Ian Jones, Cynghorydd Digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau, sy’n esbonio’i awgrymiadau ar gyfer cadw eich llif arian dan reolaeth yn ogystal ag adnoddau ar-lein sy'n gwneud y gwaith caled drosoch chi

Mae dwy brif strategaeth sy'n gwella eich llif arian: cynyddu faint o arian sy'n dod i mewn a lleihau faint o arian sy'n mynd allan. Meddyliwch am lif arian fel clorian, neu si-so – po fwyaf sy'n mynd allan y mwyaf mae un ochr yn suddo, po fwyaf sy'n dod i mewn y mwyaf y daw'r ochr arall yn ôl i greu cydbwysedd.

Image representing growth of money

 

Eich gwaith chi yw rheoli eich busnes mewn ffordd sy'n sicrhau bod mwy ar yr ochr sy'n dod i mewn nag ar yr ochr sy'n mynd allan bob amser.

Fel hyn, byddwch yn sicrhau bod gennych ddigon o arian i dalu eich costau cyffredinol a'ch costau hanfodol, talu eich staff, rhoi rhywfaint o arian i un ochr i ehangu yn y dyfodol neu ar gyfer costau annisgwyl ac, yn bwysig, talu eich hun.

Haws dweud na gwneud serch hynny, ac mae gormod o fusnesau'n dal i'w chael hi'n anodd rheoli eu llif arian yn ddigonol, sy’n aml yn arwain yn aml at lu o broblemau i berchennog y busnes – cyflenwyr yn hawlio tâl, landlordiaid yn mynnu rhent, awdurdodau treth ac ardrethi yn gofyn am arian, staff sydd angen eu cyflogau, mae'r rhestr yn ddiddiwedd.

Fodd bynnag, mae cymorth wrth law gan fod rhai awgrymiadau sylfaenol y gall unrhyw fusnes eu mabwysiadu a'u defnyddio i wneud bywyd yn haws ac yn fwy proffidiol.

Gwybod faint sydd angen arnoch chi er mwyn adennill eich costau

Cyn y gallwch weithio tuag at lif arian positif, rhaid i chi wybod faint sydd angen i chi ei ennill er mwyn talu'ch costau. Os gallwch chi gyrraedd eich pwynt adennill costau, y pwynt lle rydych chi'n gwneud digon o elw i dalu'ch biliau bob wythnos rydych chi'n gwneud rhywbeth yn iawn. Gadewch i ni edrych ar enghraifft o gyfrifiad adennill costau.

Os yw eich elw elw gros ar gyfartaledd yn 50% (h.y. Os ydych chi'n gwerthu £100 o ddeunyddiau, cost y nwyddau yw £50 a'r elw ar y gwerthiant yw £50), ac mae’ch costau cyffredinol wythnosol yn £500, yna mae angen i chi wneud £1000 o werthiannau i dalu'r costau hyn, gan fod £500 yn 50% o £1000. Felly ar ôl i chi wneud £1000 o werthiannau mewn unrhyw wythnos benodol, mae unrhyw werthiannau ychwanegol yn elw go iawn i chi.

Mae gwneud hyn yn rhoi nod clir i chi, ac os yw'n ei gwneud hi'n haws i chi ei fesur gallwch ei rannu'n symiau llai, er enghraifft mae angen i mi wneud gwerthiannau o £200/diwrnod neu £25/awr.

Gosod llinellau amser a thelerau anfonebu

Os yw'ch busnes yn un sy'n rhoi telerau credyd i gwsmeriaid, mae'n gwbl hanfodol sefydlu telerau talu clir iawn, yn ysgrifenedig, cyn derbyn cleient neu gyflenwr newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi pryd y disgwylir taliadau am anfonebau, p'un ai’n syth ar ôl anfonebu neu cyn pen 15, 30 neu 60 diwrnod. Sicrhewch hefyd eich bod yn gosod terfyn credyd clir, yn yr un modd ag y bydd eich cyflenwyr chi’n ei wneud wrth ddelio â chi; a glynwch ato.

Ar gyfer prosiectau sy'n arbennig o drwm o ran adnoddau, argymhellir eich bod yn gofyn am flaendal cychwynnol fel bod gennych chi ychydig o arian parod i dalu'r costau angenrheidiol. Os ydych chi'n baentiwr ac addurnwr, gofynnwch i'ch cleient am gost y deunyddiau cyn i chi ddechrau gweithio.

Yna, gofynnwch am weddill y taliad wrth gyrraedd cerrig milltir neu gyflawniadau penodol - er enghraifft, ar brosiect adeiladu pan fydd y sylfeini wedi'u cwblhau, neu am waith ymgynghori, ar ôl i chi gyflwyno'ch adroddiad cychwynnol.

Unwaith eto, gwnewch yn siŵr fod hyn i gyd yn cael ei gofnodi mewn du a gwyn a bod y cwsmer yn cydnabod ei fod wedi derbyn eich e-bost ac yn derbyn eich telerau.

Person pointing to laptop screen

Siaradwch â’n harbenigwyr digidol: cofrestrwch am gymorth rhad ac am ddim heddiw

Rhoi llif arian uwchlaw elw

Mae'r rhan fwyaf o bobl o'r farn mai'r gyfrinach i lwyddiant entrepreneuraidd yw elw, elw, elw. Ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â sut rydych chi'n rheoli'ch llif arian. Gwnewch yn siŵr fod hynny'n iawn a bydd elw’n dilyn fel mae’r nos yn dilyn dydd. Gwiriwch eich enillion yn erbyn eich pwynt adennill costau bob amser.

Os yw’n ymddangos eich bod yn ennill mwy na hynny ond eto mae arian yn dal i deimlo'n dynn, mae'n debyg bod gennych chi broblem gyda'ch cyfrifon sy’n daladwy (arian allan), cyfrifon derbyniadwy (arian i mewn) neu nad ydych yn cyfrif am eich holl gostau'n llawn.

Gohirio neu leihau eich treuliau

Er bod dod â mwy o arian i mewn bob amser yn strategaeth dda i reoli llif arian, gall torri i lawr ar gostau sicrhau canlyniadau tebyg mewn ffordd wahanol.

Os oes gennych chi daliadau sydd ar ddod, edrychwch a allwch negodi i gael estyniad. Hyd yn oed ychydig wythnosau ychwanegol, neu ddyddiau hyd yn oed, gall amser i dalu wella eich llif arian yn sylweddol. Os oes gennych chi offer nad yw’n cael ei ddefnyddio, cwtogwch ar gostau storio (a dewch ag ychydig o arian ychwanegol i mewn) trwy logi neu brydlesu offer.

Dewch o hyd i ffyrdd eraill o gynyddu eich elw - cofiwch os byddwch chi'n torri'ch costau o £1 yr eitem, mae'n cael yr un effaith yn union â'ch cwsmeriaid yn talu £1 yn fwy i chi bob tro.

Felly peidiwch â mynd yn rhy gyffyrddus gyda'ch cyflenwyr, heriwch eu prisiau, a daliwch i chwilio am ddewisiadau amgen. Mae busnes yn gystadleuol ac yn aml mae ateb mwy cost-effeithiol y gallech chi fanteisio arno.

Lleihau eich stoc

Gall clirio stoc sy’n hen, yn hen ffasiwn neu wedi’i ddifrodi helpu i gychwyn llif arian iach. Mae gan stoc yn y warws werth, ond allwch chi ddim talu'ch rhent gydag ef. Gosodwch darged i leihau eich stoc o, dyweder, 10% a throi hwn yn arian parod. Byddwch yn synnu pa mor gyflym y gall hyn weithio a sut y gall roi hwb i'ch balans banc.

Dyfal donc

Fel y dywed yr hen air, gofynnwch a chwi a gewch. Neilltuwch amser yn eich calendr bob wythnos i gysylltu â chleientiaid a gofyn iddyn nhw dalu. Mae'n syndod pa mor gyflym y gallan nhw fynd i'r arfer o'ch rhoi chi ar frig eu rhestr taliadau os gwnewch chi bwynt o'u hatgoffa'n rheolaidd pan fydd taliadau'n ddyledus. Cofiwch, eich gwaith chi yw cyflenwi nwyddau a gwasanaethau o ansawdd uchel, a’u gwaith nhw yw talu'r bil.

Mae cwsmeriaid nad ydyn nhw, neu nad ydyn nhw’n fodlon, talu mewn pryd yn ymyriad y gallwch chi wneud hebddo, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal i gysylltu â nhw ac yn cael eich arian ar amser.


Adnoddau ar-lein sy'n rhoi pâr o ddwylo ychwanegol i chi

Er mwyn eich helpu i gadw golwg ar ble mae'ch arian a sut y gallwch chi wneud y defnydd gorau ohono, rydym ni'n eich cynghori'n gryf i ddefnyddio un o'r nifer o adnoddau cyfrifyddu digidol sydd ar gael. Mae'r rhain yn gweddu i fusnesau o bob lliw a llun a byddan nhw’n helpu arbed amser i chi ac yn darparu adnodd ychwanegol.

Mae llawer o ddewis, ond dyma dri rydym ni, a'n cleientiaid, wedi rhoi cynnig arnyn nhw.

 

I ddarganfod rhagor am y meddalwedd ac offer cyfrifo ar-lein sydd ar gael lawrlwythwch Becyn Adnoddau Digidol i Fusnesau rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau.

1. Sage Business Cloud Accounting

Sage One yn flaenorol, mae Sage Business Cloud Accounting yn ddatrysiad cyfrifyddu a rheoli anfonebau ar-lein ar gyfer busnesau bach. Mae'n darparu cyfrifyddu craidd, cyfrifyddu prosiect, rheoli costau a rheoli cydymffurfiaeth o fewn un rhaglen.

Mae Sage yn rheoli'r holl ddogfennaeth a phrosesau sydd eu hangen mewn taliadau busnes fel dyfynbrisiau, amcanbrisiau, datganiadau ac anfonebau. Mae'n cynnig integreiddio gyda'r holl brif fanciau, gan eich galluogi i fewngludo pob taliad yn awtomatig. Mae'r holl wybodaeth ar gael mewn un dangosfwrdd, sy'n eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am lif arian parod a thaliadau sydd ar ddod.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys rheoli treth, sy'n cyfrifo trethi perthnasol gan ddefnyddio data’r trafodion, a rhagweld llif arian, ar gyfer amcangyfrif gofynion arian parod yn y dyfodol ar sail trafodion hanesyddol.

Mae ganddo hefyd wasanaethau talu, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr wneud taliadau’n uniongyrchol gan ddefnyddio cyfrifon Sage. Gall defnyddwyr hefyd wneud taliadau gan ddefnyddio eu cyfrifon PayPal.

 

2. Intuit Quick Books

Mae gan QuickBooks un o'r proffiliau amlycaf o ran meddalwedd gyfrifyddu ac yn bwysig mae'n dal i gael diweddariadau rheolaidd, sy'n sicrhau ei fod yn cadw i fyny â gofynion newidiol. Yn fwy diweddar, mae defnyddwyr wedi cael nifer o adnoddau newydd i weithio gyda nhw. Mae'r rhain yn cynnwys teclyn amcangyfrif treth incwm i helpu gyda therfynau amser hunanasesu.

Mae diweddariadau eraill yn cynnwys gwell mewnwelediadau llif arian wedi'u personoli ynghyd â Phorth Gweithwyr QuickBooks estynedig. Mae gan QuickBooks ystod o ddatrysiadau a fydd yn gweddu i bron unrhyw fath o sefydliad hefyd, o fusnesau un person hyd at gwmnïau llawer mwy.

Gellir cael mynediad i QuickBooks mewn sawl ffordd. Mae llawer yn dewis QuickBooks Online, y gellir ei ddefnyddio o borwr gwe, fodd bynnag, os yw'n well gennych gallwch lawrlwytho ap Windows neu Mac. Mae QuickBooks hefyd yn cynnig gwasanaethau talu symudol gyda’i gynnyrch GoPayment yn ogystal â phecynnau Pwynt Gwerthu, ac mae’r ddau ohonyn nhw’n ddefnyddiol i ddefnyddwyr busnes mewn siopau ac mewn lleoliadau symudol.

3. Xero Accounting

Wedi'i sefydlu yn 2006, mae Xero yn system gyfrifyddu ar y we sydd wedi'i chynllunio ar gyfer busnesau bach sy'n tyfu. Gall Xero gysylltu busnesau bach â'u cleientiaid, eu cyflenwyr a'u banc, a gall perchnogion busnes weld eu sefyllfa ariannol ar unwaith.

Gellir cael mynediad cyflym i Xero o unrhyw ddyfais sydd â chysylltiad rhyngrwyd gweithredol ac mae ei nodweddion cyfrifyddu yn caniatáu i fusnesau bach weld eu llif arian, eu trafodion, a manylion eu cyfrif o unrhyw leoliad. Mae’r trafodion banc i gyd yn cael eu mewngludo a'u codio’n awtomatig.

Mae talu biliau ar-lein yn helpu i gadw golwg ar wariant a mynd i’r afael â’r biliau sy'n ddyledus, sy’n gwella perthnasoedd â'r gwerthwyr sy'n darparu deunyddiau busnes hanfodol.

Dyma dri o'r datrysiadau mwyaf poblogaidd ac effeithiol sydd ar gael ond mae digon o rai eraill efallai yr hoffech chi eu hystyried.



I gael mwy o gymorth digidol ar gyfer eich busnes, cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau sydd ar gael am ddim.


Gweler sut gall Cyflymu Cymru i Fusnesau gefnogi eich busnes chi

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen