Mae offer ar-lein, fel meddalwedd a chynhyrchion ar sail cwmwl, yn darparu ffyrdd hawl i symleiddio, awtomeiddio a diogelu prosesau eich busnes, ni waeth beth yw maint y busnes.

 

Fodd bynnag, pan fyddwch chi’n chwilio am feddalwedd neu dechnoleg newydd i symleiddio proses, mae’n bwysig eich bod chi’n ystyried beth sydd ei wir angen arnoch, beth yw eich blaenoriaethau a sut bydd eich busnes yn elwa yn y pen draw.

 

I helpu gyda hyn, rydym ni’n rhannu 10 math gwahanol o offer ar-lein a allai helpu i wella prosesau eich busnes. Sgroliwch i lawr i gael cipolwg!

 

Symleiddio rheoli eich cyllid

Os nad ydych chi’n dda yn trafod ffigurau, yna gall rheoli anfonebau, llif arian, treuliau a ffurflenni TAW ymddangos ychydig yn anodd. Mae digon o offer ar gael ar-lein i’ch helpu chi gyda chyfrifeg, cadw cyfrifon, a chyflogres. Nid yn unig y gall hyn helpu i arbed amser ond llawer o straen hefyd!

 

Darllenwch ein blog defnyddiol yma ar sut i reoli eich cyllid yn well gydag offer ar-lein.

 

Storio a rhannu ffeiliau ar-lein

Allech chi wella eich proses ar gyfer rhannu a storio dogfennau a ffeiliau eich busnes?

 

Mae digon o lwyfannau rhannu ffeiliau cost-effeithiol, hawdd i’w defnyddio ar-lein (fel Dropbox a Google Drive) sy’n helpu i greu ffordd fwy effeithiol a chyflymach o rannu dogfennau rhwng timau. Mae hefyd yn cael gwared ar unrhyw ddyblygu cynnwys neu waith trwy gadw ffeiliau cyfredol mewn un man, sy’n hygyrch i bawb sydd eu hangen nhw, ble bynnag maen nhw.

 

Rheoli cwsmeriaid yn well gyda CRM

Mae defnyddio system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) yn ffordd wych i reoli a deall eich cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid. Bydd defnyddio CRM yn llywio’r penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud am sut a phryd rydych chi’n cyfathrebu â chwsmeriaid, yn ogystal â’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’r ffordd rydych chi’n olrhain a chanlyn arweiniadau ar gyfer gwerthiannau.

 

Taliadau electronig

Gall systemau fel Pwynt Gwerthu Electronig (EPoS), ac offer talu â cherdyn a thaliadau electronig, wella eich prosesau talu yn fawr, trwy roi dewis i gwsmeriaid o ran sut maen nhw’n talu am gynhyrchion a gwasanaethau. P’un ai a ydych chi’n derbyn taliadau ar-lein, dros y ffôn, trwy gerdyn neu ddyfais glyfar.

 

Mae systemau EPoS yn arbennig o dda ar gyfer busnesau manwerthu a lletygarwch, oherwydd y gallwch chi gysylltu â system TG ehangach i fonitro lefelau stoc a deall patrymau prynu. Fe wnaeth Wonderstuff y Nhreorci fuddsoddi mewn system EPoS i wella rheoli stoc – a hybwyd gwerthiannau 33%!

 

Rheoli dogfennau

Mae system rheoli dogfennau yn cynnig ffordd syml i drafod a threfnu’r mathau amrywiol o wybodaeth anstrwythuredig y mae busnesau’n ei chasglu’n nodweddiadol.

 

Yn hytrach na chael eich gorlethu gan lu o ddogfennau papur a hapddogfennau electronig, mae system rheoli dogfennau yn creu proses lawer fwy effeithiol lle gallwch sganio gwaith papur i mewn, storio dogfennau electronig, a’u cysylltu nhw â'i gilydd trwy dermau cyffredin.

 

Meddalwedd cynhyrchiant

Os oes gennych chi brosesau effeithiol ar waith, ond eich bod chi’n tybio ble mae eich amser chi’n mynd neu ble gallech chi fod yn fwy effeithiolon, gall fod gwerth mabwysiadu ateb rheoli amser neu feddalwedd rheoli prosiectau. Gall yr offer hyn eich helpu chi i olrhain yr amser a’r adnoddau rydych chi’n eu defnyddio ar orchwylion neu weithrediadau penodol, dilyn perfformiad prosiectau allweddol, trefnu eich tasgau yn ôl blaenoriaeth ac amlygu meysydd o’r busnes y gallech ganolbwyntio mwy (neu lai) o amser arnynt.

 

Fideo-gynadledda a VoIP

Ydych chi wedi ystyried sut y gallech chi arbed arian, amser ac ymdrech trwy wella eich prosesau cyfathrebu? Yn lle cronni mwy o dreuliau a gwastraffu amser yn teithio i gyfarfodydd wyneb yn wyneb, gallech chi ddefnyddio fideo-gynadledda i gynnal cyfarfod ‘rhith’.

 

Mae system protocol llais dros y rhyngrwyd hefyd yn caniatáu gwneud galwadau ffôn dros gysylltiad rhyngrwyd, felly yn hytrach na galwadau ffôn costus gyda chleientiaid a chwsmeriaid, gallwch arbed llawer o arian a chynnal galwad ffôn gynhyrchiol. Fe wnaeth un o gleientiaid Cyflymu Cymru i Fusnesau, Nordic International, newid i VoIP a gostyngodd ei filiau o £500 y chwarter i £20 y mis!

 

Rheoli’r cyfryngau cymdeithasol

Hyd yn oed gyda chyllideb farchnata fach, gallwch dal elwa ar offer marchnata sydd ar gael ar-lein! Mae offer rheoli’r cyfryngau cymdeithasol, fel Hootsuite, Tweetdeck neu Sprout Social, yn rhad am ddim neu ar gael am bris isel fel arfer, a gallant eich helpu i fod ar y blaen o ran eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn weddol hawdd. Dylech amserlennu negeseuon ymlaen llaw, olrhain hashnodau allweddol neu unrhyw sôn am eich busnes, a dilyn tueddiadau yn eich diwydiant.

 

Nid yw Crafty Devil Brewing erioed wedi cael cyllideb farchnata fawr, ond mae wedi gwneud defnydd o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y diwydiant i helpu tyfu eu brand - ac maen nhw nawr wedi agor tafarn canol dinas yng Nghaerdydd!

 

Dadansoddeg gwefannau

Mae offer dadansoddi gwefannau nid yn unig yn wych i fesur y traffig i’ch gwefan ond mae’n offeryn gwych i’ch busnes gynnal ymchwil i’r farchnad, deall sut mae pobl yn defnyddio’r safle a gwneud newidiadau i hybu gwerthiannau.

 

Trwy wneud dadansoddeg gwefannau yn rhan o’ch proses adolygu reolaidd yn wythnosol neu’n fisol, byddwch mewn sefyllfa well i ddeall sut mae eich busnes yn perfformio ar-lein, beth sy’n llwyddiannus ac aflwyddiannus i chi, a’r gwelliannau y gallech eu gwneud i wella ymgysylltu cwsmeriaid, hybu mwy o werthiannau, a thyfu eich busnes.

 

Cadw data wrth gefn

Er y gellir defnyddio’r rhan fwyaf o offer rhannu ffeiliau cwmwl i gadw dogfennau a ffeiliau’r busnes wrth gefn, mae gwasanaethau pwrpasol ar gael ar-lein i gadw data sefydliad cyfan wrth gefn.

 

Efallai nad ydych chi’n meddwl ei fod yn angenrheidiol nawr, ond os digwydd trychineb neu firws cyfrifiadurol, bydd cael proses adfer ar waith (a’r systemau i’w chefnogi) yn hanfodol.

 

I ddysgu mwy am offer a meddalwedd ar-lein penodol efallai yr hoffech eu gweithredu, bwrwch olwg ar Gyfeiriadur Meddalwedd rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Lawrlwythwch y cyfeiriadur nawr!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen