Yn y cyfnod heriol hwn, gall technoleg ddigidol helpu perchnogion busnesau bach i gynnal ymwybyddiaeth brand a’u helpu i aros mewn cysylltiad â chwsmeriaid.

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi llunio nifer o Ganllawiau ymarferol i helpu busnesau sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19 i symud ar-lein a chreu ‘busnes fel arfer’ newydd nes y bydd pethau’n ôl i’r arfer.

Dyma 4 ffordd syml i’ch helpu chi i symud ar-lein.

Helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i chi ar-lein

Yn aml, eich gwefan fydd y pwynt cyswllt cyntaf. Felly, os nad ydych ar-lein neu os nad yw’n hawdd dod o hyd i chi, gallech golli llawer o gwsmeriaid posibl.

Os nad oes gennych yr arian i dalu am ddatblygwr gwe, gallwch adeiladu gwefan eich hun am ddim ar wefannau fel WordPress a Wix. Er enghraifft, bydd Wix yn creu gwefan i chi’n syth yn seiliedig ar yr hyn rydych chi eisiau, neu fe allwch chi greu un gan ddefnyddio’r templedi y gellir eu personoli sydd eisoes ar gael.

Gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn hygyrch. Rydych eisiau ei gwneud mor hawdd â phosibl i gwsmeriaid ddod o hyd i’r hyn maent yn chwilio amdano. Rhowch wybodaeth gywir a chryno gyda chyfeiriadau a chyfarwyddiadau clir fel bod cwsmeriaid yn gwneud yr hyn rydych chi eisiau iddyn nhw ei wneud ar ôl cyrraedd eich gwefan.

Cofiwch rannu cynnwys newydd yn rheolaidd. Mae peiriannau chwilio yn hoffi cynnwys newydd ac os byddwch yn diweddaru eich gwefan yn gyson, byddwch yn cael canlyniadau gwell. Hefyd, bydd rhannu cynnwys ar eich cyfryngau cymdeithasol sy’n cysylltu’n ôl i’ch gwefan yn eich helpu i gadw eich busnes ym meddyliau eich cwsmeriaid.

Mae cymorth ymarferol ar gael i chi yn ein gweminar am ddim am wefannau.

Cysylltu drwy’r cyfryngau cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd syml iawn o ryngweithio â chwsmeriaid. Mae dyddiau ac oriau busnes 9am-5pm wedi hen ddiflannu, yn arbennig yn yr hinsawdd bresennol. Nawr, mae cwsmeriaid yn disgwyl gallu cysylltu â busnesau a chael ymateb 24/7. Hefyd, maent yn fwy tebygol o gysylltu â busnesau ar Facebook neu Twitter yn hytrach na chodi’r ffôn. Yn syml, os yw eich cwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol yna dylech chithau fod hefyd.

Cyn i chi ddechrau arni, meddyliwch am eich marchnad darged. Gwnewch rywfaint o ymchwil i ganfod pa wefannau cyfryngau cymdeithasol mae eich cwsmeriaid yn eu defnyddio a chreu cyfrif eich hun arnynt. Er enghraifft, efallai byddwch yn gweld mai Twitter, Facebook ac Instagram sy’n gweithio orau ar gyfer cyswllt Busnes i Ddefnyddwyr, ac mai LinkedIn sy’n gweithio orau ar gyfer Busnes i Fusnes. Os nad ydych chi’n gyfarwydd iawn â’r cyfryngau cymdeithasol, efallai byddai’n well i chi gael presenoldeb ar ddim ond un neu ddau o lwyfannau a chanolbwyntio ar y rhain yn lle ceisio jyglo sawl llwyfan.

Hefyd, edrychwch i weld beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud a dysgu ganddynt. Beth maen nhw’n ei wneud yn dda neu’n anghywir? Pa lwyfannau cyfryngau cymdeithasol maen nhw’n eu defnyddio a faint maen nhw’n ymgysylltu â’u cwsmeriaid a’u dilynwyr?

Mae cymorth ymarferol ar gael yn ein gweminar am ddim am y cyfryngau cymdeithasol.

Rheoli eich busnes o’ch cartref

Gan fod llawer ohonom ni’n gweithio o gartref nawr, nid yw busnesau wedi’u cyfyngu i’r swyddfa mwyach. Wrth lwc, mae llawer o adnoddau ac apiau ar-lein sy’n eich galluogi chi i reoli eich busnes gartref.

Mae’n debyg mai Microsoft 365 yw un o’r rhai mwyaf adnabyddus. Mae ganddynt gynlluniau prisio gwahanol ar gyfer busnesau sy’n dechrau gyda Business Basic, sy’n darparu fersiynau gwe o Word, Excel a PowerPoint. Hefyd, rydych yn cael mynediad at e-bost busnes, yn gallu rhannu ffeiliau, yn cael lle i storio ffeiliau, ac yn gallu cynnal cyfarfodydd fideo-gynadledda Teams. Mae’r pecyn Premiwm yn cynnwys y rhain i gyd ynghyd â diogelwch uwch rhag bygythiadau seibr, a’r gallu i reoli dyfeisiau a holl apiau Microsoft Office. Hefyd, mae Microsoft yn cynnig Online Office sy’n eich caniatáu i ddefnyddio fersiynau ar-lein o gynnyrch Microsoft fel Word, Excel a PowerPoint am ddim.

Mae ein gweminar am ddim am Online Office yn edrych yn fanwl ar sut gall Microsoft 365 eich helpu chi i symud eich gwaith swyddfa ar-lein yn gyflym.

Systemau anfonebu ar-lein

Mae llawer o adnoddau ar-lein ar gael i’ch helpu i reoli arian. Mae anfonebu ar-lein yn cynnig nifer o fanteision i fusnesau – mae’n gyflym ac yn syml, yn gost-effeithiol, yn darparu mynediad 24/7, yn ystyriol o’r amgylchedd, ac mae gennych chi reolaeth drosto.

Mae Zoho Invoice yn eich caniatáu i ychwanegu brand eich cwmni ar dempledi anfonebau sydd wedi’u creu’n barod ac ar negeseuon atgoffa am daliadau ac anfonebau. Mae hefyd yn eich galluogi i dderbyn taliadau ar-lein a llwytho derbynebau i fyny drwy ddefnyddio camera eich ffôn er mwyn cadw cofnod o’ch costau. Yn ychwanegol at hyn, mae’n eich galluogi i greu amcangyfrifon gwaith a chofnodi faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar waith penodol. Os yw’n well gennych chi, gallwch ddefnyddio Zoho i brynu credydau i anfon eich anfonebau yn y post. Maent yn costio rhwng £0 a £18 y mis. Mae llawer o adnoddau anfonebu ar-lein eraill ar gael hefyd fel QuickBooks, felly ymchwiliwch y farchnad i weld pa un sydd orau i chi.

Dewch i weld pa system dalu sy’n gweithio orau i chi yn ein sesiwn flasu byw 20 munud am Systemau Talu Ar-lein.

Mae gennym amrywiaeth o weminarau dwy awr a sesiynau blasu 20 munud am ddim i helpu busnesau sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19. Rhagor o wybodaeth ac ymuno nawr.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen