Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Gorffenaf 2017, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Gellir brolio byth a hefyd am fanteision technoleg ddigidol – ond sut y mae troi hyn yn fudd ariannol ar gyfer busnesau sy’n tyfu? Yn aml, mae mabwysiadu technoleg ddigidol yn golygu buddsoddiad o ryw fath – p’un ai’n amser neu arian – felly, gall gymryd y cam gyntaf fod yn frawychus. Mae ansicrwydd ynghylch manteision y dechnoleg i’ch busnes, yr amser gymerith hi i’w gosod a sut bydd yn gweddu i’ch prosesau beunyddiol.

 

Rydym yn trafod 5 ffordd syml y gallwch arbed arian a thyfu elw gyda thechnoleg ddigidol!

 

Defnyddio gwasanaethau VoIP

 

Gall Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) helpu i gwtogi neu dorri’r costau sy’n gysylltiedig â galwadau ffôn – a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, hyd yn oed. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cysylltiad â'r rhyngrwyd a gwasanaeth ar-lein o’ch dewis, megis Skype neu Google Voice. Cwtogwch ar eich bil ffôn a dileu’r costau teithio trwm trwy gynnal cyfarfodydd a galwadau cydweithredol dros VoIP.

 

Gwneud defnydd o wefannau adolygu

 

Arbedwch arian ar farchnata i gwsmeriaid newydd drwy help eich cwsmeriaid cyfredol! Mae gwefannau adolygu, megis Reevoo a Trustpilot yn addas iawn ar gyfer eich gwefan eich hun ac yn gweithio i awtomeiddio’r broses o gasglu adolygiadau o fewn taith y cwsmer. Mae gwahanol haenau o ran y gost o ddefnyddio safle adolygu, yn dibynnu ar faint y busnes a’ch anghenion penodol – maen nhw’n amrywio o gynlluniau rhad ac am ddim i rai sy'n addas ar gyfer mentrau mawr. Mae safleoedd adolygu’n arbed arian ar weithgareddau marchnata (a’r amser cysylltiedig) i gyrraedd cwsmeriaid newydd a buddsoddiad mewn gwella bodlonrwydd cwsmeriaid, yn gwthio trosiant ac yn deall y cyfleoedd i wella’ch busnes – a fydd, yn ei dro, yn gallu cynhyrchu arian i’ch busnes.

 

Manteisio ar dreialon rhad ac am ddim neu becynnau meddalwedd sylfaenol

 

Os ydych chi’n awyddus i fabwysiadu technoleg ddigidol o fewn eich busnes, ond yn ansicr eich bod chi’n barod i ymrwymo, rhowch gynnig ar y cynhyrchion meddalwedd sydd o ddiddordeb i chi sydd â threialon rhad ac am ddim. Gallwch arbrofi â’r nodweddion, gweld sut y gallai fod o fudd i’ch busnes a deall sut allai gyfrannu at eich prosesau beunyddiol cyn buddsoddi. Gall arbrofi â’ch opsiynau cyn i chi fuddsoddi arbed llawer o arian i chi yn y tymor hir a chael gwared ar drafferthion defnyddio cynnyrch nad yw’n addas i’ch anghenion neu y bydd yn rhaid i chi ei newid ar ôl cyfnod byr.

 

Gweithio o bell a desg boeth

 

Pan fyddwch yn dechrau arni neu’n ansicr o gyfradd twf eich busnes, yn hytrach na gwario swm sylweddol o arian ar eich safle eich hun, ystyriwch yr opsiynau gweithio o bell neu ddesg boeth. Mae cysylltiadau band eang cyflym dibynadwy ac offer rheoli prosiect ar y cyd, megis Basecamp neu Trello yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i staff weithio o gartref neu y tu allan i’r amgylchedd swyddfa arferol. Fel arall, gallwch dalu am ddesgiau unigol neu ‘ddesgiau poeth’ i staff mewn gofod cydweithio. Arbedwch gostau cychwynnol sicrhau eich adeilad neu weithle eich hun trwy rannu’r safle gyda busnesau eraill mewn gweithle cydweithiol y gallwch ei ehangu neu grebachu (trwy dalu am ragor, neu am lai, o ddesgiau) wrth i anghenion eich staff newid.

 

Rhowch flaenoriaeth i farchnata trwy e-bost ac ar y cyfryngau cymdeithasol

 

Yn hytrach na buddsoddi mewn ymgyrchoedd farchnata costus neu gwario eich arian ar hysbysebu, defnyddiwch yr offer a’r llwyfannau rhad ac am ddim sydd ar gael a all eich helpu chi ddatblygu, rheoli a chydlynu eich prosiectau marchnata ar-lein eich hun.  P'un a ydych yn dosbarthu cipluniau wythnosol, e-gylchlythyrau misol neu gynigion e-bost wedi'u targedu, mae llwyfannau megis Mailchimp a Constant Contact yn symleiddio’r broses o greu e-bost personol eich brand i’w anfon i’r gronfa ddata. Yn yr un modd, gall lwyfannau megis Hootsuite, Tweetdeck a Sprout Social gynorthwyo ac awtomeiddio eich gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol i sicrhau eich bod eich brand ar-lein yn gyfoes heb wastraffu eich amser a’ch sylw drwy gydol y dydd.

 

Dysgwch am yr offer digidol eraill a allai arbed arian ac amser i’ch busnes!

Ymunwch â dosbarth meistr technoleg ddigidol rhad ac am ddim gan Cyflymu Cymru i Fusnesau a chael sesiwn un-wrth-un rhad ac am ddim gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol. Cofrestrwch nawr!

 

Am ehangu’ch dysg ond heb yr amser i fynychu digwyddiad?

Cymerwch olwg ar fodiwlau dysgu ar-lein newydd #cyflymubusnesau i dyfu’ch busnes!

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen