Mae marchnata E-bost yn ddull effeithiol a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o fusnesau sy’n awyddus i gael mwy o gwsmeriaid a chynnydd mewn gwerthiant. Mae ymchwil gan Ascend2 yn amlygu bod technoleg marchnata e-bost yn cael ei ddefnyddio gan 82% o gwmnïau B2B a B2C ac adroddodd eMarketer bod:

 

Marchnatwyr B2C sy’n manteisio ar awtomatiaeth wedi gweld cyfraddau trosi mor uchel â 50%

 

Mae E-bost yn dal i fod yn ddull marchnata o bwys gyda McKinsey&Company yn datgan bod E-bost yn "ffordd llawer mwy effeithiol na’r cyfryngau cymdeithasol i gaffael cwsmeriaid" a bron i 40 gwaith yn fwy effeithiol na Facebook a Twitter gyda’i gilydd.

 

Mae'r ystadegau hyn yn darparu rhesymau cymhellgar i fusnesau integreiddio E-bost yn eu cymysgedd marchnata. Fodd bynnag, os ydych yn methu trosi defnyddwyr yn danysgrifwyr E-bost, gallech fod yn colli allan ar gyfleoedd gwerthfawr i ymgysylltu defnyddwyr mewn perthynas ystyrlon gyda’ch busnes. Trwy ddatblygu rhestr danysgrifio E-bost sy’n tyfu ac allbwn llwyddiannus o weithgarwch marchnata E-bost, gallwch greu ffordd o dargedu negeseuon uniongyrchol gyda'r gynulleidfa a ddymunir ac ymdrechu at y prif nod sef darllenwyr a chwsmeriaid sy'n edrych ymlaen at eich negeseuon E-bost.

 

Fodd bynnag, cyn i chi daro’r jacpot farchnata E-bost, bydd angen i chi ddatblygu strategaeth i gynyddu eich tanysgrifiadau E-bost yn rheolaidd. Wrth i ddefnyddwyr ddod yn fwyfwy craff am sut a ble maen nhw’n rhannu eu data, bydd angen cynllun effeithiol o weithgarwch i weld trosiadau.

 

Dyma chwe cham pwysig y gallwch eu cymryd i roi hwb i’ch tanysgrifiadau E-bost!

 

Ewch yn organig

 

Na - nid ydym yn siarad am fwyd! Mae ffyrdd hawdd ac effeithiol o dyfu eich rhestr E-bost. Er mwyn creu cynnwys E-bost marchnata llwyddiannus sy’n dangos elw ar fuddsoddiad (ROI) rhaid ichi ymgysylltu â darllenwyr sy’n malio am eich cynnyrch, wasanaeth neu’r cynnwys a rennir. Os ydych yn prynu rhestr barod ar-lein, efallai y byddwch yn ffafrio maint dros ansawdd. Bydd tyfu eich rhestrau’n organig trwy drosi ymwelwyr gwefan, defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol neu gwsmeriaid newydd yn llawer mwy buddiol yn y tymor hir gan y byddwch yn cychwyn ar y daith gyda darllenydd sydd wedi ymgysylltu.

 

Sefwch allan

 

Pan fyddwch yn glanio ar dudalen hafan y busnes, ydy’r ddolen tanysgrifio E-bost mewn lle amlwg? Manteisiwch i'r eithaf ar eich gwefan a phwyntiau cyswllt ar-lein drwy sicrhau bod y ffurflen gofrestru yn ymddangos mewn man hylaw ac sy’n derbyn y rhan fwyaf o draffig. Mae'n swnio'n amlwg, ond dyna'n union yr hyn ddylai'r broses gofrestru i fod - yn amlwg! Ni ddylai'r defnyddiwr orfod chwilio am eich ffurflen gofrestru, felly gwnewch yn siŵr nad yw wedi’i chladdu ar dudalen sydd wedi darfod neu’n cuddio yn y troedyn ar y dudalen hafan.

 

Galwad i weithredu!

 

Os oes gennych  gylchlythyr E-bost - bloeddiwch amdano! Lle bynnag y bo'n bosibl ac yn briodol, dylech gynnwys galwad i weithredu sy'n annog defnyddwyr i gofrestru. Gallai hyn fod mewn blogiau, deunyddiau marchnata, e-daflenni neu gyfryngau cymdeithasol. Dylai pob un o'ch pwyntiau cyswllt ar-lein fod yn cyfeirio at eich cylchlythyr E-bost ac yn cynnig y cyfle i drosi’r defnyddiwr. Dylech gynnwys dolenni  uniongyrchol ac iaith glir, weithgar a fydd yn ennyn eu diddordeb ac yn eu harwain i danysgrifio. Darllenwch ein blog defnyddiol ar sut i ddatblygu galwadau gweithredu effeithiol (hyperlink).

 

Gwnewch hi’n hawdd

 

Dylai casglu data defnyddwyr fod yn broses syml a didrafferth. Dylech gyfyngu ar faint o wybodaeth rydych yn casglu i'r hyn sy'n angenrheidiol a dylech sicrhau bod y ffurflen yn hylaw. Os bydd y broses gofrestru yn rhy hir neu'n rhy araf i lwytho, yna mae defnyddwyr yn debygol o golli diddordeb a rhoi'r gorau i’w chwblhau. Wrth i ddefnyddwyr ddod yn fwy ymwybodol a chraff am y ffordd y maen nhw’n rhannu eu manylion, mae'n bwysig eich bod yn cymryd y wybodaeth sydd ei angen arnoch yn unig a gadael i danysgrifwyr wybod sut y bydd eu data yn cael ei ddefnyddio. Byddwch yn agored ac yn onest gyda'ch darllenwyr fel y gallwch ddechrau perthynas onest ac apelgar.

 

Ewch ati i gyfleu gwerth cofrestru

 

Dylech gyfleu’r gwerth y bydd tanysgrifwyr yn ei gael drwy gofrestru ar gyfer eich cylchlythyrau E-bost yn glir. Rhowch wybod am y mathau o gynnwys y gallant ei ddisgwyl yn eu mewnflwch, ynghyd ag unrhyw gynigion neu fargeinion hyrwyddo y byddwch yn bwriadu eu hanfon. Gallech hefyd alluogi darllenwyr i deilwra eu profiad yn seiliedig ar eu dewisiadau fel eu bod yn derbyn newyddion neu fathau o gynnwys penodol yn unig. Bydd bod yn onest gyda thanysgrifwyr yn eu hannog i gofrestru a sicrhau eu bod yn disgwyl eich negeseuon, gan gynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn agor yr E-bost.

 

Cynigiwch rywbeth amgenach

 

Os na allwch annog pobl i ymuno gyda'r addewid o gynnwys o ansawdd uchel, beth am gynnig anrheg gychwynnol, disgownt ar bryniad neu gynnwys arbennig iddynt? Bydd cynnig rhywbeth i danysgrifwyr E-bost yn unig yn rhoi rheswm deniadol i ddefnyddwyr  gofrestru, a bydd yr addewid o gynnyrch rhad ac am ddim pan fyddant yn prynu neu daleb bersonol hefyd yn annog tanysgrifwyr i drosi’n gwsmeriaid!

 

Unwaith y byddwch chi'n dechrau adeiladu eich rhestr tanysgrifiad E-bost, yr unig beth ar ôl i'w wneud yw sicrhau eich bod yn mynd ati i rannu cynnwys diddorol a deniadol! Cymrwch olwg ar ein cyngor ar sut i greu yr e-newyddlen fusnes orau.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen