Mae cynghorydd digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau, Alyson Eyval, yn datgelu ffyrdd hawdd o fynd â’ch marchnata digidol i’r lefel nesaf i’ch helpu i gael sylw a chreu gwerthiant


Diweddaru eich gwefan

Os yw’ch gwefan yn edrych yn hen-ffasiwn ac angen ei diweddaru, gallwch fod yn siŵr na fydd unrhyw un sy’n ymweld â’ch safle eisiau edrych arni yn hir.

I gael y gorau o’ch gwefan a chadw diddordeb eich ymwelwyr, mae angen i chi sicrhau bod eich cynnwys yn cael ei adnewyddu’n rheolaidd, a bod eich meddalwedd a’ch diogelwch yn cael eu diweddaru.

Cadw ar ben newidiadau Google Algorithm

Mae Google yn diweddaru ei algorithmau 1000 gwaith y flwyddyn. Gan amlaf, ni fydd y diweddariadau hyn yn effeithio ar eich gwefan, ond weithiau bydd y newidiadau’n golygu bod angen i chi addasu eich strategaeth SEO yn llwyr.

Un enghraifft yw diweddaru ar gyfer ffonau symudol. Mae Google nawr yn gwobrwyo gwefannau sydd wedi’u hoptimeiddio i ddefnyddio ffonau symudol. Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf o chwiliadau Google yn cael eu gwneud ar ffonau clyfar...ac eto, er gwaethaf hyn, rydyn ni’n dal i weld gwefannau nad ydyn nhw’n ffitio ar sgriniau symudol.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i algorithm Google, dilynwch arbenigwyr SEO a monitro eich Google Analytics ar gyfer unrhyw newidiadau i berfformiad gwefannau nad oes modd eu hegluro

Prawf cymdeithasol

Byddwch yn ymwybodol o brawf cymdeithasol – “y ffenomen lle mae pobl yn copïo gweithredoedd pobl eraill”. Wrth gymhwyso hyn i farchnata digidol, meddyliwch am adolygwyr a dylanwadwyr.

Pan fydd pobl yn siopa ar-lein, maen nhw’n chwilio am adolygiadau ac argymhellion. Ac maen nhw’n llawer mwy tebygol o brynu cynnyrch neu wasanaeth gyda 100 o adolygiadau pum seren yn hytrach nag un gyda dim ond 20 o adolygiadau dwy seren.

Felly, gwnewch ymdrech ymwybodol i gael adolygiadau, boed hynny ar eich gwefan, ar draws y cyfryngau cymdeithasol neu Google – mae'r rhain i gyd yn helpu i greu brand mwy dibynadwy.

Rhagor o wybodaeth am weminar marchnata digidol am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau

Marchnata dylanwadwyr

Gall gweithio gyda dylanwadwr helpu i dynnu sylw cynulleidfa ehangach at eich brand.

Mae pobl yn dilyn dylanwadwyr am eu bod yn hoffi eu cynnwys ac yn ymddiried yn eu hargymhellion. Cadwch lygad am ddylanwadwyr nano/micro lleol. Tuedda’r rhain i gael perthynas agos gyda’u cymuned a gallan nhw fod yn llwybr cost-effeithiol i’r farchnad.

Mae gweithio gyda dylanwadwr yn gallu cymryd amser. Gallwch naill ai wneud eich ymchwil eich hun neu gysylltu ag un sy’n addas yn eich barn chi, neu gallwch ddefnyddio asiantaeth ddylanwadwyr i’ch helpu.

Ailgylchu eich cynnwys bythwyrdd

Mae cynnwys o ansawdd da yn tueddu i gael ei rannu, a bydd pobl yn awyddus i gysylltu ag ef a chlicio arno – dyna’r cynnwys rydych chi am ei ddefnyddio.

Ond nid oes angen i’r holl gynnwys fod yn newydd sbon. Edrychwch ar eich dadansoddeg i ddod o hyd i’ch negeseuon blog hanesyddol mwyaf poblogaidd a rhoi ychydig o sglein iddyn nhw.

Gellir troi cynnwys ysgrifenedig yn gyflwyniad, yn ffeithlun, neu gwell fyth, yn fideo. Byddwn yn sôn am hyn nesaf.

Byddwch yn weledol gyda fideo

Mae cynnwys fideo yn dal i dyfu. Mae’n hawdd ei ddeall, mae’n aml yn ddifyr ac mae modd ei ddefnyddio ar draws nifer o sianeli.

Cofiwch, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwylio fideos ar gyfryngau cymdeithasol heb sain felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi ar gyfer hyn drwy ychwanegu isdeitlau neu gapsiynau.

Ac yn olaf...

Siaradwch ag arbenigwr

Cofiwch, does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Cysylltwch â Cyflymu Cymru i Fusnesau a chofrestrwch ar ein rhaglen gymorth am ddim. Byddwch yn gallu cael cyngor un-i-un gan gynghorydd busnes fel fi, yn ogystal ag amrywiaeth o weminarau am ddim a llawer mwy o awgrymiadau ar-lein ar ein Cronfa Wybodaeth.

Archebwch eich lle heddiw ar un o’n gweminarau am ddim a dechreuwch feithrin eich hyder digidol.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen