Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Ionawr 2019, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Wrth i bobl droi at gyfryngau cymdeithasol i rannu eu barn, mae wedi dod yn gynyddol haws i ddefnyddio’r llwyfannau hyn i leisio barn ar frandiau. Boed hynny’n adborth ynglŷn â gwasanaeth gwych neu gŵyn am gynnyrch diffygiol, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfle perffaith i bobl rannu eu barn am eich brand gyda chynulleidfa.

 

Mae’n hanfodol, felly, eich bod chi’n adnabod eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel rhan o gyflenwi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid. Peidiwch â chael eich twyllo i feddwl eich bod chi wedi’ch eithrio rhag hyn os nad oes gennych chi gyfryngau cymdeithasol, neu anaml y byddwch chi’n defnyddio’ch rhai chi. Os yw’ch cwsmeriaid ar-lein, fe allent fod yn siarad amdanoch chi.

 

Dyma rai awgrymiadau i sicrhau eich bod chi’n defnyddio’ch llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol i adeiladu ar eich gwasanaeth i gwsmeriaid ac i ateb sylwadau.

 

Lluniwch bolisi

Mae’n syniad da sicrhau bod pawb sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol eich brand yn deall ei gilydd ynglŷn â sut yr ydych chi’n bwriadu ymateb i sylwadau cadarnhaol a negyddol ar-lein.

 

Peidiwch â datblygu un ymateb safonol gan y gall hyn achosi problemau pellach trwy ymddangos yn annidwyll a di-hid. Serch hynny, dylech gael ‘llais’ brand clir i siarad â’r cwsmeriaid hyn ac arferion safonol, megis gofyn i gwsmer sy’n cwyno i anfon e-bost, yn hytrach na thrafod y gŵyn ar fforwm agored.

 

Trwy sefydlu polisi, byddwch chi’n barod i drin unrhyw negeseuon a ddaw ger eich bron!

 

Byddwch yn bersonol ond yn broffesiynol

Yr hyn sy’n allweddol i drin unrhyw sylw ar-lein yw’r tôn y byddwch chi’n ei defnyddio. Osgowch ddefnyddio ymatebion templed gan fod pobl eisiau teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu deall.

 

Byddwch yn bersonol ac yn ofalgar, ond dylech gynnal ymdriniaeth broffesiynol bob amser. Peidiwch â chael eich tynnu i mewn i ddadleuon ar-lein gan y gallai hyn gael effaith barhaus, ehangach ar eich brand.

 

Byddwch yn brydlon

Peidiwch â gwastraffu amser pan ddaw hi at ymateb i gwsmer ar-lein. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan ddaw hi at negeseuon negyddol. Os byddwch chi’n gadael dyddiau rhwng cwyn a’ch ymateb, mae’n bosibl y byddwch chi’n colli pob cyfle i atgyweirio'r berthynas gyda’r cwsmer hwnnw. Efallai y bydd yr holl beth yn tyfu heb reolaeth gyda nifer o ddefnyddwyr yn cyfrannu gan achosi difrod na ellir mo’i drwsio i enw’r busnes.

 

Ceisiwch reoli’r holl sylwadau yn ddyddiol i sicrhau bod pob mater posibl yn cael ei drin mewn modd amserol ac effeithlon.

 

Manteisiwch ar y cyfle i wella

Nid yn unig y mae hwn yn gyfle i reoli barnau negyddol ond yn gyfle gwych hefyd i ymgysylltu â chwsmeriaid selog. Helpwch y bobl hyn i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u denu i mewn i sgwrs a gallwch feithrin perthynas hir, ynghyd â dangos i ddarpar gwsmeriaid sut yr ydych chi’n gwerthfawrogi’ch cynulleidfa.

 

Hyd yn oed pan ddaw hi at sylwadau negyddol, os byddwch chi’n eu trin mewn ffordd ystyriol yna gallech roi hwb i’w barn o’r brand trwy ddangos eich bod yn deall y sefyllfa, yn gwerthfawrogi eu barn ac y byddwch yn ceisio gwneud iawn.

 

Os byddwch chi’n derbyn adborth negyddol, a oes unrhyw beth y gallwch ddysgu ohono? Peidiwch â theimlo popeth i’r byw, ond efallai y gwelwch y gallai peth beirniadaeth adeiladol helpu i wella’ch busnes yn y dyfodol.

 

A ydych chi eisiau dysgu sut i fanteisio ar y cyfryngau cymdeithasol?

Cofrestrwch ar gyfer gweithdy Cyfryngau Cymdeithasol am ddim #Cyflymubusnesau am ragor o awgrymiadau a chyngor ymarferol. Cadwch le nawr!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen