Yn y cyfnod hwn o ymdopi â COVID-19, mae pawb yn naturiol yn canolbwyntio ar eu hiechyd personol eu hun ac iechyd y rhai sy’n agos iddynt. Ond beth am effaith ehangach cadw pellter cymdeithasol, a’i effaith ar iechyd meddwl?

Gyda chyngor y Llywodraeth yn dweud y dylai gweithwyr sy’n gallu gweithio gartref wneud hynny, dylech ystyried yr effaith y gallai gweithio gartref ei chael ar les eich tîm.

Mewn swyddi wedi’u lleoli mewn swyddfa, nid dim ond mewn ystafelloedd cyfarfod mae pobl yn dod i gysylltiad â’i gilydd – mae’n digwydd drwy’r amser, o sgyrsiau ffwrdd â hi i egwyl te deg.

Dyma’r amgylchedd lle mae cyfeillgarwch yn ffynnu a pherthnasoedd gwaith cryf yn datblygu, felly sut mae cynnal hyn a chadw eich staff mewn cysylltiad â’i gilydd mewn cyfnod fel hwn?

Mae fideogynadledda wedi ennill ei le ers i’r mesurau i gadw pellter cymdeithasol gael eu cyhoeddi, gyda phlatfformau fel Zoom a Microsoft Teams yn creu rhith lawr swyddfa lle gall prosiectau barhau, a lle gall timau weld beth mae pawb yn ei gael i ginio.

Ond, yn bwysicach efallai, mae aros mewn cysylltiad â’ch tîm yn ystod y cyfnod hwn na welwyd mo’i debyg hefyd yn meithrin ymdeimlad o bwrpas a chysylltiad sy’n help i gynnal iechyd meddwl da, drwy leihau rhyw fymryn ar y teimlad o fod wedi ein hynysu.

Felly, pa offer allwch chi ei ddefnyddio?

Microsoft Teams

Hwn yw hyb Microsoft ar gyfer gwaith tîm. Caiff Teams ei ddisgrifio fel “gweithio o bell heb deimlo eich bod yn bell”. Yn rhan o Office 365, rhith swyddfa yw Teams lle gallwch gael sgyrsiau grŵp, sgyrsiau preifat a fideoalwadau, yn ogystal â chydweithio ar yr un dogfennau. Cael gwybod mwy.

Slack

Fel Teams, mae Slack yn dod â thimau at ei gilydd, ble bynnag maen nhw wedi’u lleoli. Gall ysgafnhau’r baich ar eich mewnflychau, gyda’r nodwedd negeseuon gwib yn cadw’r holl glebran pwysig ar yr ap (boed hwnnw ar eich bwrdd gwaith neu ar eich ffôn). Cael gwybod mwy.

Zoom

Mae poblogrwydd Zoom wedi cynyddu’n aruthrol yn ddiweddar, am ei fod mor hawdd ei ddefnyddio ac am fod pawb yn y byd yn ôl pob golwg wedi cael gwahoddiad i sgwrs Zoom. Mae’r haen am ddim yn caniatáu galwadau fideo 40 munud (drwy un ai ap neu borwr), ac mae opsiynau am dâl ar gael i’r rhai sy’n ddefnyddwyr trymach. Byddwch yn ymwybodol o’r pryderon am ddiogelwch a phreifatrwydd, serch hynny. Cael gwybod mwy.

FaceTime

Os ydych yn berchen ar iPhone, mae gennych ap fideogynadledda yn barod: FaceTime. Gall hyd at 32 o bobl fod ar FaceTime ar unrhyw adeg, ond mae gofyn iddynt i gyd fod yn defnyddio dyfais Apple – perffaith os mai ffonau Apple sydd gan eich cwmni. Cael gwybod mwy.

WhatsApp

I’r rhai nad ydynt yn defnyddio dyfeisiau Apple, WhatsApp yw’r cynnig gorau. Ar gael ar draws pob dyfais (yn cynnwys byrddau gwaith), mae WhatsApp yn caniatáu fideoalwadau i hyd at 16 person. Eisiau mwy? Mae galwadau sain grŵp yn caniatáu i chi wahodd hyd at 32 person. Cael gwybod mwy.

Google Hangouts

Platfform cynadledda yr archgwmni chwilio, mae dau ap yn rhan o Google Hangouts: Google Hangouts Meet, platfform fideogynadledda i hyd at 100 o bobl yn defnyddio cyfrif G Suite sylfaenol, a Google Hangouts Chat, platfform negeseua gwib. Cael gwybod mwy.

Cisco WebEx

Platfform fideogynadledda sydd wedi hen ennill ei blwyf, mae i Cisco WebEx nodweddion grymus y gallai fod eu hangen ar gwmnïau mwy ar gyfer fideoalwadau, yn cynnwys caniatáu hyd at 100,000 o bobl ar alwad – perffaith ar gyfer cynadleddau neu ddigwyddiadau mawr. Cael gwybod mwy.

A rhagor…

Gallwch weld mwy o blatfformau fideogynadledda yn ein canllaw rhad ac am ddim, Meddalwedd Hanfodol.

A sut gallwch chi eu defnyddio?

Rydyn ni wedi gweld busnesau ar draws Cymru yn defnyddio platfformau fideogynadledda mewn ffyrdd dyfeisgar. P’un a yw hynny’n sefydlu rhith ddosbarthiadau cadw’n ffit neu gynnal cwis tafarn ar-lein, does dim i’ch rhwystro rhag gwneud yr hyn rydych chi ei eisiau unwaith y byddwch wedi sefydlu’r platfform.

Ac i staff swyddfa? Dyma rai syniadau:

  • Rhith amser cinio neu egwyl goffi
  • Sgyrsiau dyddiol ar y cyd
  • Cyfarfodydd tîm
  • Gweithio gyda’ch gilydd ar brosiectau
  • Cadw mewn cysylltiad â chleientiaid

Mae gennym weminarau ar gael i helpu busnesau mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Bydd y gyfres yn cynnwys pynciau allweddol sy’n ymwneud â COVID-19 a’ch busnes. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen