Os oes angen i chi weithio â chydweithwyr mewn gwledydd tramor, cynnal cyfarfodydd rheolaidd â chleientiaid mewn gwahanol wledydd, neu os ydych chi’n ceisio cyflwyno eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau i farchnad fyd-eang: mae technoleg ddigidol wedi ei golygu bod cystadlu ar lefel fyd-eang yn fwy hygyrch, realistig ac ymarferol nag erioed o’r blaen.

 

O gyfathrebu a rheoli i farchnata a gwerthu, mae technoleg ddigidol yn gyfrwng allweddol i alluogi busnesau bach a chanolig (BBaCh) sydd am chwalu rhwystrau a oedd yn eu hatal neu’n ei gwneud yn anodd iddynt i ehangu eu marchnadoedd targed yn y gorffennol.

 

Mae’r gallu i dyfu gydag ac addasu i dechnolegau sy’n datblygu’n fantais bwysig i fusnesau bach sydd â gweithdrefnau gweinyddol llai cymhleth i ddygymod â hwy na llawer o gwmnïau mwy. Mae’r hyblygrwydd hwn i fanteisio ar dueddiadau digidol sy’n newid yn gyfle mawr i BBaCh i feddwl mewn ffordd arloesol ac i brofi llwyddiant mwy.  

 

Dysgwch am 11 o dechnolegau digidol a ffyrdd modern o weithio a allai helpu eich busnes i ffynnu ledled y byd.  

 

Y cwmwl

 

Y cwmwl yw’r cyfarpar digidol perffaith i fusnesau sydd eisiau cadw mewn cysylltiad a gallu gweithredu yn unrhyw le, ar unrhyw adeg ac ag unrhyw un. Yn syml, mae cyfrifiadura cwmwl yn seiliedig ar y rhyngrwyd ac mae’n galluogi eich busnes i gynyddu a lleihau wrth i’r galw newid. Mae’r cwmwl yn galluogi mynediad ar-alw drwy’r amser at adnoddau, data a ffeiliau cyfrifiadurol sy’n cael eu rhannu. Darllenwch ein blog sut y gall eich busnes ennill trwy symud i’r cwmwl i ddeall y prif fanteision.

 

Meddalwedd cyfathrebu

 

Mae digonedd o feddalwedd ar gael a all helpu eich busnes i gyfathrebu mewn ffordd glir a chyson â rhanddeiliaid, ble bynnag y byddant. Mae cyfarpar fel Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) yn defnyddio’r rhyngrwyd i wneud galwadau rhatach ar hyd a lled y byd. Yn yr un modd, mae pecynnau  fel Skype a WebEx yn golygu nad oes yn rhaid i chi dreulio llawer iawn o amser na gwario llawer o arian ar hedfan o amgylch y byd i weld eich cwsmeriaid. Bydd cyfarfodydd fideo ar-lein rheolaidd yn sicrhau bod cysylltiadau’n cael eu rheoli'r un mor effeithiol ac effeithlon ag y byddent wyneb yn wyneb.

 

Technoleg symudol

 

Os oes gennych chi bolisi BYOD (Dewch â’ch Dyfais eich Hun), lle mae staff yn defnyddio eu dyfeisiadau eu hunain yn y gwaith, neu fod y cwmni’n cyflenwi dyfeisiadau i staff, bydd technoleg symudol yn galluogi cyflogeion i gadw mewn cysylltiad ble bynnag y byddant. Yn hytrach na dibynnu ar linellau daear sefydlog a mynediad at gyfrifiaduron desg, bydd ffonau symudol, llechi neu liniaduron yn galluogi cyflogeion i ddiweddaru eu hunain â gweithgarwch y gwaith, cadw mewn cysylltiad uniongyrchol ac arbed amser a gollir wrth deithio.

 

Pecynnau cydweithio a rheoli prosiectau

 

Gall rheoli cyflogeion ac adolygu llwythau gwaith fod yn dasg anodd yn achos timau sy’n gweithio o bell, ond gall pecynnau fel Basecamp a Trello hwyluso gweithgarwch rheoli prosiectau trwy ddod â’r holl weithgarwch ar un platfform canolog. Trwy ddefnyddio platfform craidd, bydd modd i’r partïon perthnasol gyrchu, goruchwylio a rheoli pob gwaith mewn amser real. Mae natur real diweddariadau yn golygu bod staff bob amser yn gweithio o’r un dudalen.

 

Pecynnau / platfformau rhannu ffeiliau

 

Mae pecynnau storio yn y cwmwl yn ffordd ddiogel i fusnesau i storio, rhannu a chyrchu ffeiliau ar-lein. Os yw staff yn gweithio mewn swyddfa arall, wrth iddynt fynd o un lle i’r llall neu ar ochr arall y byd, bydd ganddynt fynediad at unwaith i’r dogfennau sydd eu hangen arnynt sy’n golygu defnydd mwy effeithlon o amser a llai o sefyllian yn aros am wybodaeth. Yn yr un modd, gall rhannu ffeiliau’n effeithlon ar-lein fod yn ffordd hawdd o anfon diweddariadau a dogfennau at gwsmeriaid, gan osgoi negeseuon e-bost a llenwi blychau derbyn e-bost.

 

Gweithio hyblyg

 

Mae dulliau modern o weithio’n golygu unrhyw amserlen waith sydd y tu allan i oriau 9 tan 5, 5 niwrnod yr wythnos. Mae hyn yn elfen graidd o unrhyw strategaeth fyd-eang gref oherwydd nid yn unig mae cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn helpu i ddenu a chadw’r cyflogeion gorau ond mae hefyd yn galluogi staff i weithio mewn ffordd gydweithredol â chydweithwyr a all fod mewn parthau amser gwahanol. Mae hyblygrwydd yn allweddol i greu diwylliant a phrosesau gwaith sy’n gweddu orau i anghenion y busnes a’i randdeiliaid i gynhyrchu twf.

 

Pecynnau Rheoli Ar-lein

 

Mae mynd â’ch busnes i’r cwmwl yn golygu mwy na dim ond rheoli a hwyluso gweithgarwch y staff. Mae llawer o weithgarwch craidd sy’n sicrhau bod busnes yn gweithredu’n effeithiol. Yn ffodus, gall pecynnau digidol helpu i gyflawni hyn. Mae Cyfeiriadur Meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau yn edrych ar y meddalwedd a allai eich helpu i wella prosesau rheoli ac mae’n cynnwys meysydd fel Cyllid, Gwerthu, Adnoddau Dynol, Diogelwch a Rheoli Asedau. Lawrlwythwch eich copi am ddim.

 

System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid

 

Os ydych chi’n rhedeg busnes lleol, neu sefydliad byd-eang, y gyfrinach i lwyddiant yw deall eich cwsmeriaid. Gall storio a defnyddio eu data mewn system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid eich helpu i ddiwallu eu hanghenion a chynnig gwasanaeth gwell ble bynnag yn y byd y byddwch yn masnachu.

 

Pecynnau Cyfryngau Cymdeithasol

 

Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnig mynediad at filiynau o gwsmeriaid o bob rhan o’r byd. Trwy dargedu eich gweithgarwch o fewn lleoliadau neu gymunedau penodol, gallwch greu ymwybyddiaeth a denu diddordeb darpar gwsmeriaid. Os ydych chi’n gweithio mewn dau leoliad neu 20, dylech addasu eich gweithgarwch cymdeithasol ar gyfer y platfformau a’r cynnwys mwyaf perthnasol a’r adegau mwyaf poblogaidd o’r dydd. Mae platfformau amserlenni cyfryngau cymdeithasol fel Hootsuite a Sendible yn eich galluogi i bostio cynnwys yn rheolaidd mewn gwahanol barthau amser, hyd yn oed os ydych chi’n cysgu’n sownd.

 

Platfformau E-fasnach

 

Os ydych chi’n bwriadu gwerthu ar-lein, yna bydd angen siop ar-lein gyda phlatfform e-fasnach dibynadwy arnoch. Bydd y platfform hwn yn sicrhau bod gan eich busnes y dechnoleg i’ch galluogi i werthu i unrhyw le yn y byd o bencadlys digidol. Bydd eich penderfyniad i ddewis platfform wedi’i letya, sy’n golygu y bydd y cwmni’n gyfrifol am ei letya, neu os ydych am ei letya eich hun, sy’n golygu y bydd yn rhaid i chi gael eich gwe letya eich hun, yn dibynnu ar ba fath o blatfform y byddwch yn ei ddewis ond mae rhai o’r platfformau poblogaidd y gallwch eu hystyried yn cynnwys: Shopify, Magneto neu WooCommerce.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen