Mae pandemig Covid-19 a'r cyfnodau clo a ddaeth yn ei sgil wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau hyfforddiant ac addysg. Mae wedi gorfodi myfyrwyr ac athrawon i weithio o bell, gan ddefnyddio llwyfannau fideo-gynadledda a systemau dysgu ar-lein i gysylltu â’i gilydd. Hyd yma, rydym wedi gweld ysgolion yn cysylltu dros Microsoft Teams, gwersi cerddoriaeth yn digwydd dros Zoom, a hyd yn oed dosbarthiadau coginio rhithwir ar Instagram.

Cafwyd tipyn o broblemau ar y dechrau wrth gwrs, nid mater bach yw symud busnes hyfforddi neu addysg i'r amgylchfyd digidol. Ond mae’n gam angenrheidiol. Mae cyfnodau clo a gweithio o bell wedi newid tirwedd sylfaenol busnes, ac wedi cyflymu'r broses o ddigideiddio. O ganlyniad, mae llawer o fusnesau'n annhebygol o ddychwelyd at y strwythurau anhyblyg a ddefnyddiwyd cyn y pandemig, ac maent yn croesawu atebion digidol a all wasanaethu gweithlu gwasgaredig. Yn yr un modd, mae llawer o bobl yn awyddus i ailhyfforddi neu ddysgu rhywbeth newydd.

A person using a laptop.

 

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau, sy'n darparu cymorth digidol am ddim i fusnesau Cymru, yma i’ch helpu. Mae ein rhaglen rad ac am ddim yn cynnwys gweminarau a chymorth un-i-un wedi'i deilwra, sy’n rhoi arweiniad a chyngor ymarferol i gwmnïau sy'n dymuno symud ar-lein. Gyda Fforwm Economaidd y Byd yn amcangyfrif y bydd 44% o'r sgiliau y bydd gweithwyr eu hangen i gyflawni eu rolau'n effeithiol wedi newid erbyn 2025, mae angen dybryd am hyfforddiant cost-effeithiol a hygyrch. 

"Yn syml iawn, heb gyngor [Cyflymu Cymru i Fusnesau], efallai na fyddem wedi goroesi'r pandemig!" - Emma Blewden, Educalis

Edrychwch ar Educalis, er enghraifft. Sefydlwyd y cwmni gan y tiwtor gwyddoniaeth Emma Blewden i gynnig addysg wedi'i bersonoli i blant. Pan fu’n rhaid i ysgolion gau yn ystod y pandemig, aeth busnes Emma o 65 o fyfyrwyr i 5, ac roedd canslo arholiadau’n golygu bod Educalis wedi colli’r holl incwm o'u sesiynau adolygu. Oni bai eu bod yn gweithredu ar unwaith, roedd y busnes mewn perygl gwirioneddol o fynd i’r wal.

Roedd angen brysio cynlluniau Emma i fynd yn ddigidol, a chysylltodd â Cyflymu Cymru i Fusnesau am help.

"Rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau wybodaeth fanwl i ni am ein gwefan a'n presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai. "Maen nhw wedi rhoi cyngor i ni o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr i'n gwefan a'n tudalennau busnes, ac wedi darparu hyfforddiant ar sut i wella optimeiddiad peiriannau chwilio a’n marchnata cyfryngau cymdeithasol. Cawsom awgrymiadau da iawn hefyd o ran y newid o fod yn wasanaeth wyneb yn wyneb i fod yn wasanaeth ar-lein."

Aeth Emma yn ei blaen i ddweud: "Rhoddodd ein cynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau adroddiad a gwerthusiad o’n gwefan a'n presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol, a rhoddodd gyngor da ar gyfer hybu ein presenoldeb ar-lein. Cawsom awgrymiadau marchnata da iawn ganddynt hefyd o ran hysbysebu ar safleoedd nad oeddem wedi'u hystyried o'r blaen."

A child using a laptop.

 

O ganlyniad, cafodd staff eu hailhyfforddi, hysbyswyd rhieni am y system newydd dros e-bost, a defnyddiwyd hysbysebion Facebook i hyrwyddo'r gwasanaeth digidol newydd. O’u hisafbwynt o ddarparu ond 20 awr o hyfforddiant pan darodd Covid-19 ym mis Mawrth 2020, o fewn dau fis roedd Educalis bron â dychwelyd at eu lefelau cyn y pandemig. Bu'r adborth gan ddisgyblion a thiwtoriaid yn gadarnhaol ac, fel y gwelwyd mewn achosion tebyg, mae’r symudiad at dechnolegau digidol nid yn unig wedi diogelu busnes Educalis ond wedi ehangu ei sylfaen cleientiaid, gan ddod â chwsmeriaid newydd i mewn.

"Rydym yn hynod ddiolchgar am gymorth a chyngor Cyflymu Cymru i Fusnesau," ychwanegodd Emma. "Yn syml iawn, heb eu cyngor, efallai nad fyddem wedi goroesi'r pandemig!"

Mae stori 3D Learning Solutions yn un debyg. Mae’r cwmni o Gasnewydd yn arbenigo mewn hyfforddiant preifat i blant â dyslecsia, dyscalcwlia, a dysgraffia. Sefydlwyd y cwmni yn 2017 gan gyn-athrawes wyddoniaeth o’r enw Jo Bold, pan benderfynodd ddechrau tiwtora’n rhan-amser gyda dim ond tri disgybl. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r busnes yn cyflogi 10 o diwtoriaid sy'n darparu cymorth i fwy na 70 o blant. Ond yna daeth Covid-19.

"Roedd y gefnogaeth a'r cyngor gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn amhrisiadwy" - Jo Bold, 3D Learning Soultions

"Pan ddigwyddodd y cyfnod clo cyntaf," meddai, "rhoddodd y busnes y gorau i fasnachu, dros nos. Ond roedd angen i mi ganfod ffordd o gefnogi'r plant yr oeddem wedi bod yn eu haddysgu. Dewisais ddefnyddio Zoom am ei fod yn hawdd ei ddefnyddio ac roedd rhai rhieni eisoes yn gyfarwydd ag ef... Roedd angen i mi ddechrau'r o'r dechrau gyda’r busnes, ac felly dechreuais trwy gynnal ychydig o wersi i'r rhai hynny oedd yn awyddus. Cyn bo hir, dechreuodd llawer o'r plant a oedd wedi bod yn cael gwersi cyn y cyfnod clo ddod yn ôl atom ni."

Erbyn diwedd Ebrill 2021, roedd 6 o'r 10 tiwtor gwreiddiol wedi dychwelyd i'r gwaith, ac maent bellach yn gweithredu bron yn gyfan gwbl ar-lein. Ym mis Mawrth 2020 doedd gan y busnes ddim incwm, ond flwyddyn yn ddiweddarach mae incwm cwmni Jo bron yn ôl i’r lefelau cyn Covid, ac mae'r busnes yn dal i dyfu. Gwelwyd cynnydd misol yn nhraffig gwefan 3D Learning Solutions, meddai, gydag ymholiadau gan gwsmeriaid newydd wedi treblu o gymharu â’r lefelau cyn y pandemig.

"Roedd y gefnogaeth a'r cyngor gan Cyflymu Cymru i Fusnesau yn amhrisiadwy," meddai Jo. "Rhoddodd hyder i mi droi at roi cymorth ar-lein i'n holl ddysgwyr. Yn wir, bydd y mwyafrif llethol o'n gwersi yn aros ar-lein hyd y gellir rhagweld, gyda chymorth wyneb yn wyneb bellach yn digwydd mewn ysgolion yn unig. Rydym wedi gweld ein bod yn gallu gweithio dros ardal ddaearyddol ehangach, gan roi cymorth i staff a dysgwyr ar draws nifer o awdurdodau lleol."

Rhoddodd y pandemig hwb i Jo i wneud newid a oedd, mewn oes lle mae trawsnewid digidol a busnes ar-lein ar gynnydd, yn anochel. Os hoffech uwchraddio eich busnes chi, boed yn fawr neu fach, cofrestrwch am gymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau. Byddwch yn dysgu sut i symud eich busnes i blatfform digidol, neu i wneud y gorau o'r presenoldeb ar-lein sydd gennych eisoes, gan wella gwydnwch eich busnes a chyrraedd cwsmeriaid newydd. Mae'r gweithdai, y cyngor a'r adborth i gyd yn rhad ac am ddim, a chewch sesiwn gymorth un-i-un wedi’u theilwra i'ch helpu i wneud y gorau o dechnoleg ar-lein.


Mae busnesau’n newid yng Nghymru, ydych chi’n barod i ymuno? Dysgwch sut y gall technoleg ddigidol wella eich busnes chi a'i helpu i dyfu. Cofrestrwch am gymorth nawr.


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen