sicrhau bod eich dyfeisiau’n siarad. Bydd angen i’ch busnes addasu i raddfa ac amrywiaeth y data a gynhyrchir gan ddyfeisiau Rhyngrwyd Pethau er mwyn manteisio i'r eithaf arno.

A home assistant device.

Cadw pethau’n ddiogel

Mae pryderon ynghylch Rhyngrwyd Pethau a diogelwch. Gan fod rhai dyfeisiau mor rhad, mae diogelwch yn aml yn is na’r disgwyl ar gyfer dyfeisiau sydd â nodweddion ar y rhyngrwyd. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw ddyfais ddioddef ymosodiad, o bosibl. Er mwyn diogelu eich hun, dylech sicrhau bod sylw priodol yn cael ei roi i ddiogelwch y diweddbwynt a sicrhau eich bod yn lleihau eich risg gymaint ag y bo modd.

Felly, beth ydy’r ffordd orau o ddechrau arni?

Cofiwch: prif nod Rhyngrwyd Pethau ydy datrys problemau busnes, felly ceisiwch osgoi mynd dros ben llestri a phrynu technoleg nad oes ei hangen arnoch.

Yn ddelfrydol, dechreuwch gyda phrosiect risg isel sydd â manteision clir. Unwaith y byddwch wedi llwyddo i wneud hyn, gallwch fod yn fwy uchelgeisiol wrth i’ch arbenigedd a’ch cefnogaeth ddatblygu.

Yr hyn sy’n amlwg ydy bod Rhyngrwyd Pethau yma i aros ac mae ar fin newid byd busnes. Er bod hyn yn ymddangos o flaen yr oes, mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fusnesau Cymru, gan eu helpu i fanteisio mwy ar nodweddion digidol.

Rhyngrwyd Pethau yng Nghymru: Cyswllt Ffermio a Phartneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru

Mae Cyswllt Ffermio a Phartneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru yn cydweithio i gyflwyno syniadau newydd i fusnesau ffermio a choedwigaeth. Un o’u prosiectau cymeradwy ydy ymchwilio i sut gall Rhyngrwyd Pethau wella’r gwaith o reoli slyri ar ffermydd.

Mae pethau fel cyflwr y pridd, lefel y trwythiad, glawiad a thymheredd yr aer i gyd yn effeithio ar y tebygolrwydd o gael dŵr ffo o gaeau. Os ydy'r cae wedi cael slyri yn ddiweddar, bydd dŵr ffo yn gwastraffu maethynnau gwerthfawr ac yn arwain at risg o lygru afonydd a phyllau. Mae hyn yn arwain at broblemau rheoli tir yn ogystal â phroblemau amgylcheddol posibl hefyd. Yn y prosiect, bydd y tîm yn defnyddio dyfeisiau i fonitro’r trwythiad, lleithder y pridd, glaw a’r storfa slyri. Yna, bydd modd defnyddio’r wybodaeth o’r dyfeisiau hyn i bennu a ddylid defnyddio slyri ai peidio.

Y prosiect hwn fydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn helpu i ganfod ffyrdd da o ddefnyddio Rhyngrwyd Pethau ym maes ffermio. Rhagor o wybodaeth.

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen