Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Awst 2018, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Gall defnyddio system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) nid yn unig arbed amser i’ch busnes trwy symleiddio’r broses, gall hefyd eich helpu i gynyddu gwerthiannau.

 

Yn ôl Salesforce, gallai system CRM gynyddu gwerthiannau hyd at 29%, rhoi hwb o 34% i gynhyrchiant a helpu i wella cywirdeb rhagolygon 42%!

 

Trwy gadw a threfnu data cwsmeriaid yn syth oddi ar amrywiaeth o fannau cyswllt mewn un lleoliad hawdd ei ddefnyddio, bydd system CRM yn eich helpu i roi mwy o ffocws ar y cwsmer.

 

Bydd eich cwsmeriaid yn elwa o wasanaeth gwell a dargedwyd a gallwch fwynhau cynnydd yn eich gwerthiannau.

 

Dyma 5 ffordd y gall system CRM yrru mwy o werthiannau i’ch busnes

 

Gwybodaeth amser go iawn ar flaen eich bysedd

 

Peidiwch â dibynnu ar hen ddata neu ddata anghyflawn i dargedu eich cyfathrebiadau.

 

Bydd system CRM yn rhoi’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch ar yr amser penodol hwnnw drwy ddod â data ynghyd o nifer o ffynonellau gwahanol mewn un ffrwd syml.

 

Targedu cwsmeriaid yn fwy uniongyrchol trwy ddeall eu hanghenion presennol, eu gweithgareddau, taith y cwsmer a rhyngweithiau. Bydd yr holl wybodaeth hon yn gwella’r tebygolrwydd y caiff y gwerthiant ei gwblhau.

 

Deall eich cwsmeriaid yn well

 

Mae’n debygol y bydd gan lawer o’ch cwsmeriaid gyfrifon cyfyngau cymdeithasol. Trwy dracio eu presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol, gallwch dderbyn mewnwelediadau gwerthfawr i’w sgyrsiau a’u gweithgarwch.

 

Os ydych yn adnabod eich cwsmeriaid yn well yna byddwch yn deall eu diddordebau a’u hanghenion, y negeseuon perthnasol a’r amseroedd gorau i ymgysylltu â nhw.

 

Bydd y ddealltwriaeth ddyfnach hon yn gwella eich dulliau marchnata, eich dulliau cyfathrebu a’ch gwerthiannau yn gyffredinol.  

 

Troswch eich sianeli presennol

 

Bydd trefnu a thracio sianeli yn eich helpu i ddeall eich cyfleoedd presennol am werthiannau.

 

Yn hytrach na mynd trwy lwyth o ddata i ddarganfod pwy y dylech fod yn ei dargedu, gallwch ddewis meini prawf penodol a darganfod y sianeli sydd fwyaf tebygol o drosi nawr.

 

Arbedwch amser drwy beidio â gwastraffu amser yn chwilio a threuliwch yr amser hwnnw’n ceisio gwneud mwy o werthiannau.

 

Rheoli tasgau o flaenoriaeth yn effeithiol

 

Mae gyrru gwerthiannau’n ymwneud â gwybod pryd yw’r amser gorau i weithredu – a bydd system CRM yn golygu na fyddwch byth yn colli cais gan gwsmer na cholli darpar gwsmeriaid.

 

Fodd bynnag, mae trefnu tasgau yn ôl blaenoriaeth nid yn unig yn golygu eich bod yn ymwybodol o’r cwsmeriaid y maent yn debygol o drosi nawr, mae hefyd yn cadw eich sylw ar weithgarwch y rheiny y byddwch yn eu targedu cyn hir.

 

Dyrannu adnoddau ac adolygu perfformiad

 

Os oes gan eich proses werthiannau nifer o gamau, bydd system CRM yn helpu’r tîm gwerthiannau i ddilyn hyn yn fwy effeithiol. Gallwch dracio’r darpar gwsmeriaid, darganfod wrth ba gam y maen nhw ac yna dyrannu adnoddau gwerthiannau i’r rheiny rydych yn fwy tebygol o’u trosi.

 

Gall tracio gwerthiannau hefyd eich helpu i adolygu a gwella perfformiad trwy gymharu eich amcanestyniadau, adolygu dadansoddeg a rheoli data cleientiaid yn agos i wella’r nifer a gedwir a rhagolygon y dyfodol.  

 

Os dymunech ddysgu mwy am sut i ddefnyddio system CRM i roi hwb i’ch gwerthiannau, cofrestrwch ar weithdy am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau nawr. Derbyniwch gyngor ymarferol i wneud y mwyaf o’ch system CRM.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen