Diweddarwyd yr hysbysiad hwn diwethaf ar yr 2ail Chwefror 2018

 

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Fusnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym ni wedi datblygu Rhybudd Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

 

Cymerwch ychydig o amser er mwyn ymgyfarwyddo eich hun â’n hymarferion preifatrwydd.

 

1. Pam yr ydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gasglwyd

 

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol yr ydych chi’n ei ddarparu ar Ffurflen Cysylltu â Ni Cyflymu Cymru i Fusnesau. Yn unol â’n tasg gyhoeddus, bydd y data yn cael ei ddefnyddio i’ch adnabod chi a darparu’r gefnogaeth fwyaf addas i chi gan ein timau gwasanaeth.

 

2. Pwy fydd yn cael mynediad at eich data? 

 

Mae’r data hwn yn cael ei rannu gyda sefydliadau sydd mewn cytundeb gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni cefnogaeth fusnes a noddir gan Lywodraeth Cymru’n unig sy’n gysylltiedig â chynnwys Ffurflen Cysylltu â Ni BusnesCyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Bydd y data a gasglwyd gan dimau gwasanaeth cefnogi Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei systemau sy’n cefnogi’r system T.G. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.

 

3. Am ba hyd y cedwir eich manylion?

 

Ariannir Cyflymu Cymru i Fusnesau’n rhannol gan Gronfa Datblygiad  Rhanbarthol Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru sy’n rheolydd y data; cedwir eich manylion ar ein systemau hyd at 2 flynedd fel rhan o’n hyfforddiant parhaus a’n hadolygiadau safon. 

 

4. Eich hawliau:

Yn ôl y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:

  • gael mynediad at ddata personol Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i chi;

  • ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw

  • wrthwynebu prosesuneu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)

  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)

  • wneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

 

Cyswllt y Cwsmeriaid

Tŷ Wycliffe

Lôn Dŵr

Wilmslow

Swydd Caer

SK9 5AF

 

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

 

Am gymorth ag un o'r hawliau uwchben, cysylltwch â’n Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

 

5. Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi

 

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu ar ein cyfer fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddwn ni’n ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

 

6. Newidiadau i’r polisi hwn

 

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu postio yma ac maen nhw’n dod i rym yn syth. Pan mae newidiadau i’r polisi hwn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi gyda’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn i chi allu adolygu’r fersiwn newydd.

 

Ar gyfer gwybodaeth bellach ynglŷn â’ch hawliau gwybodaeth

 

Cyfeiriad post:

Swyddog Gwarchod Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

 

Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen