Mae’r pandemig wedi gorfodi llawer o fusnesau yng Nghymru i newid y ffordd maen nhw’n gweithio’n ddramatig, gyda thechnegau digidol yn chwarae rhan allweddol. Mae wedi bod yn cynnig achubiaeth amserol, gan helpu perchnogion busnesau bach i godi ymwybyddiaeth o frand, denu cwsmeriaid newydd ac argyhoeddi cwsmeriaid blaenorol i ddychwelyd.

I archebu lle ar unrhyw un o’n gweminarau ac i gael cymorth am ddim, ewch i’n tudalen Digwyddiadau

Mae Colman Kayman HR Services yn sir y Fflint yn un o dros 6800 o fusnesau i fanteisio ar gyngor am ddim gan Cyflymu Cymru i Fusnesau ar sut mae defnyddio technegau digidol - darllenwch yr hanes yn llawn. Darganfu’r perchennog Charlene Flynn fod y llwyfannau ar-lein Microsoft 365 a OneDrive wedi ei helpu i ennill y frwydr dros gydbwysedd iachach rhwng bywyd a gwaith heb orfod aberthu ei hamcanion busnes.

Dywedodd Charlene: “Mae fy ngwasanaethau i’n hynod o sensitif o ran amser felly mae gallu ymateb i gleientiaid ar unwaith yn hanfodol. Gallaf ateb fy negeseuon e-bost o bell ac mae popeth yn cael ei storio a’i gadw’n ddiogel yn y cwmwl felly gallaf gael gafael ar fy ffeiliau o unrhyw le.

Colman Kayman HR.

 

“Fe es i ar gwrs optimeiddio peiriannau chwilio Cyflymu Cymru i Fusnesau ac fe dalodd hyn ar ei ganfed. Ers gwneud y newidiadau a argymhellwyd, mae ymholiadau drwy’r wefan wedi llifo i mewn ac rydw i wedi dyblu nifer y cleientiaid, ac fe wnaeth hyn fy helpu i wneud elw yn fy mlwyddyn gyntaf.”

Rydym ni yma i chi

Mae’r gwasanaeth cymorth digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau yn rhoi cymorth am ddim i fusnesau gydag amrywiaeth o weminarau a chyngor un-i-un, yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o’r wefan. P’un a ydych chi eisiau dweud wrth gwsmeriaid eich bod wedi ailagor yn ddiogel, neu eich bod yn bwriadu gwneud hynny’n fuan, a bod angen i chi gael arian yn llifo eto i sefydlogi eich busnes - gall technegau digidol eich helpu i ddiogelu eich busnes nawr ac yn y dyfodol.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen