Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Mai 2018, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Bydd eich brand yn helpu i ffurfio sail eich hunaniaeth gyfan, boed yw hynny ar-lein neu all-lein, felly mae’n bwysig eich bod yn dechrau ei ddatblygu yn awr yn hytrach nag aros i bopeth ddisgyn i mewn i le.

 

Os ydych chi’n dymuno i’ch busnes fod ag enw da ac yn adnabyddadwy, denu cwsmeriaid sy’n ail-archebu, denu cwsmeriaid newydd, dyma 8 peth syml y gallwch ddechrau eu gwneud i adeiladu eich brand.

 

Lluniwch ddiffiniad eich brand

 

Dechreuwch drwy ysgrifennu rhai syniadau ynghylch yr hyn yr hoffech i’ch brand ddweud am y busnes. Meddyliwch am yr hyn rydych yn ei gynnig, pam eich bod yn ei gynnig, pam eich bod yn wahanol a pha fuddion y gall cwsmeriaid eu disgwyl. Bydd hyn yn helpu i arwain penderfyniadau am bob agwedd o’ch brand.

 

Cadwch eich enw’n gyson


Os oes gennych sillafiad penodol, yn defnyddio prif lythrennau neu fyrfodd, mae’n bwysig cadw at hyn ym mhobman y caiff eich enw ei ddefnyddio.

 

Er enghraifft rydym yn defnyddio Cyflymu Cymru i Fusnesau, SFBW neu #CyflymuBusnesau. Mae hyn yn cadw ein henw’n amlwg, yn gyson ac yn olrheiniadwy. Pe bai rhywun yn postio am #SBW neu Super Fast Business Wales, gallai hyn greu dryswch neu ddatgysylltiad ymhlith darpar gwsmeriaid. Mae hefyd yn anoddach monitro pwy sy’n postio amdanoch chi a ble – felly dechreuwch drwy osod esiampl dda!


Defnyddiwch logos a brandio o safon uchel

 

Beth bynnag eich logo, eich cynllun lliwiau, eich graffeg neu’ch dyluniad penodol, sicrhewch y caiff hyn ei ddefnyddio ar bob llwyfan ar-lein megis eich gwefan, eich cyfryngau cymdeithasol, eich blog, eich fideos neu unrhyw bwyntiau cyswllt eraill.

 

Mae dangosyddion gweledol yn ffordd gyflym a hawdd i gwsmeriaid gwybod eu bod wedi cyrraedd y dudalen neu’r safle cywir.

 

Defnyddiwch arwyddair, ymadrodd neu grynodeb allweddol

 

Os nad yw’n amlwg ar unwaith wrth weld enw eich busnes beth mae’n ei wneud (neu hyd yn oed os yw’n amlwg ar unwaith!), gallai defnyddio arwyddair neu ymadrodd ar eich deunyddiau a’ch llwyfan marchnata fod yn ddefnyddiol.

 

Trwy gynnwys crynodeb byr o’ch busnes, bydd yn hawdd i ddarpar gwsmeriaid newydd adnabod yr hyn rydych chi’n ei wneud gan eich gosod ar wahân i’ch cystadleuwyr.

 

Datblygwch dôn y llais gyson

 

Dylech feddwl am eich brand fel hunaniaeth neu berson. Sut fyddent yn siarad?

 

Penderfynwch ar sut yr hoffech i’ch brand gyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid oherwydd bydd y dôn y llais gyson hon yn helpu i atgyfnerthu eich ‘cymeriad’ ac yn sicrhau bod pob aelod staff ‘ar frand’.

 

Peidiwch â bod ofn newid

 

Er na ddylech edrych i newid eich brand yn gyson nac mewn chwinciad, mae’n bwysig eich bod yn adolygu eich brand o bryd i’w gilydd i sicrhau ei fod yn gyfoes ac yn berthnasol o hyd. Efallai y byddai’n berthnasol i chi wneud newidiadau bach wrth i’ch busnes dyfu a datblygu.

 

Peidiwch ag efelychu’r brandiau mwy

 

Mae’n bwysig eich bod yn datblygu eich brand amlwg eich hun. Mae ceisio efelychu brand mwy yn debygol o wneud i chi edrych yn amhroffesiynol, yn anwreiddiol a gall ddibrisio eich busnes.

 

Byddwch yn falch o’ch brand. Trwy greu rhywbeth gwreiddiol a dilys, gallwch helpu cwsmeriaid i greu cysylltiad dwysach gyda chi a’u hannog i gefnogi busnesau llai yn lle cystadleuwyr mwy.

 

Ystyriwch eich brand wrth wneud popeth

 

Nid yw’ch brandio yn cynnwys sut mae eich busnes yn edrych yn unig – mae’n rhan o bopeth rydych chi’n ei wneud!

 

Bydd cyfeirio at ddiffiniad eich brand yn gyson a’i roi wrth wraidd eich busnes yn eich helpu i sicrhau bod pob gweithiwr yn ymwybodol o’ch nodau, eich persona a’ch gwerthoedd.

 

Meddwl sut gallwch chi wthio eich brand ymhellach ar-lein?

Cofrestrwch ar y gweithdy Marchnata Ddigidol am ddim gyda Chyflymu Cymru i Fusnesau.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen