Fe wnaeth y pandemig ein gorfodi i addasu i ffordd wahanol o fyw a gweithio. Fe wnaeth ein dysgu hefyd bod modd gwneud busnes ar-lein ac nad oes angen ei gyfyngu i un lle sefydlog.

 

Yn yr erthygl ddiweddaraf hon rydym wedi amlinellu pedwar offeryn digidol hawdd eu defnyddio, ac mae gan bob un ohonynt opsiynau am ddim, fel y gallwch adael i dechnoleg ddigidol godi'r slac a gwneud y gwaith caled i chi.

Mae’n cynnwys: 

  • Offer rheoli cyfryngau cymdeithasol
  • Offer cydweithio a fideo-gynadledda
  • Systemau archebu ar-lein
  • Systemau talu ar-lein a darllenwyr cardiau

Offer rheoli cyfryngau cymdeithasol

 

Gall y rhain arbed llawer o amser a'ch helpu i gynllunio ymlaen llaw, gan nad oes angen i chi bostio mewn 'amser real.' Mae offer rheoli cyfryngau cymdeithasol yn eich galluogi i reoli eich holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn hawdd mewn un lle, olrhain geiriau allweddol a threfnu amserlen negeseuon ymlaen llaw, fel y gallwch gadw eich brand yn weladwy, ac ar flaen meddwl eich cwsmeriaid. 

Mae apiau y mae angen talu amdanynt yn dueddol o gynnwys elfennau ychwanegol fel mynediad at ddadansoddeg fel y gallwch ddarganfod pryd mae pobl yn fwyaf ymatebol, a threfnu amserlen negeseuon ar gyfer yr amseroedd hyn. Hootsuite yw un o'r llwyfannau mwyaf adnabyddus, sy'n cynnig cynlluniau y mae angen talu amdanynt a fersiwn sylfaenol am ddim. Mae'r fersiwn am ddim yn gadael i chi gysylltu dau gyfrif cyfryngau cymdeithasol ac yn caniatáu hyd at 5 neges wedi'u trefnu y mis. 

Cofiwch, erbyn heddiw mae pobl yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â busnes bob amser o'r dydd, neu'r nos, ac yn disgwyl cael ymateb. Cofiwch hynny wrth drefnu amserlen negeseuon a nodwch yn glir yn ystod pa oriau rydych chi ar gael.

Offer cydweithio a fideo-gynadledda

 

O fod yn gymharol anhysbys, mae Zoom wedi datblygu i fod y platfform fideo-gynadledda mwyaf poblogaidd ac adnabyddus o bell ffordd. Neidiodd o 10 miliwn o ddefnyddwyr ym mis Rhagfyr 2019 i 300 miliwn erbyn mis Ebrill 2020 yn ystod y cyfnod clo. Yr hyn sy'n denu defnyddwyr yw ei symlrwydd, a, ph'un a ydych chi eisiau siarad â 100 o bobl neu ddim ond un, rydych chi'n cael 40 munud am ddim. Nid yw'r cyfan wedi bod yn hawdd fodd bynnag, gan fod cwestiynau wedi cael eu codi ynghylch diogelwch. I fynd i'r afael â hyn, mae Zoom wedi dechrau defnyddio cyfrinair i ddiogelu pob cyfarfod, boed yn syth neu wedi'i drefnu – darganfyddwch fwy am ddiogelwch Zoom.

Os oes gennych chi staff ac eisiau rhywbeth ychydig yn fwy soffistigedig, mae Microsoft Teams yn opsiwn da. Mae amgryptio data Microsoft wedi’i fewnosod i sicrhau y gall aelodau'r tîm gadw mewn cysylltiad yn ddiogel trwy negeseuon gwib, galwadau ffôn a galwadau fideo. Mae Teams yn cael ei gynnwys ym mhecynnau busnes Microsoft 365 y mae angen talu amdanynt, ond mae fersiwn rhad ac am ddim annibynnol ar gael hefyd. Mae'r fersiwn am ddim yn cynnwys sgwrs ddiderfyn, galw ar fideo am hyd at 60 munud ar gyfer hyd at 100 o bobl fesul cyfarfod, 5GB o le storio cwmwl fesul defnyddiwr, yn ogystal â'r gallu i rannu dogfennau gyda chydweithwyr. 

Systemau archebu ar-lein

 

Mae llawer o fusnesau, yn enwedig y rheiny ym maes lletygarwch a thwristiaeth, yn gofyn i gwsmeriaid archebu ymlaen llaw ar-lein. Mae system archebu neu gadw lle yn offeryn gwych i unrhyw fusnes sydd eisiau symleiddio ac awtomeiddio sut maen nhw'n storio gwybodaeth cwsmeriaid ac yn cymryd taliad.

Mae SimplyBook.me yn system archebu ar-lein sy'n cynnig fersiynau am ddim a rhai y mae angen talu amdanynt sy'n galluogi busnesau i dderbyn archebion yn hawdd trwy eu gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Os nad oes gennych wefan, mae SimplyBook.me yn caniatáu i chi greu eich safle archebu wedi'i addasu eich hun. 

Gellir cymryd archebion 24/7, eu rheoli drwy'r ap, a'u cysoni i galendrau personol er mwyn osgoi gwrthdaro apwyntiadau. Gallwch hefyd anfon negeseuon awtomataidd wedi’u teilwra i atgoffa pobl am apwyntiad er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o golli apwyntiad.  

Gyda'r pecyn am ddim rydych chi'n cael 50 archeb y mis, mynediad at yr ap, safle archebu, a botwm archebu ar gyfer eich gwefan a chyfryngau cymdeithasol. I gymryd taliadau ar-lein, bydd angen i chi ddewis un o'r opsiynau y mae angen talu amdanynt, hefyd, gweler yr adran Taliadau Ar-lein isod. 

Mae opsiynau mwy arbenigol ar gael, gan gynnwys Fresha (a elwid yn Shedul yn flaenorol), sef llwyfan archebu pwrpasol ar gyfer salonau, sbas a busnesau eraill sy'n gweithredu yn y sector iechyd a harddwch.

Lawrlwythwch eich Pecyn Adnoddau Digidol am ddim

Systemau talu ar-lein a darllenwyr cardiau

 

Yn ystod y pandemig, daeth nifer ohonom yn gyfarwydd â thalu gyda cherdyn. Gall rhoi'r opsiwn i gwsmeriaid dalu'n electronig helpu i hybu gwerthiant drwy ganiatáu iddynt dalu drwy'r dull sy'n fwyaf addas iddynt, yn hytrach na gorfod troi cwsmeriaid posibl i ffwrdd oherwydd nad oes gennych y gallu. Os nad yw eich busnes wedi'i sefydlu ar gyfer hyn ar hyn o bryd, mae darllenydd cardiau yn ffordd hawdd a chost-effeithiol o ddechrau. 

Mae SumUp yn cynnig tri opsiwn darllenydd cerdyn, dau gyda Bluetooth sy'n gweithio trwy'r ap SumUp am ddim, sy’n cysylltu â ffôn neu lechen, ac un gyda data diderfyn am ddim neu WIFI sy'n ddyfais annibynnol. Mae pob un yn caniatáu i chi gymryd taliadau cerdyn yn ddiogel ac yn hawdd fel y gallwch gynnig tawelwch meddwl a hyblygrwydd i gwsmeriaid. Nid oes costau misol a chaiff ffioedd eu talu ar bob trafodyn yn unig. 

Mae Square yn opsiwn poblogaidd arall i fusnesau bach.  Ar hyn o bryd, mae’r Square Reader yn costio £16 ymlaen llaw gyda ffioedd trafodion wedi'u gosod ar 1.75%, a dim costau misol. Mae'n gweithio trwy'r ap Point of Sale Square am ddim y gellir ei lawrlwytho i ffôn. Gellir defnyddio Square Reader i gymryd taliadau sglodyn a phin, cardiau digyswllt, Apple Pay a Google Pay.

Hefyd, mae gan Square lawer o gynhyrchion ar gael i'ch busnes gymryd taliadau ar-lein drwy anfoneb, eich gwefan eich hun, neu ddolen dalu os nad oes gennych wefan. Mae Square Online yn cynnig safle e-fasnach i werthu a chymryd taliadau ar-lein. 

Mae'n werth sôn am Patreon a Buy Me a Coffee, sydd wedi'u hanelu at y diwydiant creadigol ac sy’n caniatáu i grewyr ac artistiaid dderbyn cymorth ac aelodaeth gan eu cefnogwyr.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen