Yn flaenorol, roedd busnesau’n dibynnu ar gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu gynadleddau dros y ffôn, ond mae fideo-gynadledda nawr yn profi ei hun i fod yn ddull effeithlon a chost effeithiol o gynnal cyfarfod. Mae fideo-gynadledda yn caniatáu nifer o bobl i gyfathrebu mewn amser real, ble bynnag y maen nhw, trwy drosglwyddiadau fideo a sain ddwyffordd.   

 

Sut gall fideo-gynadledda helpu eich busnes?

 

Arbed arian ac amser

 

Mae fideo-gynadledda yn cynnig ffordd wych i fusnesau ‘gyfarfod’ a gweithio gyda busnesau eraill ledled y wlad a ledled y byd hyd yn oed, heb gostau teithio yn ôl ac ymlaen i gyfarfodydd. Yn ogystal ag arbedion costau, gellir defnyddio’r amser sy’n cael ei arbed trwy beidio â theithio gael ei ddefnyddio’n gynhyrchiol i ‘gyfarfod’ â nifer gynyddol o gwsmeriaid, cleientiaid a noddwyr.

 

Gweithio unrhyw le gydag unrhyw un

 

Yn ogystal ag arbed costau, gall fideo-gynadledda gael gwared ar unrhyw derfynau ar bwy y gallwch weithio gyda nhw gan ddibynnu ar eu lleoliad. Mae technolegau digidol, fel fideo-gynadledda, wedi ei gwneud hi’n haws nag erioed i gyfathrebu a chydweithio gyda busnesau ledled y byd.

 

Gweithio hyblyg

 

Mae fideo-gynadledda yn caniatáu i’ch busnes fod yn fwy hyblyg o ran ble a phryd y byddwch yn cynnal ‘cyfarfodydd’

 

Er enghraifft, gallai staff gynnal cyfarfodydd o swyddfa adref neu y tu allan i oriau gwaith arferol, lle bo’r angen. Gallai gweithio hyblyg wella cynhyrchiant a chaniatáu busnesau i gysylltu â rhanddeiliaid ar unrhyw adeg o’r dydd - sy’n golygu nad yw amser a phellter yn rhwystr i dwf mwyach.

 

Gwella cyfathrebu a pherthnasoedd

 

Mae fideo-gynadledda yn caniatáu mwy o bersonoliaeth mewn cyfarfod na galwad ffôn arferol. Trwy allu gweld iaith y corff a mynegiant y bobl hynny ben arall y fideogynhadledd, gall busnesau sicrhau cyfathrebiadau cyflymach, mwy effeithiol.

 

Os hoffech ddarganfod mwy am weithio hyblyg, bwrwch olwg ar ein canllaw defnyddiol rhad ac am ddim yma!

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen