Trodd busnesau yng Nghymru at dechnoleg ddigidol fel na welwyd erioed o’r blaen er mwyn ymdrin â’r heriau a achoswyd gan bandemig y Covid-19.

Mae Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Prifysgol Caerdydd wedi dilyn cynnydd Cymru fel cenedl ddigidol ers 2016 a gofynnodd y rhifyn diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, i fusnesau sut mae Covid-19 wedi newid y ffordd y maen nhw’n gweithio. Fel y disgwylir, roedd fideogynadledda a storio mewn cwmwl yn dra amlwg wrth i BBaChau yng Nghymru addasu yn y lle cyntaf i fywyd ar ôl y cyfyngiadau symud, ond roedd cwmnïau a oedd yn ystyried arallgyfeirio angen mwy o help i wireddu buddion technoleg ddigidol yn llawn.

Adlewyrchwyd hwn yn y modd y mae busnesau yn defnyddio gwasanaethau fel Cyflymu Cymru i Fusnesau (CCIF). Yn ystod y pandemig, gweithiodd CCIF gyda chwmnïau i ddatblygu eu hyder a theilwra cynlluniau busnes sy’n gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol er mwyn creu arian, cynyddu adnoddau ac arbed amser. Yn ystod gweminarau rhad ac am ddim a chefnogaeth 1:1, gwelodd cynghorwyr CCIF fusnesau a oedd yn barod i addasu, ond roedden nhw angen ychydig o help i wneud hynny yn hyderus.

Beth mae Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru yn ddweud…

Gyda phlatfformau fel Zoom, Facetime a Microsoft Teams yn awr yn gyffredin yn y gwaith ac yn y cartref, nid yw’n syndod o gwbl gweld bod 71% o ymatebwyr yn defnyddio fideogynadledda i gwrdd yn rhithwir a glynu at fesurau pellter cymdeithasol. Mae diwydiannau traddodiadol fel adeiladu hyd yn oed yn fwy tebygol o weld gweithio o bell fel rhan o’r “normal newydd”: mae 77% o gwmnïau yn y sector yn hyderus ynglŷn â gweld eu staff yn gweithio o bell yn y dyfodol, o’i gymharu â 62% o drwy Gymru.

Tra bod y gostyngiad mewn cyswllt wyneb yn wyneb yn dod â rhai buddion i lawer (gweithio mwy diogel, cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith a gostyngiad mewn costau swyddfa), mae’r rhai hynny sy’n defnyddio technoleg ddigidol am y tro cyntaf yn dymuno deall yn well sut mae’n eu helpu nhw i werthu mwy. Gydag ansicrwydd parhaus, mae cwmnïau yng Nghymru yn parhau i fod angen meddwl am ffyrdd newydd o gyrraedd eu cwsmeriaid er mwyn sicrhau y gallan nhw oroesi drwy 2021 ac ar ôl hynny.

Darganfyddwch sut i greu arian drwy ddefnyddio technoleg ddigidol: cofrestrwch ar gyfer cymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau

Defnyddiodd oddeutu 40% o ymatebwyr technoleg ddigidol i leihau’r gostyngiad syth mewn gwerthiant, tra bod eraill yn dymuno adeiladu hyder yn eu gallu i ddefnyddio offer ar-lein nid yn unig i oroesi, ond er mwyn ffynnu. Mae bron i hanner o’r BBaChau yng Nghymru yn dweud bod Covid-19 wedi tynnu sylw at yr angen i uwchsgilio er mwyn gwneud y gorau o weithio ar-lein, gyda’r ‘normal newydd’ yn trawsnewid y ffordd yr ydym ni oll yn byw ac yn gweithio.

O ran perchnogion busnes: maen nhw’n gorfod gwneud llawer mwy wrth i’r pandemig fynd ei flaen. Tra bod busnesau mwy efallai â’r adnoddau i hwyluso symudiad parhaol at weithio o bell, y nhw yw’r rhai lleiaf tebygol o fod wedi’i ddefnyddio i gynnig cynnyrch neu wasanaethau newydd. Roedd busnesau meicro a busnesau bach (sy’n 99% o economi Cymru) yn addasu’n gyflymach. Fodd bynnag, roedd timau llai yn wynebu adnoddau mwy cyfyngedig, gan eu gwneud nhw o bosibl y buddiolwr mwyaf o’r ‘pâr ychwanegol o ddwylo’ y gall technoleg ddigidol ei gynnig.

Cynyddu adnoddau gyda thechnoleg ddigidol: cofrestrwch ar gyfer gweminar rhad ac am ddim

Felly, sut y gall busnesau yng Nghymru ddefnyddio technoleg ddigidol? Gyda gwasanaethau fel Cyflymu Cymru i Fusnesau, sy’n cynnig amrediad o gymorth hygyrch drwy weminarau a sesiynau rhithwir 1:1, ni fu’r cymorth sydd ar gael erioed yn fwy. Efallai fod BBaChau yn hapus yn defnyddio technolegau y maen nhw wedi arfer â nhw, ond yn wir er mwyn ffynnu, maen nhw angen datblygu eu hyder drwy ddefnyddio technoleg ddigidol i greu gwerthiant, cynyddu adnoddau ac arbed amser.

“Gorfododd y cyfyngiadau symud inni ddefnyddio technoleg ddigidol yn llawn ac mae’n dechnoleg sy’n gweithio”

Un busnes a gynyddodd ei ddefnydd o dechnoleg ddigidol yw Freight Logistics Solutions. Nid oedd y cwmni rheoli cadwyn gyflenwi yn siŵr beth i’w ddisgwyl pan stopiwyd llawer o’r diwydiant gweithgynhyrchu yn stond gyda’r cyfyngiadau symud ym mis Mawrth. Fodd bynnag, cynyddodd y galw am ddanfoniadau, gyda’r GIG a gwasanaethau iechyd gofal eraill angen PPE a chyfarpar hanfodol arall ar frys. Tra bod yn rhaid i gludwyr eraill addasu yn gyflym, roedd FLS eisoes wedi gwneud y gwaith paratoi yn 2018, yn dilyn cymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Eglura’r Rheolwr Gyfarwyddwr Ieuan Rosser: “Gwnaethom fuddsoddi yn drwm yn ein porthol clyfar ar gyfer tracio cludiant sy’n cydweddu anghenion cludiant cleientiaid â’n cronfa ddata o 11,500 o gludwyr gyda 40,000 o yrwyr. Fodd bynnag, argymhellodd ein cynghorydd busnes y dylem ni newid i fand eang cyflym iawn, gweinydd cwmwl a storfa wrth gefn a system ffôn ddigidol, a gwnaethom ni hynny. Felly, pan gafodd ein staff eu hanfon i weithio o’u cartrefi ar ddechrau’r cyfyngiadau symud, roedden nhw’n gwbl weithredol o fewn awr.”

A Freight Logistics Solutions truck.

 

Gan fod yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallen nhw, tyfodd busnes FLS o gyflenwi 6-8 fan yr wythnos i 8-10 fan mewn diwrnod. Mae Rosser yn mynd ymlaen i ddweud: “Oherwydd y cynnydd anferth yn y galw, roeddem ni angen defnyddio atebion digidol ychwanegol i helpu. Felly, gwnaethom ni lansio porthol pwrpasol ar-lein ar gyfer cleientiaid, gyda chyfleuster archebu cludiant a storio dogfennau danfon er mwyn gwasanaethu saith o ganolfannau dosbarthu rhanbarthol y GIG yn y DU.”

Mae’r porthol ar gyfer cleientiaid wedi bod yn rhan hanfodol o’u gwaith wrth gyflenwi’r GIG ac mae wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant: mae FLS wedi cael ei enwebu eleni fel Cwmni Mwyaf Arloesol y Flwyddyn yng Ngwobrau Logisteg cenedlaethol. Yn ogystal, daeth y Cwmni yr ail orau yn Fast Growth 50 Cymru 2020, gan ddangos eu twf eithriadol yn erbyn popeth.

Dywed Rosser: “Rydym wedi bod yn llwyddiannus oherwydd ein bod wedi dilyn y cyngor a roddwyd inni gan Cyflymu Cymru i Fusnesau 18 mis yn ôl ynglŷn â pha systemau digidol i’w defnyddio. Mae hynny wedi rhoi mantais gystadleuol inni.”

“Gyda’r farchnad ar gau, collais y cyswllt â’m cwsmeriaid; roeddwn i angen dod o hyd i ffordd arall”

Tra bod FLS wedi gosod y sylfeini digidol yn gynnar, roedd dyfodiad annisgwyl Covid-19 yn golygu bod busnesau eraill yn wynebu’r pwysau dwys o addasu tra’n parhau i weithio.

Dyna rywbeth oedd Lukasz Kowalski-Davies yn sicr yn ei wynebu: Cymerodd yr awenau yn Market Bakery Abergavenny – KD’s Bakehouse mis yn unig cyn y cyfyngiadau symud cyntaf. Pan orfodwyd i’r farchnad dan do gau yn sgil y pandemig, nid oedd ganddo unrhyw gwsmeriaid nac incwm.

Dywedodd Lukasz, “Roeddwn i’n ffodus fy mod yn gymwys ar gyfer derbyn ffyrlo, ac felly o leiaf roedd gen i rywfaint o arian, ond roedd gen i dri mis heb unrhyw waith. Yn ystod yr amser hwnnw, meddyliais beth allaf ei wneud? Sut y gallaf i ddatblygu busnes sydd eisoes yn fusnes sefydledig da?”

A smartphone viewing KD's Bakehouse Facebook page.

 

Gan wynebu dyfodol ansicr, aeth Kowalski-Davies i chwilio am help at Cyflymu Cymru i Fusnesau, “Yn dilyn gweminar ar y cyfryngau cymdeithasol, siaradais â chynghorydd busnes a roddodd gyngor i mi sut i greu gwefan, rhestriad ar Google My Business a phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol o’r dechrau cyntaf. Roedd hyn yn rhoi mantais i mi pan agorodd y farchnad yn gynnar ym mis Gorffennaf, oherwydd bod gennyf i archebion yn barod i fynd.”

Yn dilyn yr ail-lansio, mae KD’s Bakehouse wedi arallgyfeirio yn y modd y mae’n ymgysylltu â chwsmeriaid, gyda 30% o’r gwerthiant yn awr yn dod drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae hyrwyddo ‘cynnyrch yr wythnos’ ar Facebook wedi cynyddu’r gwerthiant o 20%, tra bod cymryd archebion drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn rhyddhau Kowalski-Davies o gymryd archebion ar y ffôn, fel y gall ddiogelu mwy o werthiant o’r stondin farchnad.

Bu’r symudiad ar-lein yn llwyddiant. Yn ogystal â chynyddu gwerthiant, mae Kowalski-Davies wedi gallu dychwelyd staff rhan-amser yn ôl o ffyrlo.

“Cyn derbyn cefnogaeth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, nid oeddwn yn gwybod rhyw lawer am dechnoleg ddigidol, ond yn awr mae gen i’r sylfaen i adeiladu’r busnes ar gyfer y dyfodol. Mae wedi rhoi hyder i mi wrth symud ymlaen, a’r sicrwydd fod yr hyn yr ydw i’n ei wneud yn gywir,” meddai.

Nid yw busnesau ar eu pennau eu hunain

Drwy gydol y pandemig, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn helpu busnesau i wneud synnwyr o dechnoleg ddigidol drwy eu gweminarau a’u cymorth un i un. Gall technoleg ddigidol fod yn bâr ychwanegol o ddwylo ar gyfer perchnogion busnesau sy’n canolbwyntio yn naturiol ar gadw’r busnes i fynd, ond yn ogystal gall eu helpu nhw i ddod o hyd i fusnes newydd mewn ffordd ddiogel o ran Covid.

Gall ymddangos yn hynod anodd trawsnewid i ffordd newydd o weithio, ond mae’r gwasanaeth a’i gynghorwyr busnes yma i helpu i arwain busnesau drwy fap ffordd digidol a’u cadw nhw ar y llwybr tuag at lwyddiant.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â pha gymorth y gall eich busnes chi ei derbyn, siaradwch â’n timau er mwyn darganfod mwy.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen