Mae gweithio hyblyg yn diffinio unrhyw fath o batrwm neu drefniant gweithio sy’n wahanol i oriau cytundebol safonol neu gyfredol. Gallai’r math hwn o weithio ganiatáu i weithiwr newid faint o oriau mae’n gweithio neu leoliad ei waith, neu ei oriau gwaith. Yna, gallai hyn roi’r rhyddid i’r gweithiwr weithio o amgylch trefniadau gofal, o’r cartref neu’r tu allan i’r swyddfa, neu rannu swydd gyda chydweithwyr.

 

Fodd bynnag, nid yw gweithio hyblyg yn ystyried anghenion y gweithiwr yn unig.

 

Yn ôl arolwg byd-eang Vodafone “Flexible: friend or foe?”:

 

Mae 75 y cant o gwmnïau ledled y byd bellach wedi cyflwyno polisïau gweithio hyblyg ac wedi nodi twf sylweddol mewn perfformiad

 

Gan gynnwys cynnydd yn elw cwmnïau (61 y cant), gwell cynhyrchiant (83 y cant) ac effaith gadarnhaol ar enw da’r sefydliad (58 y cant).

 

Yn hytrach na chyfyngu gweithgareddau busnes i oriau gwaith safonol a chanolbwyntio ar leoliad, mae gweithio hyblyg yn caniatáu i chi gael eich gyrru gan gyflawniadau ac allbynnau gwirioneddol staff.

 

Ydych chi’n dechrau meddwl y gallai eich busnes elwa o weithio hyblyg?

 

Dyma dair ffordd allweddol y gall eich busnes fanteisio ar y dechnoleg ddigidol hawdd ei mabwysiadu sydd ar gael er mwyn rhoi polisi gweithio hyblyg ar waith.

 

Y cwmwl

 

Yn hytrach na chanolbwyntio ar seilwaith mewnol drud, mae busnesau bellach yn mabwysiadu’r cwmwl er mwyn prynu rhaglenni a systemau ar ffurf gwasanaethau. Mae’r cwmwl yn dod yn elfen graidd i fusnesau sy’n cynnig cyfleoedd gweithio hyblyg, oherwydd gall y llwyfan ganiatáu i weithwyr gael at ddogfennau, storio data ac offer cydweithio ble bynnag y maent, ar unrhyw adeg o’r dydd. Felly, mae’r cwmwl yn cynnig ffordd syml a chanolog i weithwyr teithiol a hyblyg gael at y wybodaeth y mae ei hangen arnynt, heb yr angen i orfod cael at galedwedd. 

 

Fideo-gynadledda

 

Yn ogystal, mae’r cwmwl yn galluogi gweithiwr i gael at wasanaethau cost isel eraill sy’n gallu cefnogi gweithio hyblyg, fel fideo-gynadledda. Mae fideo-gynadledda yn sicrhau bod aelodau teithiol o’r cwmni yn gallu cyfathrebu â gweddill y tîm yn effeithiol ac ymwneud â’r busnes yn rheolaidd. Mae’r offer cydweithio hyn hefyd yn gallu arbed arian a helpu i ddatblygu cysylltiadau gwell â chwsmeriaid a chleientiaid, oherwydd gall eich staff gynnal rhith gyfarfodydd y tu allan i oriau gweithio traddodiadol, heb yr amser a’r costau sydd ynghlwm wrth deithio.

 

Dyfeisiau

 

P’un ai y byddwch chi’n penderfynu gwneud y mwyaf o bolisi ‘Dod â’ch Dyfais Eich Hun’ neu’n dewis rhoi polisi ar ddyfeisiau symudol busnes ar waith ar gyfer pob gweithiwr cymwys, gall hyblygrwydd o ran dyfeisiau ategu patrymau gweithio amgen yn sylweddol. Trwy allu cael at ddyfeisiau symudol, gall eich staff fod yn hunangynhaliol, gweithio o bell neu hyd yn oed weithio wrth deithio, yn ddidrafferth iawn. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod risgiau’n gallu bod ynghlwm wrth fod â dyfeisiau niferus, heb eu monitro, felly mae’n bwysig rhoi mesurau diogelwch ar waith ar gyfer dyfeisiau o’r fath

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen