Hoffai Llywodraeth Cymru i 30% ohonom fod yn gweithio gartref neu’n agos at ein cartrefi. Ond sut?  

 

Ar ôl dwy flynedd o gyfnodau clo a chadw pellter cymdeithasol, mae’r pandemig COVID yn gadael gwaddol parhaus. Mae wedi newid ein safbwyntiau ar bethau fel yr amgylchedd – a oedd mor hanfodol i’n hiechyd a lles – ac wedi gwneud i ni ailasesu ein cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.   

Yn eironig, roedd gweithio gartref yn golygu bod gan lawer o bobl fwy o gymhelliant a’u bod yn fwy effeithlon, ac mae cwmnïau ledled y byd wedi elwa ar arferion gwaith symlach, swyddogaethau e-fasnach gwell a mwy o awtomatiaeth. Yn wir, ffynnodd rhai busnesau yn ystod y pandemig, wedi’u cefnogi gan gyngor gan Cyflymu Cymru i Fusnesau. Darllenwch ein hastudiaethau achos

Os oedd tuedd gynyddol o weithio o bell a gweithio hybrid yn barod, cyflymodd hynny yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnodau clo niferus, canfu llawer o bobl eu bod naill ai’n gweithio gartref neu’n defnyddio’r swyddfa ar achlysuron prin yn unig. Newidiodd yr holl syniad o ‘waith’ o fod yn lle roeddech yn mynd iddo, i’r gweithgarwch ei hun. Yn hynny o beth, nid oedd ots lle’r oeddech wedi’ch lleoli. Roedd argaeledd technolegau cydweithio dros y rhyngrwyd ac offerynnau digidol clyfar yn golygu y gallai’r rhan fwyaf o bobl wneud eu gwaith o bron unrhyw le, ar yr amod bod ganddynt gyfrifiadur a chysylltiad band eang. 

Erbyn mis Ebrill 2020, dim ond mis ar ôl dechrau’r pandemig, cyrhaeddodd gweithio gartref uchafbwynt ac roedd mwy na 43% o weithlu’r DU wedi’i leoli i ffwrdd o’r safle. Gostyngodd y ffigur hwn wrth i’r cyfyngiadau lacio. Ond ar ddechrau 2022, roedd mwy nag un o bob tri o bobl yn gweithio gartref o hyd o leiaf un diwrnod yr wythnos. Mae’r syniad o ddychwelyd i’r swyddfa bum niwrnod yr wythnos yn gysyniad sy’n dod yn fwyfwy hen ffasiwn. 

 

Gweithio hybrid yng Nghymru  

Y cyfaddawd canlyniadol yw trefn fwy hyblyg sy’n cael ei galw’n ‘gweithio hybrid’. Mae hwn yn gyfuniad o rannu amser rhwng swyddfeydd canolog a lleoliadau o bell, p’un a yw hynny gartref, mewn swyddfa ategol neu ar safle cydweithio ‘trydydd lle’. 

Mae’r cysyniad wedi bod yn boblogaidd dros ben, a dywed naw o bob deg o bobl yng Nghymru yr hoffent allu gweithio gartref o leiaf un diwrnod yr wythnos. Datgelodd arolwg diweddar gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) fod mwy nag 80% o gwmnïau yn y DU wedi mabwysiadu gweithio hybrid erbyn hyn. Yn ogystal, canfu astudiaeth gan Microsoft a YouGov y byddai 51% o gyflogeion yn ystyried diswyddo pe byddai’r opsiwn i weithio o bell yn cael ei ddileu. Canfu’r adroddiad hefyd fod cwmnïau heb gynllun gweithio hybrid wedi cael trafferth cadw talent newydd ac wedi dioddef effeithiau negyddol ar gynhyrchedd a lles staff. Mae’n ymddangos y bydd gweithio hybrid yma’n barhaus. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dyfynnu nifer o fanteision gweithio hybrid i gyflogeion, busnesau a’r amgylchedd. Er enghraifft, mae gostyngiad mewn cymudo nid yn unig yn golygu treulio llai o amser a gwario llai o arian yn teithio, ond hefyd yn arwain at lai o geir ar y ffyrdd, llai o lygredd aer a sŵn, a mwy o le i gerddwyr a beicwyr. 

 

“Mae’n [Microsoft 365] gwneud y ffordd rydyn ni’n gweithio yn fwy hyblyg o lawer,” dywedodd sefydlydd y cwmni, Kathryn Williams. “Mae bod cymaint yn fwy cysylltiedig yn golygu, wrth gynnal ymweliadau â safleoedd, y galla’ i fynd at unrhyw ffeiliau sydd eu hangen arna’ i ar y safle, ac mae unrhyw ddiweddariadau rwy’n eu gwneud yn cael eu cadw yn y fan a’r lle.” Darllenwch y stori lawn. 

Yn ystod y pandemig, roedd gweithwyr yng Nghymru yn arbed 73 munud y dydd, ar gyfartaledd, a rannwyd rhwng amser gwaith ac amser hamdden. (Mewn blwyddyn, roedd y 33 munud ychwanegol a dreuliwyd yn gweithio yn golygu y byddai busnesau’n ennill bron i fis cyfan o waith). Mae symud i weithio hybrid hefyd yn golygu mwy o gyfleoedd mewn cymunedau y tu allan i drefi, yn ogystal â manteision economaidd a chymdeithasol i’r stryd fawr. 

Ym mis Medi 2020, dywedodd Llywodraeth Cymru yr hoffai i ryw 30% o weithwyr yng Nghymru fod yn gweithio gartref neu’n agos at eu cartrefi. Ers hynny, bu’n cynnig cyngor i fusnesau ar sut i symud i weithio hybrid ac mae’n cydweithio â chymunedau i sefydlu canolfannau cydweithio. Mae’r cynlluniau peilot cyntaf eisoes ar waith yn Y Rhyl a Hwlffordd, ac mae llawer mwy i ddod. Mae strategaeth gweithio o bell genedlaethol yn cael ei datblygu hefyd, sy’n amlinellu nodau ac amcanion parhaus y llywodraeth. 

O ganlyniad, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn cynnig ystod o gyrsiau ‘Gweithio’n Ddoethach’, sydd wedi’u bwriadu ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio o bell neu fel rhan o gynllun hybrid. Mae’r rhain yn cwmpasu ystod o bynciau, o’r offerynnau cywir i redeg eich busnes ar-lein, i fodelau gweithio hybrid a chydweithio, i amddiffyn rhag seiberdroseddu. Mae’r cyrsiau’n rhad ac am ddim ac yn para dwy awr. 

 

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) wefan bwrpasol sy’n rhoi cyngor defnyddiol i gwmnïau a chyflogeion sy’n ymgymryd â gweithio hybrid. Mae’n cwmpasu ystod o gyfrifoldebau cyflogwyr, fel creu polisïau gweithio hybrid; cefnogi, hyfforddi a rheoli perfformiad y rhai sy’n gweithio o bell; ac iechyd a diogelwch cyflogeion.  

Mae’r pwynt olaf o bwys mawr, gan fod gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol dros les cyflogeion o hyd, hyd yn oes pan nad ydynt yn gweithio yn y swyddfa. Mae angen i gyflogwyr gadw llygad am bethau fel cam-drin domestig, yn ogystal â bwlio ac aflonyddu, a all ddigwydd o hyd drwy gyfryngau cymdeithasol, negeseuon e-bost a sgyrsiau fideo. 

Mae angen i’r rhai sy’n gweithio gartref gymryd gofal rhesymol am eu hiechyd a diogelwch eu hunain o hyd, a dylent roi gwybod i’w rheolwyr am unrhyw risgiau i’w hiechyd corfforol neu iechyd meddwl, ac am unrhyw drefniadau gwaith y mae angen eu newid oherwydd eu sefyllfa bersonol. Mae canllaw manwl ar bynciau fel rheoli risg a chydymffurfio ag iechyd a diogelwch ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). 

Heriau gweithio hybrid  

Mae gan weithio hybrid nifer o fanteision i fusnesau, ond mae hefyd yn cyflwyno set newydd o heriau, a’r cyntaf yw rhoi egwyddorion, polisïau ac arferion gweithio hybrid ar waith yn ymarferol. Dylai hyn gael ei wneud ar y cyd â staff, gan osod canllawiau a disgwyliadau clir. Dylai’r rhain gynnwys: cymhwysedd (nid yw’n bosibl gwneud pob swydd o bell) a hyblygrwydd (sawl awr y dylai cyflogeion fod yn y swyddfa a sawl awr yn gweithio gartref). 

Mae angen rhoi rhywfaint o ystyriaeth i sut mae’r gofod swyddfa’n gweithio. Mae gweithio hybrid yn mynnu gweithle hybrid, a gallai fod angen rhywfaint o fuddsoddiad mewn dodrefn, offer, seilwaith TG a hyfforddiant. Er enghraifft, gallai fod angen arweiniad ar reolwyr ar reoli perfformiad, cyfathrebu a chydweithio o bell, yn ogystal â chynhwysiant a lles.  

Yn ogystal â phryderon ymarferol o ddydd i ddydd, mae angen i gwmnïau sy’n edrych ar weithio hybrid fynd i’r afael â chynhwysiant i’r rhai sy’n gweithio o bell hefyd. Mae hyn yn golygu cefnogi timau dosranedig â’r dechnoleg sydd ei hangen arnynt i gysylltu a chydweithio â’i gilydd, pa le bynnag y maent yn gweithio. Symudodd yr asiantaeth marchnata digidol, InSynch, sydd wedi’i lleoli yn Aberystwyth, i weithio gartref yn ystod y pandemig. Mae’r Prif Swyddog Gweithredol, Eddy Webb, yn credu mai’r allwedd i weithio o bell a/neu weithio h ybrid llwyddiannus yw defnyddio’r offer priodol.  

 

“Mae ein staff wedi’u cysylltu cymaint yn fwy â’i gilydd,” esboniai Eddy. “Trwy fanteisio i’r eithaf ar Slack, rydyn ni wedi gwella ein cyfathrebu mewnol. [Ac] fe wnaethon ni greu sgwrs fideo ‘Open Office’ ar Google Meet, sy’n caniatáu i’n tîm fod yng nghwmni ei gilydd fel petaen nhw yn y swyddfa. Mae wedi ail-greu’r amgylchedd swyddfa lle gall pobl gael sgyrsiau uniongyrchol â’i gilydd. Mae’n rhywbeth roedden ni am ei gadw’n gryf, er bod pawb yn gweithio o bell. Ar draws ein dwy swyddfa, rydyn ni’n fwy cysylltiedig nag erioed o’r blaen, mewn gwirionedd!”  

Mae gan weithio hybrid lawer o fanteision i gyflogwyr a chyflogeion fel ei gilydd, ond nid yw’n addas i bawb. Felly, mae angen i gynllun gweithio hybrid gael ei roi ar waith mewn ffordd deg a chynhwysol, a chynnig chwarae teg p’un a yw cyflogeion yn rhan ohono ai peidio. 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen