Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Chwefror 2017, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Mae technoleg ddigidol wedi chwyldroi’r ffordd y mae busnesau’n rheoli a chyfnewid arian. O drafod arian papur a sweipio cerdyn credyd, i gwblhau taliadau electronig trwy glicio botwm, mae technoleg yn galluogi busnesau i fod yn fwy chwim a hyblyg o ran derbyn taliadau gan eu cwsmeriaid.

 

Mae mwy o ddewisiadau talu yn caniatáu i gwsmeriaid gwblhau eu taith brynu yn eu dull dewisol neu yn y ffordd fwyaf hygyrch. Gall cael gwared ar rwystrau yn y daith nid yn unig wneud profiad y cwsmer yn symlach, ond gall eich helpu i werthu mwyfwy o’ch cynnyrch!  

 

Yn sgil natur hyblyg taliadau electronig, gallwch ddewis system dalu sy’n addas i anghenion eich busnes chi ac mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer mwy hygyrch i fusnesau bach, yn hytrach na chael eu cadw ar gyfer cwmnïau mawr neu gwmnïau ar y we.  

 

Mae gennym ni 4 cam pwysig ar gyfer busnesau sy’n ystyried mabwysiadu system talu electronig, gan gynnwys y cwestiynau mae angen i chi eu gofyn a ffactorau pwysig mae angen i chi eu hystyried:

 

Beth yw’ch anghenion?

 

Cyn i chi ddechrau ymchwilio i’r systemau sydd ar gael i chi, ysgrifennwch restr o beth fydd angen i’ch cyfleuster talu electronig ei wneud. Peidiwch â chael eich dallu gan fuddion ac ychwanegiadau deniadol, ond nad ydynt yn cynnig unrhyw beth i’ch busnes mewn gwirionedd. Dechreuwch eich ymchwil gyda rhestr ddiffiniedig o nodweddion neu wasanaethau sydd eu hangen arnoch. Gallai hyn gynnwys prosesu cardiau’n unig, terfynell man gwerthu, mannau talu ar-lein, rhaglenni teyrngarwch cwsmeriaid a chynhyrchion cardiau rhodd, neu integreiddio â meddalwedd cyfrifo.

 

Ymchwiliwch i’ch dewisiadau

 

Peidiwch â dewis y feddalwedd taliadau electronig gyntaf y dewch o hyd iddi. Dylech gymharu rhai opsiynau o fewn eich ystod prisiau yn gyntaf a gwerthuso beth maen nhw’n ei gynnig i’ch busnes, sut y bydd yn gwella prosesau eich busnes yn realistig, a sut bydd hyn yn effeithio ar daith neu brofiad cwsmeriaid.

 

Fel busnes bach, mae’n anhebygol y bydd arnoch angen system talu electronig gwasanaeth llawn, felly ystyriwch eich anghenion penodol, a’ch gweithgareddau twf posibl hefyd. Mae Cyfeiriadur Meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnig crynodeb o wybodaeth allweddol am yr amrywiaeth o feddalwedd talu electronig a man gwerthu electronig (EOPS) sydd ar gael. Lawrlwythwch eich canllaw rhad ac am ddim nawr.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen