Mae'r pandemig wedi ein gorfodi ni i addasu i ffordd wahanol o fyw a gweithio. Mae hefyd wedi dangos i ni y gellir cynnal busnes ar-lein ac nad oes angen ei gyfyngu i un lle sefydlog.

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi creu nifer o ganllawiau defnyddiol i helpu busnesau i symud ar-lein.

Yn yr erthygl ddiweddaraf hon rydym wedi amlinellu pedwar teclyn digidol hawdd eu defnyddio, y mae gan bob un ohonyn nhw fersiynau am ddim, fel y gallwch adael i’r dewis digidol wneud y gwaith caled i chi.

Rydym yn ymdrin ag:

  • Offer rheoli’r cyfryngau cymdeithasol
  • Offer fideo-gynadledda a chydweithio
  • Systemau archebu ar-lein
  • Systemau talu ar-lein a darllenwyr cardiau

Offer rheoli’r cyfryngau cymdeithasol

Gall y rhain arbed amser o ddifrif a’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw, gan nad oes angen i chi bostio yn yr ‘amser go iawn.’ Mae offer rheoli cyfryngau cymdeithasol yn fodd i chi reoli eich holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn hawdd mewn un lle, olrhain allweddeiriau ac amserlennu postiadau ymlaen llaw, fel y gallwch gadw eich brand yn weladwy, ac ym mlaen meddwl eich cwsmeriaid.

Mae apiau rydych chi'n talu amdanyn nhw yn tueddu i ddod gyda phethau ychwanegol fel mynediad at ddadansoddeg fel y gallwch weld pryd mae pobl yn fwyaf ymatebol, ac amserlennu postiadau ar gyfer yr amseroedd hyn. Hootsuite yw un o'r llwyfannau mwyaf adnabyddus, sy'n cynnig cynlluniau rydych chi'n talu amdanyn nhw a fersiwn sylfaenol am ddim. Mae'r fersiwn am ddim yn rhoi'r modd i chi gysylltu tri chyfrif cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi 30 post wedi eu hamserlennu bob mis.

Cofiwch, y dyddiau hyn mae pobl yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â busnesau bob awr o'r dydd (neu'r nos), ac yn disgwyl cael ymateb. Cadwch hynny mewn cof wrth i chi drefnu postiadau a'i gwneud hi'n glir ar ba oriau rydych chi ar gael.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein gweminar am ddim ar gyfyngau cymdeithasol.

Offer fideo-gynadledda a chydweithio

Yn ystod y pandemig, rydyn ni i gyd wedi bod yn chwilio am ffyrdd o gadw mewn cysylltiad ar-lein, a throdd llawer ohonom ni at gyfryngau fideo. Y platfform fideo-gynadledda mwyaf poblogaidd o bell ffordd yn 2020 fu Zoom (darllenwch ein herthygl ar Sut i ddefnyddio Zoom). Neidiodd o 10 miliwn o ddefnyddwyr ym mis Rhagfyr 2019 i 300 miliwn erbyn mis Ebrill. Yr hyn sy'n denu defnyddwyr yw ei symlrwydd, a pha un ai a ydych chi eisiau siarad â 100 o bobl neu ddim ond un, rydych chi'n cael 40 munud am ddim. Nid yw'r cyfan wedi bod yn gwbl ddidrafferth, serch hynny, wrth i gwestiynau gael eu codi ynghylch diogelwch. I fynd i’r afael â hyn mae Zoom wedi cyflwyno cyfrineiriau i ddiogelu pob cyfarfod, boed hynny ar unwaith neu wedi ei drefnu - rhagor o wybodaeth am ddiogelwch Zoom.

A laptop on a video call.


Os oes gennych chi staff a’ch bod chi eisiau rhywbeth ychydig yn fwy soffistigedig, mae Microsoft Teams yn ddewis da. Mae amgryptio data Microsoft wedi ei ymgorffori i sicrhau bod aelodau'r tîm yn gallu cadw mewn cysylltiad yn ddiogel drwy negeseuon gwib, galwadau ffôn a fideo. Mae Teams wedi ei gynnwys ym mhecynnau busnes Microsoft 365 rydych chi'n talu amdanyn nhw ond maen nhw hefyd yn dod fel fersiwn ar wahân am ddim. Mae'r fersiwn am ddim yn cynnwys sgwrsio diderfyn, galwadau fideo, 10GB o storfa i’r tîm, a 2GB o storfa bersonol, yn ogystal â'r gallu i rannu dogfennau â chydweithwyr a gweithio arnyn nhw gyda'i gilydd.

Mae Microsoft Teams hefyd yn darparu mynediad am ddim at fersiynau Word, Excel, a PowerPoint ar y we ynghyd â 250+ o apiau integredig. Gallwch drefnu cyfarfodydd, gwahodd gwesteion i gydweithio, cynnal cyfarfodydd ar-lein ar gyfer hyd at 300 o bobl, a chael 500,000 o ddefnyddwyr.

Cewch ragor o wybodaeth yn ein gweminarau am ddim ar offer ar-lein a Microsoft 365.

Systemau archebu ar-lein

Mae'r byd wedi newid, ac erbyn hyn mae llawer o fusnesau angen i gwsmeriaid archebu ymlaen llaw fel y gallan nhw ymweld yn ddiogel ac yn unol â’r canllawiau COVID-19 sydd ar waith. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i leoliadau lletygarwch a thwristiaeth, ond gall hefyd gynnwys siopau, salonau a mannau eraill. Mae SimplyBook.me yn system archebu ar-lein sy'n cynnig fersiynau am ddim a rhai rydych chi’n talu amdanyn nhw sy'n galluogi busnesau i dderbyn archebion yn hawdd drwy eu gwefan neu eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Os nad oes gennych chi wefan, mae SimplyBook.me yn rhoi'r modd i chi greu eich safle archebu wedi ei bersonoli.

Gellir cymryd archebion 24/7, eu rheoli drwy'r app wrth i chi fynd a dod, a'u cydamseru i galendrau personol er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng apwyntiadau. Gallwch hefyd anfon nodiadau atgoffa awtomatig wedi eu teilwra am apwyntiadau i leihau’r siawns nad yw pobl yn cadw at eu hapwyntiad.

Drwy’r pecyn rhad ac am ddim rydych chi'n cael mynediad i'r app, y safle archebu, botwm archebu ar gyfer eich gwefan a'ch cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â lle yn y cyfeiriadur ar dudalen archebu SimplyBook.me. I gymryd taliadau ar-lein, bydd angen un o'r dewisiadau lle’r ydych chi'n talu, a chymerwch olwg ar ein hadran Taliadau Ar-lein isod.

Mae mwy o ddewisiadau arbenigol ar gael yn cynnwys Fresha (Shedul, gynt), sef platfform archebu pwrpasol ar gyfer salonau, sba a busnesau eraill sy'n gweithredu yn y sector iechyd a harddwch.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein gweminar am ddim ar offer busnes ar-lein.

Systemau talu ar-lein a darllenwyr cardiau

Oherwydd y goblygiadau iechyd amlwg, mae llawer o gwsmeriaid eisiau osgoi trin arian parod gymaint â phosibl ar hyn o bryd, gan ddewis talu’n ddigyswllt yn lle hynny. Os nad yw eich busnes wedi sefydlu system fel hon ar hyn o bryd, mae darllenydd cerdyn yn lle hawdd a chost-effeithiol i ddechrau.

Mae SumUp yn cynnig dau ddewis o ran darllenydd cardiau, un gyda Bluetooth sy'n gweithio drwy app am ddim SumUp ac yn cysylltu â ffôn neu gyfrifiadur tabled, ac un â data diderfyn am ddim neu WIFI ar ffurf dyfais arunig. Mae'r ddau yn rhoi'r modd i chi gymryd taliadau cerdyn yn ddiogel ac yn hawdd wrth i chi fynd a dod er mwyn i chi allu cynnig tawelwch meddwl a hyblygrwydd i gwsmeriaid. Nid oes costau misol a dim ond ar bob trafodiad y telir ffioedd, sef 1.65% ar hyn o bryd.

Os yw eich busnes yn un ar-lein yn unig, gallwch hefyd ddefnyddio SumUp i gymryd taliadau ar-lein drwy anfoneb, dolen dalu, cerdyn SumUP, neu drwy siop ar-lein a grëwyd ar eich cyfer chi. Mae'r holl ddewisiadau talu o bell yn rhad ac am ddim. Dim ond pan fyddwch chi'n cael eich talu y byddwch chi'n talu ffi trafod o 2.5%, ac nid oes angen i chi brynu darllenydd cerdyn SumUp i'w ddefnyddio.

Someone using a card machine to pay for coffee.


Mae Square yn ddewis poblogaidd arall i fusnesau bach. Mae ei Square Reader yn costio £19 ymlaen llaw gyda ffioedd trafod yn 1.75%, a dim costau misol. Mae'n cysylltu drwy Bluetooth â ffôn neu gyfrifiadur tabled ac yn defnyddio app pwynt gwerthu am ddim. Gellir defnyddio Square Reader i gymryd taliadau ‘PIN a sglodyn’, digyswllt, Apple Pay a Google Pay.

Yn ogystal, mae gan Square lawer o gynhyrchion ar gael i'ch busnes allu cymryd taliadau ar-lein drwy anfoneb, eich gwefan eich hun, neu ddolen desg dalu os nad oes gennych chi wefan. Mae Square Online yn cynnig safle e-fasnach i werthu a chymryd taliadau ar-lein. Mae'r holl gynhyrchion yn rhad ac am ddim ond mae gofyn talu ffi o 2.5% ar bob trafodyn.

Mae'n werth sôn am Patreon a Buy Me a Coffee, sydd wedi eu hanelu at y diwydiant creadigol ac sy'n rhoi modd i bobl greadigol ac artistiaid dderbyn cymorth a ffioedd aelodaeth gan eu cefnogwyr.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein gweminar am ddim ar offer ar-lein.

Help llaw am ddim i symud ar-lein - cofrestrwch i gael cymorth busnes am ddim

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen