Boed chi’n seren ar y cyfryngau cymdeithasol, yn darparu profiad gwych i gwsmeriaid neu’n canolbwyntio ar wasanaeth ardderchog i gwsmeriaid, mae adborth neu sylwadau negyddol ar-lein yn anochel.

 

Mae adborth cadarnhaol yn bwysig, yn werthfawr ac yn foddhaol, ond mae ymateb i adborth negyddol yr un mor bwysig. Os na cânt eu rheoli, fe allai’r sylwadau hyn fod yn niweidiol i’ch brand.

 

Ymhell o fod yn ddinistriol ac yn arwydd fod y berthynas â’r cwsmer wedi chwalu, mae adborth negyddol yn gyfle euraid i ddangos lefelau uchel o ofal cwsmer a rhoi profiad gwych o’ch busnes i gwsmeriaid unwaith eto.

 

Fydd hi ddim yn ddiwedd y byd os dilynwch chi’r awgrymiadau ardderchog hyn ar gyfer ymdrin ag adborth negyddol ar-lein! 

 

Ateb mewn da bryd

 

Yn bennaf oll, mae’n bwysig eich bod yn ymateb yn brydlon. Fe allai peidio ag ymateb i sylw negyddol gychwyn caseg eira ar-lein a thynnu nyth cacwn am ben eich busnes o ran cysylltiadau cyhoeddus. Os ydych chi’n defnyddio llwyfan amserlennu cyfryngau cymdeithasol, neu lwyfan adolygu ar-lein bwrpasol, mae’n hollbwysig eich bod yn monitro’r rhain yn effeithiol er mwyn gallu ymdopi â sefyllfa cyn i bethau fynd yn draed moch.

 

Bod yn chi’ch hun – nid yn robot!

 

Mae’n hanfodol eich bod yn ddiffuant wrth ymateb. Atebwch yn bersonol ac yn ddidwyll i roi sicrwydd i’r defnyddiwr ei fod yn siarad â pherson go iawn a bod y mater yn cael ei gymryd o ddifrif. Mae ateb cyffredinol heb bersonoliaeth yn debygol o wylltio’r defnyddiwr ac fe allai pobl eraill sylwi arno gan arwain at ragor o negeseuon negyddol. 

 

Hyfforddi staff i ymdrin ag adborth negyddol yn broffesiynol

 

Mae unrhyw gyfathrebu dan enw eich brand neu gan eich gweithwyr yn gynrychioladol o’ch busnes cyfan, felly mae’n bwysig fod eich tôn a’ch ymddygiad ar-lein yn broffesiynol. Os yw gwahanol aelodau o’ch tîm yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol neu’n ymateb i sylwadau ar fforwm arbenigol, mae’n bwysig bod staff yn cael eu hyfforddi i gyfathrebu’n briodol.

 

Bod yn ymwybodol o bryd i gymryd cam yn ôl

 

Er ei bod yn bwysig ymdrin â phroblemau cwsmeriaid, mae hefyd yn hollbwysig gwybod pryd i gymryd cam yn ôl o drafodaeth. Mae rhai o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yno i godi stŵr yn unig, a bydd angen i chi allu gwybod os nad yw sgwrs yn symud yn ei blaen neu’n dangos dim arwydd o gael ei datrys. Peidiwch â chael eich tynnu i mewn i ffrae gan y gallai hyn achosi niwed i enw da eich brand.

 

Pa lwyfannau ydych chi’n eu defnyddio?

 

Pa un ai a ydych chi’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, safle adolygu pwrpasol neu gymysgedd o lwyfannau, mae’n bwysig sylweddoli y gallai defnyddwyr fod yn adolygu eich busnes neu’n gwneud sylwadau arno ar draws amrywiaeth o wahanol safleoedd. Bydd chwilio ar-lein yn gyflym yn eich helpu chi i benderfynu ar ba safleoedd fydd yn bwysig i chi eu rheoli a pha rai sydd angen llai o sylw.

 

Mae’r cyfan yn ymwneud â diogelu enw da eich brand ar-lein!

 

Mae adborth ar-lein yn chwarae rôl bwysig yn enw da eich brand. Os na chaiff ei reoli, gallai sylwadau negyddol niweidio eich busnes ac atal cwsmeriaid posibl. Ond nid adborth ar-lein yn unig sy’n bwysig! Darllenwch flog Cyflymu Cymru i Fusnesau ynghylch sut i reoli eich enw da ar-lein er mwyn deall cydrannau strategaeth ddigidol a chyfathrebu effeithiol.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen