Yn ystod y pandemig, mae pob un ohonom yn cymryd camau ychwanegol i amddiffyn ein hunain a’r bobl o’n cwmpas. Ond beth am ddiogelu eich busnes?

Yn anffodus, mae troseddwyr seiber wedi bod yn manteisio ar y pandemig byd-eang, gan ddefnyddio ebyst gwe-rwydo a sgamiau eraill i roi unigolion a chwmnïau dan fwy o bwysau fyth mewn cyfnod sydd eisoes yn un anodd.

Cofrestrwch ar gyfer weminarau am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau

Yr hyn sy’n achosi mwy o bryder fyth yw y bydd llawer o berchenogion busnesau (a hynny’n ddigon dealladwy) yn canolbwyntio ar agweddau hanfodol eraill o redeg busnes – llif arian, lles y staff a gwerthiant y dyfodol, i enwi ond rhai agweddau.

Gwaetha’r modd, mae’r rhain yn amgylchiadau delfrydol i hacwyr. Mae hi’n ddigon anodd rhedeg busnes fel y mae, ond gyda’r pwysau ychwanegol o gadw pethau i fynd yn ystod pandemig, nid oes rhyfedd fod grwpiau maleisus yn gweld eu cyfle i ymelwa.

Yn ffodus, mae yna ychydig o bethau syml y gellwch eu gwneud i ddiogelu eich busnes rŵan:

Codi ymwybyddiaeth

Mae’r bobl o fewn eich busnes yn gallu bod yn ffordd rwydd i hacwyr gael mynediad at wybodaeth sensitif. Rhaid cofio mai dynol ydym i gyd – er gwaethaf y datblygiadau mewn meddalwedd diogelwch, yr oll sydd ei angen ar haciwr i oresgyn eich amddiffynfeydd yw i chi glicio’n ddamweiniol ar ddolen mewn ebost neu roi manylion mewngofnodi ar wefan ffug. Bydd sicrhau bod eich staff yn cael hyfforddiant diogelwch, a’u bod yn ymwybodol o’r bygythiadau diweddaraf, yn gwneud pa bynnag fesurau a ddefnyddiwch eisoes yn fwy effeithiol.

Angen help? Mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol Llywodraeth y DU yn fan cychwyn arbennig o dda.

Bod yn ymwybodol o fygythiadau newydd

Daw bygythiadau seiber newydd i’r amlwg bob dydd. Trwy wneud yn siŵr bod eich meddalwedd gwrth-firws, eich muriau gwarchod a’ch mesurau diogelwch eraill yn gyfredol, gellwch helpu i amddiffyn eich busnes rhag yr ymosodiadau diweddaraf. Os ydych yn defnyddio meddalwedd cwmwl, bydd hwnnw’n gofalu am hyn i gyd: cânt eu diweddaru’n awtomatig, a’ch helpu i arbed arian hefyd. Aros ar y blaen sy’n bwysig.

Ddim yn siŵr lle i ddechrau? Mae’r arweiniad Meddalwedd Hanfodol di-dâl yn rhoi cyngor diduedd am y gwahanol blatfformau diogelwch.

Bod yn barod i adfer y sefyllfa

Yn anffodus, gall unrhyw un ddioddef ymosodiad seiber. Os yw’n digwydd, mae angen i chi allu adfer y sefyllfa cyn gynted â phosib er mwyn atal niwed hirdymor i’ch busnes (boed yn ariannol neu i’ch enw da). Cadw copi diogel wrth gefn o’ch data ydi’r cam cyntaf: gwnewch yn siŵr fod gennych gopi o holl ddata hanfodol y busnes wedi’i gadw mewn man arall, felly os cewch eich effeithio, medrwch godi’n ôl ar eich traed yn gynt. Os yw’n seiliedig ar gwmwl, yna gall eich staff gael mynediad at y ffeiliau o bell – rhywbeth hanfodol ar gyfer gweithio gartref.

Eisiau gwybod mwy am ddata? Ymwelwch â’n hadran Data a Seiberddiogelwch yn y Gronfa Wybodaeth.

Troi at arbenigwyr

Mae angen i berchenogion busnesau bach wisgo sawl het, felly peidiwch ag ofni gofyn am help os nad diogelwch yw eich cryfder. Boed hynny i helpu i osod eich rhaglen gwrth-fiwrs, i roi arweiniad ar adfer ar ôl trychineb neu i’ch asesu yn erbyn ardystiad Cyber Essentials y Llywodraeth, mae digonedd o help ar gael. I’r rhai ohonoch sy’n bwriadu cynnig am gontractau’r sector cyhoeddus mae’n bosib y bydd Cyber Essentials yn orfodol beth bynnag ac, felly, yn werth ei ystyried – hefyd, bydd yn dangos i’ch cwsmeriaid eich bod o ddifrif ynglŷn â chadw eu data’n ddiogel.

A medrwch bob amser ofyn i Cyflymu Cymru i Fusnesau: cofrestrwch ar gyfer ein weminar Cadw’n Ddiogel Ar-lein.

Cyfres o weminarau Diogelu eich Busnes, Diogelu eich Dyfodol

Mae diogelwch yn cwmpasu mwy na seiberddiogelwch yn unig. Mae pob un ohonom yn teimlo effeithiau’r pandemig ac yn deall y camau y mae’n rhaid i ni eu cymryd i amddiffyn ein hunain ac eraill.

Mae’r un peth yn wir am eich busnes chi. P’un a oes angen i chi fod ar safle, neu os medrwch weithio o’ch cartref, bydd cyfres 4 rhan o weminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau Diogelu eich Busnes, Diogelu eich Dyfodol yn rhoi’r cyngor digidol y mae ei angen arnoch ar hyn o bryd ac ar gyfer yr hyn sydd o’n blaenau.

Dechrau 13eg Gorffennaf 2020 – cofrestrwch yma yn rhad ac am ddim.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen