Diolch i’r boreau tywyll a’r tywydd garw, mae llawer o bobl yn dechrau’r flwyddyn newydd yn breuddwydio am awyr las ac ymlacio.

Trefnodd dros 5 miliwn o Brydeinwyr wyliau ym mis Ionawr, wrth i hwyl yr ŵyl bylu am flwyddyn arall. Ond beth gall busnesau twristiaeth Cymru ei wneud i sicrhau eu bod nhw ar frig rhestrau bwced ymwelwyr cyn i’r tymor gwyliau gychwyn unwaith eto?

Mae diwydiant twristiaeth Cymru gwerth £6 biliwn y flwyddyn, a diolch i ddigidol, does dim rheswm pam na all eich busnes chi elwa hefyd. Gall technoleg eich helpu chi i ddenu cwsmeriaid o bob cwr o’r byd, p’un a ydych yn rhedeg llety, yn darparu gweithgareddau / profiadau neu’n fusnes bwyd a diod.

Dyma gyngor gorau digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau i ddarparwyr twristiaeth yn 2020

 

1. Gosodwch system archebu ar-lein

Ydych chi dal yn defnyddio dyddiadur a ffôn i gymryd archebion? Efallai bod vintage yn gategori ar Pinetrest, ond bydd eich cwsmeriaid yn gwerthfawrogi profiad archebu mwy modern. Yn 2018, trefnodd 81% o bobl eu gwyliau ar-lein ac, erbyn hyn, mae pobl yn disgwyl gallu trefnu gwyliau ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw. Bydd system archebu ar-lein yn hwyluso’ch trefniadau archebu, yn atal camgymeriadau, yn delio â chansliadau, ac yn eich galluogi chi i gymryd cymaint o archebion â phosibl. Ar ben hynny, mae system ar-lein yn galluogi pobl i archebu 24 awr y dydd, ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw.

Os nad ydych yn gwybod ble i gychwyn, mae cymorth ar gael fan hyn.

 

2. Defnyddiwch offeryn rheoli cyfryngau cymdeithasol

Mae cyfryngau cymdeithasol yn helpu busnesau twristiaeth Cymru i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang. Mae gan Croeso Cymru, sef cangen twristiaeth Llywodraeth Cymru, dros filiwn o ‘Likes’ ar Facebook, oddeutu 300,000 o ddilynwyr ar Instagram a 315,000 o ddilynwyr ar Twitter. Gyda chyrhaeddiad mor eang, gall pobl ledled y byd weld beth sydd gan Gymru i’w gynnig.

Ond, os ydych chi’n fusnes bach, sy’n brin o adnoddau, beth allwch chi ei wneud i hyrwyddo eich busnes ar-lein? Mae offer rheoli cyfryngau cymdeithasol yn eich galluogi chi i amserlennu negeseuon o flaen llaw, sy’n golygu y gallwch gynnal eich presenoldeb ar-lein wrth wneud yn siŵr bod eich ymwelwyr yn cael y profiad gorau posibl. Yn ogystal, trwy wneud hynny, maen nhw’n fwy tebygol o rannu negeseuon am eich busnes ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol personol.

Ydych chi’n barod i gymdeithasu? Cofrestrwch ar gyfer ein gweithdy cyfryngau cymdeithasol â ffocws ar dwristiaeth fan hyn.

Wonderfully Wild owner in a luxury glamping tent.

 

3. Byddwch yn rhagweithiol er mwyn diogelu eich enw da ar-lein

Yn ogystal â hyrwyddo’ch busnes mewn ffordd gadarnhaol, gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu adolygiadau gwael. Mae rheoli eich enw da ar-lein yn hollbwysig mewn cyfnod lle gall negeseuon deithio o amgylch y byd mewn eiliadau. Yn ogystal, gall offer gwrando cymdeithasol a gwefannau adolygu poblogaidd eich helpu chi i ymateb yn gyflym i unrhyw adolygiadau anffafriol, a darparu geirdaon ardderchog er mwyn denu busnes newydd hefyd.

Y cyngor pwysicaf yn yr achos hwn yw, o ran ymateb i adborth anffafriol: anadlwch ac oedwch am funud.

Y peth olaf sydd ei angen ar eich busnes yw bod ynghlwm wrth unrhyw anghydfodau ar-lein...

 

4. Sicrhewch fod cwsmeriaid wedi cysylltu â Wi-Fi cyhoeddus

Fodd bynnag, os mae eich pwynt gwerthu unigryw yw “dim Wi-Fi, dim signal, dim problem”, ewch i gyngor rhif 5)

Mae pawb yn disgwyl Wi-Fi erbyn hyn, ble bynnag maen nhw yn y byd. Bydd darparu cysylltiad Wi-Fi ar eich eiddo yn helpu eich cwsmeriaid i gadw mewn cysylltiad.

Nid yn unig bydd Wi-Fi’n rhoi rheswm arall i bobl ymweld â chi, mae’n ffordd effeithiol o alluogi eich ymwelwyr i ddweud wrth eu ffrindiau amdanoch chi tra’u bod nhw’n mwynhau eu hunain yn eich atyniad.

Trowch at ein canllaw Meddalwedd Allweddol i ddysgu sut i osod Wi-Fi ar gyfer eich cwsmeriaid.

An interior from Llety Cynin.

 

5. Sicrhewch fod Croeso Cymru yn graddio eich llety

Mae’r cyngor hwn yn mynd law-yn-llaw â’ch enw da ar-lein. Mae sgoriau 5 seren ar Facebook a TripAdvisor yn ffordd ardderchog o ddenu cwsmeriaid ar-lein, er y gall sgôr annibynnol gan gynllun swyddogol eich helpu chi i ddenu mwy o sylw fyth.

Mae Croeso Cymru’n rhedeg asesiad ansawdd cenedlaethol i fusnesau twristiaeth, yn debyg i gynlluniau graddio eraill ledled y DU. Mae’r cynllun yn darparu sgôr ddiduedd i ddarpar gwsmeriaid, sy’n amlygu ansawdd cyffredinol eich cyfleusterau, yn ogystal â bod yn bwynt gwerthu arall i chi ei ddefnyddio er mwyn hyrwyddo eich busnes. Mae mwy o wybodaeth ar gael fan hyn.

 

6. Defnyddiwch dechnoleg ddigidol i wneud y gwaith gweinyddol

Yn olaf, rhaid ystyried y gwaith sy’n digwydd ‘tu ôl i lenni’ eich busnes. Mae gwaith gweinyddol dydd-i-ddydd fel anfonebu, dyfynbrisio a gofal cwsmeriaid yn gallu cymryd llawer o amser – amser y gallech chi fod yn ei dreulio yn denu cwsmeriaid newydd. Yn ffodus, mae meddalwedd ar gael i awtomeiddio llawer o brosesau cefn swyddfa. Ar ben hynny, gall y feddalwedd eich helpu chi i nodi tueddiadau er mwyn paratoi ar gyfer y gaeaf yn effeithiol.

Yn ogystal, gall systemau swyddfa arbed arian i chi. Gall gwasanaethau tanysgrifio fel Office 365 arbed arian a chadw data busnes hanfodol yn ddiogel ac yn hygyrch o unrhyw le. Mae hynny’n hynod ddefnyddiol os rydych yn rhedeg busnes antur sy’n golygu eich bod yn fwy tebygol o fod yn dringo creigiau nac eistedd mewn swyddfa...

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen