Twristiaeth, o'r holl ddiwydiannau, a deimlodd ergyd pandemig Covid-19 drymaf. Yng Nghymru yn enwedig mae twristiaeth wedi bod trwy gyfnod anodd iawn, gydag adroddiad seneddol yn datgan ei fod wedi arwain at gau 97% o fusnesau ar unwaith, a rhoi 80% o'r staff ar ffyrlo. Dros Gŵyl Banc y Pasg yn ddiweddar, yn unig, amcangyfrifir bod Gogledd Cymru wedi colli dros £100 miliwn mewn refeniw.

Ond bellach mae rheswm dros deimlo’n optimistig. Gyda’r brechlynnau’n cael eu cyflwyno, a’r cyfyngiadau teithio’n cael eu llacio yn sgil hynny, yr awgrym yw bod y gwaethaf drosodd. Ac wrth i weithwyr twristiaeth a lletygarwch ddychwelyd i'r gwaith, maen nhw’n brysur iawn yn paratoi i ddelio â'r galw cynyddol am wyliau a thripiau.

A castle.

 

Ond er i’r cyfnodau clo fod yn anodd iawn i nifer, buont hefyd yn ymarfer dysgu defnyddiol. Roedd trawsnewid digidol eisoes ar y gweill yng Nghymru, ond mae Covid-19 wedi cyflymu’r newid hwnnw. Gyda’u gweithrediadau traddodiadol wedi’u hatal, bu’n rhaid i gwmnïau a busnesau addasu ac arallgyfeirio. Trodd bwytai a gwestai at y rhyngrwyd i werthu cynnyrch a bwyd, ac aeth rhai atyniadau ati i hyrwyddo’u hunain trwy gynnig teithiau rhithiol. Er enghraifft, cynhaliodd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, ymweliadau rhithwir â Chastell Coch a Chastell Harlech, un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Ymunwch â ni am ddwy weminar newydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch.

O ganlyniad, mae’r cyfnodau clo wedi atgyfnerthu pwysigrwydd technolegau digidol a’r rhyngrwyd, boed ar gyfer cynnal cynadleddau fideo â staff, rhannu newyddion drwy gyfryngau cymdeithasol, neu ymgysylltu â darpar gwsmeriaid gan ddefnyddio gwefannau. Mae rhai busnesau ymhellach ar hyd y ffordd ddigidol hon nag eraill, ond mae'n ddigon hawdd cau’r bwlch. Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar-lein a chynghorwyr busnes, sydd â’u harbenigedd eisoes wedi helpu nifer o gwmnïau i wneud y gorau o'r cyfleoedd a geir o gael presenoldeb da ar y rhyngrwyd.

Trodd Gwesty’r Royal Victoria, sydd ar odre’r Wyddfa, at dechnolegau digidol i dyfu eu busnes ac i wella profiadau eu cwsmeriaid. Gwnaed llawer o'r gwaith hwn cyn y pandemig, ac roedd gwella cysylltedd â'r rhyngrwyd yn un o'r heriau allweddol. Gydag arweiniad gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, bellach mae’r gwesty wedi gwella'r gwasanaeth i'w gwesteion, a hefyd wedi gwella’r llwyfan ar gyfer ei systemau busnes mewnol.

"Rydym mor falch o’n penderfyniad i uwchraddio," meddai Rheolwr Cyffredinol y gwesty, Steve Lee. "Roedd yn hanfodol i’r busnes. Erbyn hyn, mae popeth ‘yn y cwmwl’, ac mae hynny'n cynnwys gwerthiannau, pryniannau, cyfrifon, rota a rheoli stoc, diogelu data, meddalwedd amddiffyn cyfrifiaduron, cyfathrebiadau Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP), ynghyd ag apiau ar gyfer y bwyty a'r bar. Dyna hefyd sut cynhaliwyd ein platfform Profi ac Olrhain yn ystod Covid, yn ogystal â’n cynadleddau fideo ar Zoom a Teams."

A person using a laptop.

 

Ar raddfa ychydig yn llai, mae Bythynnod Gwyliau The Old Mill yn Sir y Fflint wedi elwa o groesawu technolegau digidol hefyd. Trodd Liz Stack, sy'n rhedeg tri bwthyn gwyliau, at Cyflymu Cymru i Fusnesau i geisio cyngor ar sut i wella agweddau ar-lein ei busnes.

Yn dilyn cwrs hyfforddi a sesiwn un-i-un, diweddarodd ei gwefan, gan ddefnyddio widgets a fideos o fewn y testun. Mae hi hefyd wedi sefydlu system archebu sy’n gweithio ar y cyd â Facebook ac Airbnb, sy’n galluogi gwesteion i weld argaeledd ac i drefnu lle ar-lein. Yn syth bin, lleihawyd ei chostau comisiwn, gan ei rhoi mewn sefyllfa dda wrth i Gymru ddod allan o’r pandemig.

Defnyddiodd Liz Stack, perchennog Bythynnod Gwyliau The Old Mill, weminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn gwella ei gwefan a gwneud y gorau o SEO.

"Ar ôl y cyfnod clo, mae’n ymddangos mai ‘gwylie gartre’ yw’r gair mawr," meddai Liz Stack. "Fodd bynnag, mewn marchnad sy'n gynyddol gystadleuol o ran gosod tai gwyliau, mae croesawu technoleg ddigidol yn hanfodol - nid yn unig i wneud i Fythynnod Gwyliau ‘The Old Mill' sefyll allan, ond hefyd i wella elw. Mae hyn, yn ei dro, yn fy ngalluogi i barhau i ailfuddsoddi a thyfu fy musnes."

Sut mae Liz wedi goroesi'r cyfnod clo? Meddai: "Rwy'n ymdrechu o hyd i weithredu’r hyn rwyf wedi'i ddysgu gan weminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau. Rwyf wedi gweithredu arfer gorau Optimeiddio Peiriant Chwilio (SEO) ac wedi dechrau ysgrifennu blogiau i gyfeirio darpar gwsmeriaid at fy ngwefan. Hefyd, rwyf wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu'n rheolaidd â darpar gwsmeriaid, gan rannu lluniau a gwybodaeth am ein hardal leol."

Mae Covid-19 wedi ail-lunio sawl rhan o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, ond ddylai busnesau ddim aros tan ddiwedd y pandemig i fanteisio ar drawsnewid digidol. Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn dal i gynnig llu o weithdai ar-lein rhad ac am ddim, wedi’u hategu gan gyfarfod un-i-un gyda Chynghorydd Busnes Digidol cyfeillgar sy’n gallu darparu cynllun gweithredu wedi'i deilwra i chi. Yna, bydd ein tîm yn rhoi adborth ac yn ateb unrhyw gwestiynau wrth i fusnesau fentro i ddyfodol digidol beiddgar a newydd.


Mae busnesau’n newid yng Nghymru, ydych chi’n barod i ymuno? Dysgwch sut y gall technoleg ddigidol wella eich busnes chi a'i helpu i dyfu. Cofrestrwch am gymorth nawr.


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen