Mae dal sylw cwsmeriaid yn ddigon hir i ennyn diddordeb wedi bod yn her erioed. Fodd bynnag, mae diwylliant ‘ymlaen bob amser’ yr oes ddigidol yn golygu bod brandiau’n cystadlu i sefyll allan mewn marchnadoedd gorlawn i gwrdd â gofynion cwsmeriaid gwybodus ond anwadal. 

Mae cwsmeriaid bellach yn dod ar draws negeseuon brand ym mhobman. Ond, er ei bod hi’n hawdd iawn gweld y negeseuon hyn, mae’r un mor hawdd clicio i ffwrdd ohonynt. Dyna pam mae’n bwysicach nawr nag erioed deall taith prynwyr, yn enwedig oherwydd bod angen i fusnesau feddwl am werthu ar-lein ac all-lein ers y pandemig.  

 

Woman's arm carrying paper shopping bags and cred card in hand

 

Os rydych chi am i’ch busnes greu ymwybyddiaeth, dal sylw a darparu taith lyfn at drosiant, darllenwch ymlaen i ddarganfod yr hyn sydd angen i chi ei wybod am daith y cwsmer. 

Yn gyntaf, gadewch i ni egluro’r hyn mae ‘taith y cwsmer’ yn cyfeirio ato. Taith y cwsmer yw'r broses nodweddiadol mae cwsmer yn dilyn wrth benderfynu a fyddant yn prynu, ac yna beth fyddant yn prynu. Mae hyn yn ystyried y broses meddwl maen nhw’n ei dilyn a’r camau maen nhw’n eu cymryd wrth iddynt symud trwy’r hyn a elwir yn driongl gwerthu. Mae’n hanfodol nodi mai taith y cwsmer yw hon, ac nid taith gwerthiant penodol eich busnes chi, ond gallwch gymryd camau i ddeall a chefnogi’r daith hon. 

Mae 5 cam i Daith y Prynwr:  

Cam Ymwybyddiaeth  

Mae’r cyfan yn dechrau gydag ymwybyddiaeth. Dyma pan fydd y prynwr yn sylweddoli bod ganddynt broblem, angen neu awydd y maent eisiau mynd i’r afael ag ef. Yn dibynnu ar y diwydiant neu ei anghenion, mae’n debyg bydd y cam hwn yn cynnwys ystyriaeth a yw’r angen hwn yn flaenoriaeth, ac ymchwil rhagarweiniol am beth sydd ar gael i’w cefnogi. Yn gyffredinol, mae pobl yn edrych am ddatrysiad. Mae’r prynwr yn debygol o ofyn beth yw eu problem, pa gynnyrch neu wasanaeth fydd yn eu helpu a beth ddylai wneud cyn symud ymlaen â’r penderfyniad i brynu. 

Ar y cam hwn o’r daith, dylai’ch busnes anelu i fod yn hygyrch a cheisio cyfathrebu ei werth yn y maes neu ei allu i fynd i’r afael â’r broblem. Dechreuwch gan ystyried pa anghenion gallai cwsmeriaid fod yn ceisio mynd i’r afael â nhw, a sut y gallent ddarganfod am gynnyrch a gwasanaethau’ch busnes.  

Er enghraifft, pan ddechreuodd y pandemig, y cyfan roeddwn ni’n gallu ei wneud oedd siopa ar-lein, felly cynyddodd y gofyn am gyflenwadau hylendid a chynnyrch DIY yn aruthrol. Bu’n rhaid i frandiau weithredu’n gyflym ar anghenion y boblogaeth a chreu ymwybyddiaeth gyflym o gynhyrchion poblogaidd megis masgiau wyneb, pecynnau profi, ac ati. Gallwch helpu i greu ymwybyddiaeth o’ch arbenigedd drwy rannu cynnwys sy’n amlygu’ch gwybodaeth yn y maes.  

Mae gwneud pobl yn ymwybodol o’ch arbenigedd trwy blog, gwobr, ac ati yn tawelu’r meddwl yn fwy nag unrhyw ymgyrch ymwybyddiaeth brand. Pwyntiau eraill i’w hystyried yn ystod y cam hwn yw sicrhau bod eich optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) yn gyfredol i helpu’ch busnes raddio yn erbyn termau chwilio/ymadroddion allweddol y byddai darpar brynwyr yn chwilio amdanynt. Er enghraifft, trwy gydol y pandemig, byddai pobl wedi bod yn chwilio am ‘masgiau wyneb amddiffyniad triphlyg’. Nid ydych chi’n gwerthu’n galed yn ystod y cam hwn, ond yn hytrach yn ceisio gwneud cwsmeriaid yn ymwybodol o’ch busnes i geisio meithrin perthynas bosibl.  

Sales funnel on display on tablet screen with hand with pen pointing to it

 

Cam Addysg  

Dyma gam nesaf y driongl gwerthu. Pan fydd defnyddiwr yn teipio’r hyn maen nhw’n chwilio amdano i mewn i beiriant chwilio byddant yn gweld llu o fusnesau’n cynnig yr un cynnyrch/gwasanaeth. Yna byddant yn dechrau addysgu eu hun am neges pob busnes. Dyma pan mae’n bwysig sicrhau eich bod chi’n arddangos eich arbenigedd yn eich maes. Rhowch ystadegau ar sut mae’ch cynnyrch/gwasanaeth wedi bod o fudd i eraill, esboniwch bwyntiau allweddol y cynnyrch a sut mae’n wahanol i gynnyrch eich cystadleuwyr.  

Er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu gofal croen, cefnogwch eich honiadau gyda thystiolaeth wyddonol. Mae’n debyg eich bod chi wedi gweld y canlynol yn y math hwn o hysbysebu cynnyrch - ‘Profwyd yn wyddonol i...’ Mae amlygu unrhyw achrediadau hefyd yn hanfodol yn y cam hwn. Er enghraifft, ydy’ch cynnyrch/gwasanaeth wedi ennill unrhyw wobrau? Mae hyn wir yn helpu i addysgu’ch darpar gwsmeriaid am eich busnes a’r hyn y gallant ddisgwyl gennych chi.  

Cam Ystyried 

Wrth i’r prynwr symud ymlaen drwy’r daith, byddant bellach yn deall eu hanghenion yn llawn ac yn dechrau ystyried eu hopsiynau. Maent yn debygol o wedi penderfynu eu bod nhw eisiau prynu a bellach yn pwyso a mesur yr hyn sydd ar gael. Yn ystod y cam ystyried hwn, byddant yn edrych ar ddarparwyr neu frandiau gwahanol, yn adolygu prisiau a nodweddion ac unrhyw gynigion y gallai fod ar gael. Byddant hefyd yn ymdrin â gwybodaeth allweddol y bydd yn eu helpu i benderfynu ar y cynnyrch, gwasanaeth neu frand sydd orau ganddynt. Byddant hefyd yn edrych am gadarnhad ar ffurf adolygiadau/cymeradwyaeth gan ddefnyddwyr eraill.  

Y cam hwn yw un o’r pwysicaf i fusnesau gan mai dyma pan mae’n rhaid i chi roi gwybodaeth glir am yr hyn rydych chi’n ei gynnig ac, yn hanfodol, sut mae’n sefyll allan yn erbyn y gystadleuaeth. Dyma’r amser i’ch brand gyfathrebu gwybodaeth a fydd yn helpu’r prynwr eich dewis chi a sicrhau eich bod chi yn y lleoliadau lle fydd defnyddwyr yn chwilio.  

Ystyriwch yr hyn rydych chi’n ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol a pha mor gyson ydych chi o ran rhannu cynnwys, sut rydych chi’n graddio ar y peiriannau chwilio, a pha mor effeithiol yw’ch negeseuon hysbysebu. Dylech chi fod yn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i’r prynwyr hyn sydd â diddordeb i ddod o hyd i’ch busnes ac archwilio eich cynnyrch a’ch gwasanaethau. Anelwch at fod yn addysgiadol, yn gymwynasgar, yn ysgogol ac yn ysbrydoledig yn hytrach na chanolbwyntio ar werthiant. 

Cam Penderfynu  

Unwaith fod y prynwr wedi cwblhau’r ddau gam gyntaf, o’r diwedd byddant yn cyrraedd y cam penderfynu. Dyma pan fyddant yn penderfynu prynu ar ôl ystyried yr holl opsiynau neu ddod o hyd i’r cynnyrch neu wasanaeth perffaith drwy ymchwil – a gobeithio mai gyda’ch busnes chi fydd hyn! 

Nawr yw’r amser i sicrhau bod eich prynwr yn teimlo wedi’i werthfawrogi. Mae’n bwysig eich bod chi’n ystyried y prynwr drwyddi draw, cyn ac ar ôl eu taith gyda’ch busnes. Gallwch hefyd ddefnyddio’r amser hwn i ystyried sut wnaeth y prynwr ddod o hyd i a gwerthuso’ch busnes. Meddyliwch am ba feini prawf gwnaethon nhw ddefnyddio i ddod o hyd i’ch busnes, pam wnaethon nhw ddewis eich busnes dros y gystadleuaeth a faint o amser gymerodd iddynt wneud eu penderfyniad terfynol. 

Erbyn bod y prynwr wedi cyrraedd y cam hwn o’u taith, gobeithio y byddwch wedi dechrau meithrin perthynas gyda nhw. Nid yw hyn yn stopio yma. Dylai’ch cyfathrebiad, addysg, ymgysylltiad a gofal cwsmeriaid barhau i sicrhau eich bod chi’n dod yn fan galw cyntaf i gwsmeriaid sy’n edrych am gefnogaeth gyda phroblem neu angen penodol. 

Y peth pwysicaf i gofio wrth ddatblygu’ch negeseuon a gweithgareddau marchnata yw bod taith y cwsmer yn ymwneud â mwy na’r penderfyniad i brynu yn unig. Mae yna ddau gam cyn hyn a fydd yn ddylanwadol yn y cam hanfodol hwn. Dylai’ch gweithgareddau marchnata ganolbwyntio ar y camau ymwybyddiaeth ac ystyried. Os gwnewch y rhain yn gywir dylai’r cam penderfynu ddilyn yn naturiol. 

Add to basket call to action button on screen with finger pointing

 

Cam Prynu 

Dyma gam olaf y driongl gwerthu ar gyfer eich darpar gwsmer. Mae’n bwysig cofio y gall defnyddwyr fod yn amhendant hyd at y rhwystr olaf. Er enghraifft, gallai darpar gwsmer ychwanegu’ch cynnyrch at eu basged ac wedyn peidio â thalu amdano. Gall hyn fod am nifer o resymau. Gallai’r rhain gynnwys cod hyrwyddo’n methu â gweithio, cyfrifo’r gost o anfon neu efallai na allant ei fforddio ar hyn o bryd. Mae’n bwysig cynllunio ar gyfer pob senario. 

Er enghraifft, os nad oes gennych gymhelliad ar gyfer cwsmeriaid tro cyntaf, gosodwch offeryn megis Google Tag Manager i anfon e-bost awtomatig pan fydd basged yn cael ei gadael. Efallai bod y cwsmer wedi rhoi eu holl fanylion megis cyfeiriad e-bost, ond wedyn wnaeth rhywbeth dynnu eu sylw a gwnaethant anghofio cwblhau’r pryniant. Gallai e-bost atgoffa syml yn rhoi gwybod iddynt eich bod yn ymwybodol o'u penderfyniad i beidio â phrynu ar yr adeg honno a chynnig cymhelliad wneud byd o wahaniaeth i'r canlyniad terfynol. 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen