Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Awst 2018, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Gall fod yn hawdd ystyried meddalwedd a thechnoleg ar-lein fel buddsoddiad o’ch amser a’ch arian. Fodd bynnag, mae’n bwysig deall y ffyrdd y gall offer ar-lein eich helpu chi i reoli a hyd yn oed hybu eich cyllid yn well.

 

Dyma 6 ffordd y gall BBaChau ddefnyddio meddalwedd ac offer ar-lein i wella rheoli cyllid:

 

Cyfrifeg a chadw cyfrifon

 

Mae digon o atebion ar gael i’ch helpu chi i reoli eich anfonebau, eich llif arian, eich treuliau, a chyflwyno ffurflenni treth. Nid yn unig y gall hyn arbed amser ac ymdrech, ond mae hefyd yn helpu i leihau llawer o’r straen sy’n gysylltiedig â rheoli eich cyllid!

 

Cliciwch yma i adolygu rhai o’r pecynau meddalwedd cyfrifeg/cadw cyfrifon ar gyfer BBaChau

 

Cyflogres

 

Mae gwasanaethau a meddalwedd cyflogres yn rhoi’r swyddogaeth sydd ei hangen arnoch i fodloni eich anghenion prosesu ac adrodd cyflogres. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau’n cydymffurfio â hanfodion CThEM. Gellir teilwra’r rhain i fodloni anghenion, fel cyfnodau talu penodol ac integreiddio â systemau busnes eraill, fel cydymffurfio â chynlluniau gwahanol y diwydiant.

 

Cliciwch yma i adolygu systemau cyflogres gwahanol wedi’u dylunio ar gyfer BBaChau

 

System CRM

 

Er bod system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) wedi cael ei dylunio i’ch helpu chi i ddeall eich cwsmeriaid yn well, mae’n offeryn gwych i’ch helpu chi ddeall y gwerth y gallent ei gyflwyno i’ch busnes a gwneud penderfyniadau gwybodus am sut i gyfathrebu â nhw.

 

Meddyliwch am eich system CRM fel offeryn i helpu hybu arweiniadau, gwerthiannau a phroffidioldeb oherwydd y byddwch chi’n gallu targedu eich cwmeriaid yn well, ar yr amser cywir, gyda’r neges gywir.

 

Cliciwch yma i gael cipolwg ar systemau CRM a all fod yn addas i’ch busnes

 

EPOS

 

Mae systemau Pwynt Gwerthu Electronig yn hanfodol ar gyfer busnesau sy’n gweithio yn y sectorau manwerthu neu letygarwch. Mae’r meddalwedd hwn yn rheoli gweithrediad y ddesg dalu a dyma beth mae’r cwsmer yn ei weld wrth wneud trafodyn. Mae’n bosibl defnyddio EPOS ar draws eich busnes hefyd, fel rhan o system TG, yn cysylltu â rheoli stoc yn y swyddfa gefn, archebu a chymwysiadau CRM.

 

Mae systemau EPOS yn offeryn gwych arall ar gyfer awtomeiddio a deall yn well beth rydych chi’n ei werthu, beth sydd angen ei ail-archebu, a bydd yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n lleihau faint o gynhyrchion ac arian a wastraffir; sy’n golygu mwy o elw o werthu targedig.

 

Cliciwch yma i weld rhai systemau EPOS efallai y byddech yn ystyried eu defnyddio

 

Taliadau â cherdyn/electronig

 

Os ydych chi eisiau cynyddu gwerthiannau, gallai fod gwerth ystyried yr opsiynau talu rydych chi’n eu cynnig i gwsmeriaid. Trwy ehangu’r dulliau talu rydych chi’n eu cynnig, a darparu detholiad o derfynellau talu gwahanol, byddwch mewn sefyllfa well i gymryd taliadau’n bersonol, ar-lein, dros y ffôn neu drwy ffôn clyfar.

 

Gallai hyn helpu i hybu gwerthiannau trwy ganiatáu i’ch cwsmeriaid dalu trwy ddull sydd fwyaf addas iddyn nhw, yn hytrach na gorfod troi cwsmeriaid posibl i ffwrdd gan nad oes gennych chi’r gallu.

 

Cliciwch yma i weld rhai atebion talu â cherdyn efallai yr hoffech eu hystyried

 

Atebion archebu

 

Mae system archebu neu gadw yn offeryn gwych ar gyfer busnesau sydd eisiau symleiddio ac awtomeiddio sut maen nhw’n storio gwybodaeth cwsmeriaid a derbyn taliadau. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer busnesau sy’n ymwneud â theithio, gwestai, llogi ceir, llety gwely a brecwast, digwyddiadau a gweithgareddau eraill.

 

Gallwch wella hygyrchedd cwsmeriaid trwy ganiatáu iddyn nhw wneud a rheoli eu harchebion ar gyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar. Mae hyn yn sicrhau bod y trafodion yn cael eu prosesu a’u cadarnhau ar-lein yn syth ac yn ddiogel. Mae’n well gan rai cwsmeriaid archebu ar unwaith, yn hytrach na gorfod ffonio busnes prysur, felly mae hyn yn arbed amser ac ymdrech i chi - mae pawb ar eu hennill.

 

Cliciwch yma i adolygu rhai atebion archebu a allai fod yn addas i’ch busnes chi

 

Ydych chi’n dal i feddwl pa offer fyddai eich busnes yn elwa o’u defnyddio?

 

Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau i gyrchu cyfarfod un i un rhad ac am ddim gyda Chynghorydd Busnes Digidol a fydd yn trafod eich anghenion a darparu cynllun gweithredu digidol.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen