Bu’n rhaid i lawer o fusnesau gau eu drysau o ganlyniad i’r cyfnod cloi i helpu i gadw Cymru’n ddiogel yn ystod y pandemig COVID-19. Roedd hyn yn her enfawr i fusnesau sy’n dibynnu ar bresenoldeb brics a morter ar gyfer incwm, ond mae’n her mae llawer o gwmnïoedd Cymru wedi ei goresgyn diolch i ddulliau digidol.

Wrth i ddrysau gau’n gyflym, bu’n rhaid i fusnesau addasu’n chwim i sicrhau y byddai modd iddynt oroesi. I fanwerthwyr fel Spiffy, sef siop les yng Nghaerfyrddin, gwerthu ar-lein oedd yr unig ffordd o barhau i fasnachu mewn ffordd a oedd yn amddiffyn y busnes, ei staff a’i gwsmeriaid.

Spiffy owners Shaun and Paul.

 

Ond pa mor rhwydd yw hi i fusnesau werthu ar-lein? Gan gofio bod mwy na ¾ o fusnesau Cymru yn gwerthu ar-lein cyn Covid, yn ôl yr Arolwg Aeddfedrwydd Digidol, mae’n bendant ffyrdd o’i wneud yn dda. Yn ffodus, mae cyfoeth o lwyfannau ar gael sy’n gallu eich helpu i droi eich gwefan yn siop un clic ar gyfer eich cwsmeriaid.

Angen help i werthu ar-lein? Cofrestrwch am gymorth #CyflymuBusnesau am ddim

Gall offerynnau megis Shopify, BigCartel, WooCommerce a mwy i gyd eich helpu i droi eich gwefan yn beiriant gwerthu. Maent yn eich helpu i:

  • Werthu eich cynnyrch ar-lein yn rhwydd
  • Rhestru stoc ar-lein yn hwylus, gan gynnwys gyda disgrifiadau ac adolygiadau
  • Rheoli lefelau stoc, gyda hysbysiadau awtomatig pan fydd stoc yn isel
  • Cymryd taliadau o amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys cerdyn, PayPal a WorldPay

Felly, rydym ni yma i’ch helpu i ganfod ffordd drwy fyd gwerthu ar-lein gyda chrynodeb sydyn o un o’r llwyfannau mwyaf poblogaidd, Shopify.

Beth yw Shopify a beth mae’n ei wneud?

Shopify yw un o’r llwyfannau e-fasnach mwyach poblogaidd, ac mae mwy na miliwn o fusnesau yn ei ddefnyddio ym mhedwar ban byd.

Gyda Shopify, gallwch adeiladu gwefan sy’n eich galluogi chi i werthu eich cynnyrch ar-lein. Gallwch restru eich holl stoc, ynghyd â lluniau, disgrifiadau a manylebau, yn barod i’ch cwsmeriaid eu prynu mewn clic neu ddau.

Ond beth os oes eisoes gennych chi wefan? Dim problem – mae Shopify Lite yn integreiddio eich gwefan bresennol, gan olygu na fydd yn rhaid i chi ddechrau o’r newydd.

A dyw talu ddim yn broblem chwaith. Yn safonol, mae siopau Shopify yn cymryd taliadau o’r holl gardiau arferol, ond mae hefyd yn integreiddio gyda llwyfannau megis PayPal, gan ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid brynu gennych chi. Ac, i gadw data cwsmeriaid yn ddiogel, mae Shopify yn cynnig tystysgrif SSL am ddim. Mae hyn yn diogelu’r data mae eich cwsmeriaid yn anfon atoch drwy eich gwefan (megis rhif cerdyn neu gyfeiriad), a vice versa.
 

Tystysgrif SSL

 

Gall Shopify hyd yn oed integreiddio gyda llwyfannau megis Amazon Webstore ac eBay. Mae’n cysylltu â’r byd go iawn hefyd – os oes gennych iPad, gallwch ddefnyddio'r ap Shopify i werthu a diweddaru rhestr stoc eich e-siop yn awtomatig, sy’n golygu na fyddwch chi byth yn brin o stoc.

Wrth i Shopify dyfu, mae wedi cyflwyno mwy o nodweddion clyfar i helpu i wneud gwerthu ar-lein yn haws. Mae ei ap symudol yn galluogi i chi reoli archebion a’ch stoc pan fyddwch yma ac acw, ac mae ei ddangosfwrdd dadansoddeg yn eich helpu i weld tueddiadau a deall eich cwsmeriaid yn well. Mae hefyd yn cysylltu â Google Analytics i’ch helpu i olrhain gwerthiannau, ymweliadau a ffynonellau cyfeirio. Mae hyn yn hynod ddefnyddiol er mwyn dysgu sut mae eich cwsmeriaid yn prynu gennych chi, a sut y gallwch chi wneud hyn yn haws.

Mae’n ddadansoddeg sy’n dangos i chi sut i weddnewid profiad siopa i’ch cwsmer. Defnyddiodd V3 Apparel, cwmni dillad ffitrwydd ym Mlaenau Gwent, ddadansoddeg i asesu taith cwsmeriaid ar ei wefan, a sylwi eu bod yn colli llawer o gwsmeriaid tramor pan oedd yn amser talu. Drwy ychwanegu doleri’r UD fel opsiwn arian cyfredol, cynyddodd ei werthiannau rhyngwladol 22%, mor syml â hynny.

V3 Apparel showing their products.

 

Ar bwnc teithiau cwsmer, mae Shopify hefyd yn eich galluogi chi i gysylltu ag offerynnau e-fasnach Facebook ac Instagram er mwyn i chi allu gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol. Sicrhau bod eich cynnyrch o fewn golwg y gynulleidfa iawn yw hanner y frwydr, felly os ydych chi’n gallu gadael i gwsmeriaid brynu cynnyrch lle maent yn eu gweld, mae’ ei gwneud hi’n haws iddynt a bydd yn rhoi hwb i drosiant.

Beth sydd angen i mi gofio?

Os yw gwerthu ar-lein yn newydd i chi, gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau. Mae gan ein hymgynghorwyr busnes digidol y ddealltwriaeth i’ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar Shopify, felly cofiwch drefnu eich sesiwn 1:1 gyda nhw i gael yr holl atebion i’ch cwestiynau e-fasnach.

Mae rhai o’r problemau mwyaf cyffredin mae ein hymgynghorwyr yn eu gweld gyda safleoedd Shopify yn ymwneud â rhestrau cynnyrch. Os oes gennych chi gannoedd o nwyddau, mae ysgrifennu disgrifiadau ar gyfer pob un ohonynt yn dasg enfawr. Fodd bynnag, nid yn unig mae’r disgrifiadau hyn yn eich helpu i werthu’r cynnyrch yn well, mae hefyd yn effeithio ar SEO.

Efallai bod gennych chi’r lluniau mwyaf trawiadol o’r cynnyrch, ond beth yw’r pwynt os na fydd neb yn eu gweld? Dyna pam mae SEO mor bwysig. Bydd sicrhau bod y geiriau allweddol yn y lle iawn (a bod digon ohonyn nhw!) yn helpu i’ch cynnyrch ymddangos ar Google. Meddyliwch amdani.... A yw eich cwsmer yn chwilio am eich busnes yn ôl enw, neu yn ôl yr hyn rydych chi’n ei werthu? Mae cael eich SEO yn iawn yn allweddol i ddenu cynulleidfa fwy. Yn ffodus, mae gennym weminar am yr union bwnc – cliciwch yma i gadw lle.

Pa lwyfannau eraill sydd ar gael?

Wrth reswm, mae llwyfannau e-fasnach eraill ar gael. WooCommerce, Wix, iZettle, Squarespace… maent i gyd yn cynnig ffyrdd o werthu ar-lein, felly mae’n werth bwrw cipolwg drostynt i weld p’un sydd fwyaf addas i’ch busnes chi. Os oes angen help arnoch chi, mae ein canllaw Hanfodion Meddalwedd yn cynnig barn ddiduedd ar y llwyfannau e-fasnach diweddaraf – lawrlwythwch eich copi am ddim heddiw.

Mae angen help arna i i sefydlu siop ar-lein – ble mae dechrau?

Rydym yma i chi. Cofrestrwch am un o’n gweminarau neu ein sesiynau ‘sut i’ rhad ac am ddim i gael rhagor o wybodaeth, neu siaradwch ag un o’n hymgynghorwyr busnes digidol. Yn ogystal, mae gennym amrywiaeth enfawr o ganllawiau yn ein Cronfa Wybodaeth. Ac os ydych chi am weld y busnesau Gymru sydd eisoes yn gwerthu ar-lein yn llwyddiannus, ewch i’n tudalen Astudiaethau Achos.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen