Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Ebrill 2018, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Hyd yn oed gyda syniadau gwych neu strategaeth wedi’i pharatoi’n dda, gall fod yn anodd rheoli eich holl wahanol weithgareddau marchnata, y gwahanol lwyfannau, amseroedd a dyddiadau ar gyfer anfon a’r cynnwys y mae angen ei rannu.

 

Fodd bynnag:

Mae digonedd o offer ar gael ar-lein (nifer ohonynt am ddim neu am bris isel) i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch strategaeth farchnata ddigidol a sicrhau bod popeth yn gweithio’n effeithiol

Gan roi amser i chi ganolbwyntio ar weithgareddau busnes eraill!

 

Dyma rai o’r offer ar-lein i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch gweithgareddau marchnata:  

 

Hootsuite

 

Hootsuite – llwyfan rheoli cyfryngau cymdeithasol sy’n caniatáu i chi reoli rhwydweithiau a phroffiliau lluosog, yn ogystal â mesur canlyniadau eich ymgyrch. Mae ffurf y dashfwrdd yn hawdd ei ddefnyddio ac mae'n dod â’ch holl lwyfannau cymdeithasol ynghyd mewn un hwb – dim mwy o fewngofnodi ac allgofnodi o broffiliau a cheisio cofio beth sy’n cael ei bostio ac yn lle.

 

Gall y llwyfan arbed amser trwy ganiatáu i chi amserlennu postiadau ddyddiau neu wythnosau ymlaen llaw, sy’n golygu eich bod wastad ar-lein. Gallwch hyd yn oed ffiltro sgyrsiau yn ôl allweddair, hashnod neu leoliad er mwyn gwybod yn hawdd beth mae pobl yn ei ddweud am eich brand, cystadleuwyr, eich diwydiant a’r prif bynciau.

 

Dyma offer rheoli cyfryngau eraill y gallech eu hystyried: Audiense, Klout, Sendible, Tweetdeck a Sprout Social.

 

Google Analytics

 

Google Analytics – dyma un o’r offer dadansoddi gwefannau mwyaf poblogaidd sydd ar gael. Mae'n rhoi ystadegau manwl am ymwelwyr â gwefan a ffynonellau ymwelwyr, gan roi dealltwriaeth i chi o faint o ymwelwyr sydd gennych, am ba hyd y maent yn aros ar eich safle, y tudalennau maent yn edrych arnynt ac o ble maent yn dod. Mae’r llwyfan wedi’i gynllunio ar gyfer rhai sy’n marchnata ac mae'n ffordd hwylus i wybod pwy yw eich cwsmeriaid trwy gyflwyno’r wybodaeth mewn adroddiad.

 

Mae dadansoddi’n bwysig i sicrhau bod eich gweithgareddau marchnata’n gweithio’n iawn a’ch bod yn deall pwy yw eich cwsmeriaid a’r newidiadau y mae angen eu gwneud i’ch strategaeth. Mae'n bwysig eich bod yn adolygu eich adroddiadau o leiaf bob wythnos.

 

Heb ddeall sut mae eich gweithgareddau marchnata’n gweithio i ddenu ymwelwyr i’ch gwefan, gallai’r holl ymdrechion eraill i reoli marchnata’n ddigonol fod yn ddibwynt!

 

Offer dadansoddi gwefan eraill y gallech eu hystyried: Clicky, Geckoboard, Heap Analytics a New Relic.

 

Trello

 

Os yw’n anodd cadw llygad ar eich holl wahanol weithgareddau marchnata, gallai offer fel Trello fod yn ddelfrydol i chi.

 

Mae'n llwyfan eithaf syml ond mae'n helpu i roi darlun gweledol o’ch prosiect, ac mae'n gweithredu fel rhestr arlein o bethau i’w gwneud. Gallwch greu rhestrau o dasgau lluosog, atodi ffeiliau a lluniau, rhoi sylwadau ar y cardiau, eu gosod yn nhrefn blaenoriaeth a neilltuo aelodau ar gyfer tasgau.

 

Gall Trello wneud y gwaith dyddiol o reoli tasgau’n llawer haws ac mae'n wych i’r rhai sy’n gweithio’n weledol. Cadwch drefn ar y tasgau angenrheidiol a gwnewch yn siŵr nad ydych yn anghofio unrhyw beth!

 

Offer rheoli tasgau eraill y gallech eu hystyried: Basecamp, liquid planner, Microsoft project online, project place.

 

Zoho CRM

 

Zoho CRM – mae’n llwyfan rheoli perthynas â chwsmeriaid sy’n cael ei reoli gennych chi sy’n dod â marchnata, cyfathrebu a gwerthiant ynghyd. Mae'n caniatáu i chi olrhain cyfleoedd gwerthu, awtomeiddio tasgau a chanfod cyfleoedd o’ch gwefan. Gall system CRM eich helpu i gyrraedd at ragolygon ar yr amser priodol ac ymgysylltu â nhw ar draws pob sianel.

 

Gall llwyfan CRM eich helpu i drefnu eich e-byst trwy graff gwerthiant (pipeline), rhannu’r ymwelwyr â’ch gwefan a chanfod cyfleoedd allweddol trwy ryngweithio drwy gyfryngau cymdeithasol. Mae hwn yn offeryn rheoli arall sy’n eich helpu i ddeall eich cwsmeriaid yn hawdd a mireinio a rhannu eich gweithgareddau marchnata digidol yn y ffordd sy’n fwyaf tebygol o hybu gwerthiant!

 

Systemau CRM eraill i’w hystyried: Goldmine CRM, INTOUCH CRM, Sage CRM Essentials a Salesforce.

 

Allai eich busnes elwa ar gyngor a chymorth marchnata digidol am ddim?

Cofrestrwch ar weithdy marchnata digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau nawr. Gallwch hefyd gael adolygiad o’ch gwefan am ddim, sesiwn 1:1 gyda Chynghorydd Busnes a chynllun gweithredu wedi’i deilwra.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen