Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Rhagfyr 2019, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


A yw eich busnes chi’n manteisio ar yr adnoddau gwerthfawr a gynigir gan becynnau cyfrifiadurol ar-lein heddiw, sydd, o’u paru â gwell cysylltedd Bang-eang Cyflym Iawn, yn gallu symleiddio prosesau a rhoi hwb i gynhyrchiant?

Mae’r pecynnau cynhyrchiant cyfrifiadurol ar-lein mwy poblogaidd, fel Microsoft Office 365 a phecyn G Suite gan Google, fel arfer yn cynnig ystod o raglenni integredig ar gyfer prosesu geiriau, taenlenni, cyflwyniadau ac e-byst. Yn gynyddol, caiff cymwysiadau eraill fel fideo-gynadledda, meddalwedd cydweithio ac offer cyfyngau cymdeithasol eu cynnwys hefyd er mwyn gwella cyfathrebu a’r ffyrdd y mae pobl yn cydweithio.

Prif gryfder y pecyn cyfrifiadurol ar-lein yw ei fod ar gael drwy’r cwmwl, sy’n galluogi eich busnes i fod yn wirioneddol symudol. A’r elfen symudol hon sy’n ganolog i’r cynnydd posibl mewn cynhyrchiant.

Dewch o hyd i’r offer digidol i roi hwb i’ch busnes.
Cofrestrwch ar gyfer gweithdy #Cyflymubusnesau heddiw!

Drwy wneud eich busnes yn un symudol, gallwch elwa ar y canlynol:

Mwy o hyblygrwydd
Gan fod data wedi’i storio yn y cwmwl, gall gweithwyr gael mynediad di-dor at wybodaeth yn y gwaith, gartref neu wrth deithio, a hynny ar eu llechi cyfrifiadurol, eu ffonau symudol a’u gliniaduron.

Cydweithio’n well
Mae pecyn cyfrifiadurol ar-lein yn galluogi mwy nag un aelod o staff i gydweithio, adolygu a rhannu pob mathau o ddogfennau, taenlenni, cyflwyniadau, diagramau, nodiadau a syniadau o unrhyw leoliad.

Gweithiwch yn ddi-dor ar draws systemau allweddol
Yn ychwanegol at y manteision a gynigir drwy awtomeiddio tasgau craidd y swyddfa, mae lle hefyd i wneud arbedion sylweddol o ran cynhyrchiant drwy integreiddio cymwysiadau busnes allweddol eraill gyda meddalwedd gyfrifiadurol ar-lein. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • Gall ymgorffori meddalwedd rheoli prosiect helpu timoedd i fonitro gwaith ac asedau a lleihau’r angen am gyfarfodydd.
  • Gall integreiddio meddalwedd cyfrifa ar-lein symleiddio prosesau drwy, er enghraifft, fewnforio data o archebion prynu neu allforio data mewn fformat y gellir ei fewnbynnu i daenlen.
  • Gall integreiddio CRM gydag e-byst alluogi’r cymhwysiad CRM i olrhain e-byst a dderbynnir, a darparu gwybodaeth am y rhai sy’n eu hanfon gan gynnwys gweithgareddau gwerthu, achosion a chyfleoedd, a hefyd greu cofnodion CRM newydd yn uniongyrchol o’r rhaglen e-bost.

 

Mae un busnes bach o bob pump yng Nghymru yn defnyddio systemau CRM i ennill y blaen ar eu cystadleuwyr drwy sicrhau prosesau rheoli cwsmeriaid gwell, arbed amser ac arian, a datgloi mwy o gyfleoedd busnes. Ymunwch â nhw.

 

Gwnewch y dewis cywir

Mewn unrhyw drafodaeth am gynhyrchiant, mae cost yn amlwg yn fater allweddol. A’r newyddion da wrth fynd ati i ddewis pecyn cyfrifiadura ar-lein yw bod y prif bethau a gynigir gan Microsoft, Google a chwmnïau cystadleuol eraill yn hynod gost-effeithiol. Mae hyd yn oed dewisiadau ffynhonnell agored am ddim eraill os nad ydych chi eisiau gwario.

Y dull a ffefrir yw model tanysgrifio, sydd fel arfer yn cynnwys sawl fersiwn wahanol – o becyn ‘sylfaenol’ yn darparu’r feddalwedd graidd hyd at fersiynau busnes a menter fwy cynhwysfawr. Bydd hyn yn cynnwys diweddariadau a gwelliannau, sy’n golygu y gallwch chi gyllido ar gyfer costau y cytunwyd arnynt a chostau y gellir eu rhagweld heb lawer o gostau annisgwyl. Mae’r ffaith bod fersiynau y gellir eu tyfu yn unol ag anghenion eich busnes yn eich paratoi ar gyfer y dyfodol o ran gallu cynyddu nifer y defnyddwyr a maint y storfa gysylltiedig wrth i’ch gofynion ehangu.

Helpwch weithwyr i fod yn fwy cynhyrchiol.
Cofrestrwch ar gyfer ein gweithdy Office 365 rhad ac am ddim.

 

Gofalwch am eich gwybodaeth

Ystyriaeth allweddol arall yw sicrhau bod eich data, sef cynhaliaeth eich busnes, yn cael ei gadw’n ddiogel yn rhywle y mae gennych fynediad hawdd ato. Yn galonogol, gall darparwr meddalwedd cyfrifiadura Cwmwl gynnig nifer o fanteision arwyddocaol wrth storio eich data ar-lein. O safbwynt adfer eich data mewn trychineb, caiff ei arbed wrth gefn ar weinyddwyr allanol a’i amddiffyn rhag ofn bod caledwedd fewnol yn methu.

Cryfder mawr arall darparwyr cyfrifiadura cwmwl yw diogelwch, gyda llawer bellach wedi’u hardystio drwy’r safonau diogelwch perthnasol i sicrhau cyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd eich data. Mae’n werth cadw GDPR mewn cof i sicrhau bod y darparwr a ddewiswch yn prosesu data’n gywir.

 

Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfle

Ac yn olaf, mae’n hanfodol bod lefel priodol o argaeledd, cymorth a hyfforddiant gwasanaeth ar waith ar gyfer eich system cyfrifiadura Cwmwl. Wedi’r cyfan, os nad yw’r system ar gael, neu os nad ydych chi’n ei defnyddio’n effeithiol, yna mae’n annhebygol y byddwch chi’n cyflawni’r enillion cynhyrchiant y gobeithir amdanynt. Mae gan y pecynnau cyfrifiadura gorau gwestiynau cyffredin a thiwtorialau cynhwysfawr i chi helpu eich hun, gwefannau cymorth ar-lein, a chymorth arbenigol manylach ar gael dros e-bost, ffôn neu sgwrs fyw ar-lein. Dylech chi bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob cyflenwr a gweld pa un yw’r gorau ar gyfer eich busnes.

Employees from Intrado in high-vis jackets.

“Mae newid i gyfrifiadura Cwmwl yn golygu y gallwn ni gynllunio prosiectau’n fwy effeithiol a gwario llai ar y gwaith gweinyddol.” – Dysgwch sut manteisiodd Intrado i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol a thyfu 300% mewn tair blynedd.

Beth yw’r opsiynau?

Os nad ydych chi’n siŵr lle i ddechrau, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yma i helpu. Yn ogystal â chyngor arbenigol gan ein cynghorwyr busnes digidol, rydym ni’n cynnal gweithdai i ddangos pa offer sydd ar gael.

I’ch helpu chi i ddewis o’r amrywiaeth eang o dechnoleg sydd ar gael, chwiliwch drwy ein cyfeiriadur Meddalwedd Hanfodol – canllaw cyflawn, di-duedd i lu o offer digidol sy’n gallu trawsnewid y ffordd rydych chi’n gweithio er gwell.

 

Ydych chi eisiau dysgu sut gallwch chi ddefnyddio technoleg ddigidol i wella cynhyrchiant?

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen