Paul Gadd, cynghorydd digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau, yn egluro sut gall marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol eich helpu i dyfu eich busnes.
Gyda biliynau o bobl yn defnyddio llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol, dyma rai o’r llefydd gorau i ddechrau hyrwyddo eich busnes a chysylltu â’ch cynulleidfa darged.
Gyda hynny mewn golwg, gadewch i ni edrych ar fanteision y cyfryngau cymdeithasol a sut y gallan nhw dyfu eich busnes.
Archebwch le ar un o weminarau cyfryngau cymdeithasol rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau.
Codi ymwybyddiaeth o’ch brand
Un o’r prif fanteision o ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, LinkedIn, Pinterest, Twitter ac Instagram yw eich bod chi’n gallu cysylltu â chwsmeriaid. Rydych chi’n cyrraedd pobl newydd, yn dangos iddyn nhw beth rydych chi’n gallu ei gynnig, ac yn y pen draw, mae hynny’n gallu bod yn fantais anhygoel. Fel arfer, mae’r gost o gaffael cwsmeriaid yn gallu bod yn uchel iawn, ond gyda chymorth y cyfryngau cymdeithasol, gallwch chi roi eich brand o flaen miloedd o gwsmeriaid posibl heb fawr o gost, os o gwbl.
Ffordd wych o hybu eich SEO
Mantais arall y cyfryngau cymdeithasol yw eu bod yn gallu helpu i wella eich safle ar beiriannau chwilio. Bydd allweddeiriau da yn eich rhoi ar dudalennau blaen peiriannau chwilio ac yn helpu i wella nifer ymwelwyr â’ch wefan ac yn arwain at ganlyniadau gwych. Mae’n ddull effeithiol iawn, gan fod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu cyfeirio mwy o draffig at eich allweddeiriau, sydd yn ei dro yn arwain at well SEO.
Mae gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gyfraddau trosi uchel
Pan fyddwch chi’n defnyddio gwefannau’r cyfryngau cymdeithasol, rydych chi’n gwneud i bobl ymddiried ynoch chi a bydd hynny’n golygu eich bod chi’n creu mwy o werthiant yn y tymor hir. Mae hyn yn arwain at gyfraddau trosi uchel, sy’n eithriadol o bwysig os ydych chi eisiau cynyddu eich elw, gan wthio eich busnes i’r lefel nesaf mewn ffordd ddeniadol a grymusol.
Gwell boddhad ymysg cwsmeriaid
Pan fyddwch chi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eich busnes, byddwch chi’n ei chael hi’n haws gweld beth sydd ei angen ar gwsmeriaid a beth maen nhw eisiau i chi ei wella. Mae hynny’n arwain at gyfradd boddhad cwsmeriaid llawer gwell, ac yn y pen draw dyna sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Pan fydd eich cwsmeriaid yn hapus, byddan nhw’n dychwelyd atoch chi dro ar ôl tro ac yn argymell eich busnes i bobl eraill.
Felly, dyma’r gorau o'r ddau fyd: Rydych chi hefyd yn cael mwy o awdurdod i’ch brand. Mae cael gwybodaeth am y farchnad a deall beth mae cwsmeriaid ei eisiau yn fantais enfawr, gan eich bod chi’n gallu canolbwyntio ar dwf a sicrhau’r gwerth gorau.
Effeithlonrwydd costau
Ydy, mae hyrwyddo eich busnes ar y cyfryngau cymdeithasol yn llawer rhatach o gymharu â dulliau marchnata traddodiadol. Gallwch chi gadw at gyllideb, ond yn fwy na hynny, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eich galluogi i gyrraedd llawer mwy o bobl ac yn eich helpu i wneud y gwerthiannau hollbwysig hynny.
Casgliad
Os ydych chi’n tyfu eich busnes ar gyllideb, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn ddewis gwych. Mae’n eich galluogi i gyrraedd marchnadoedd newydd, creu busnes parhaus, a chael adborth defnyddiol hefyd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi cynnig ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, LinkedIn, Twitter, Instagram a Pinterest. Postiwch yn aml, gwrandewch ar eich cynulleidfa a dangoswch y gwerth gorau y gallwch chi, bydd y canlyniadau yn ddiguro!
Ac yn olaf, siaradwch ag arbenigwr
Mae gan Cyflymu Cymru i Fusnesau weminarau am ddim ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n cynnwys lefelau sylfaenol ac uwch. Archebwch le ar un o’n cyrsiau am ddim a chael gyda chyngor wedi’i deilwra gen i neu gan un o’m cydweithwyr yn y tîm cynghorwyr busnes. Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth.